Skip to main content

YGERDDORFA: CgírjjgraUm gtisoí at teanaetjr Cerbbona*tjr a garöoomattfr <%mreÌ0. _ CYHOEDDEDIG AR Y CYNTAP O BOB MIS. Rhif 72 CYF. VI. Pris 2g fo ORIEL Y PRIP PEISTRI. BEETHO V E N. Parhad. " A ydych wedi chwareu peth o gerddoriaeth Mozart rywbryd ?" gofynai Joseph, gan wincio ar y dyn bychan. " Ydwyf bîd siwr *' atebai y llanc. "A beth yw eich barn ara dano?" " Mai efe yw y mwyaf melodaidd, ardderchog, ac anhysbyddol feistr a adnabyddodd y byd erioed," ebai Beethoyen. "Feallai fod Sebastian Bach yn «efyll yn uwch mewn cerddoriaeth eglwysig, ac Handel mewn oratorios', ond ar yr esgynlawr, y mae cyfansoddwr Salaburg hyd yn nod yn rhagori ar Gluck mewn gorphenedd.'' "A ellwch chwareu peth o'i weithiau heb nodau?'' gofynai yr Ymherawdwr, yr hwn a edrychai yn foddlawn.. i'w atebiad. "Gofyned eich mawrhydi am beth bynag a weloch yn dda,'' ebai y cerddor ieuanc. Myfyriodd yr Ymherawdwr am ychydig, yna efe a ddywedodd, " chwareuwch, a gwnewch amrywaeth- au i'r Aria Sarastro in diesen heiligen Hallen" Eisteddodd cerddor ieuanc Bonn wrth yr offeryn, a chwareuodd yr alaw gyda nerth a Uawnder o fynegiant, nes synu yr Ymherawdwr, yn ogystal a'r boneddwr bychan; eto, cyfodai eu syndod i bwynt uwch fel yr elai Baethoven yn mlaen gyda'r am- rywiaethau, pa rai a chwareuai mewn ton hynod o gyfoethog, a« o'r braidd yn oruwch-ddynol mewn melodedd. "Bravo, bravissimo?" gwaeddai y dyn bychan gyda llais tanllyd, fel y gorphenai Ludwig yr alaw. "Ardderchog; ond yn awr, gadewch i mi gael olywed un o'ch cyfansoddiadau eich hun." Boddlonodd Ludwig ar unwaith i'w ddymuniad, a chwareuodd ddernyn a gyfansoddodd yn arbenig i'r berdoneg; ac am hwn y dywedodd y boneddwr bychan, ei fod nid yn unig o'r dosbarth uchaf o gerddoriaeth, ond hefyd yn wreiddiol trwyddo; ac yn nodedig aru ei fynediadau melodns, ac ara y dieithr, a braidd anhysbys safon o beroriaeth, »' Yn awr, gadewch i mi gael eich barn gydwybod- ol am y cerddor ieuanc hwn o ddinas Bonn,'» gofynai yr Ymherawdwr i'w gyfaill. "Efe a fydd yn myag y meiatri blaenaf yn y gelfyddyd" ebe efe yn groew, gan estyn ei law t Beethoven. "A wyddoch chwi pwy sydd yn traddodi y feirniadaeth hon ?'' gofynai yr Ymherawdwr, gan d roi at y llanc. Edrychodd Ludwig yn graff ar y dyn bychan, gan ateb "na wn." "Efe ydyw Wolfgan Amadeus Mozart" ebai yr Ymherawdwr, gyda phwyslais. Llamai calon Beethoven o'i fewn. Wedi hyn cafwyd ymddiddan yn ystod pa amaer gwnaeth yr Ymherawdwr i Mozart a Beethoven gymeryd eu heisteddleoedd. Gofynodd yr Ymher- awdwr i'r llanc es oedd ganddo ryw fwriad am ddyfod i aros i Vienna. Yr oedd Ludwig yn ddigon boddlon i hyny, ond yr oedd dyledswydd yn ei alw yn ol. Efe a siaradai yn dyner am ei anwyl fam a'i frodyr bychain, ac arn ei gymwynaswr caredig yr Etholwr Max Franz. Nid oedd hefyd wedi anghofio Jeanette von Hourath, ond ni siaradodd ara dani hi. Teimlai rywbeth fel yn ei dymi yn ol tua glauau y Rhine. Pan ollyngodd yr Ymherawdwr ei ddau ymwelydd ymaith, efe a anrhegodd organydd Bonn a modrwy werthfawr yn gofarwydd am yr ymweliad. Yr oedd hwn yn ddydd disglaer yn hanes bywyd Ludwig. Yr oedd wedi gweletl rheolwr yr Ymherodraeth. Germanaidd, a rheolwr melusaf teyrnas peroriaeth» Penod IX. Yr oedd y gwanwyn wedi ymdoddi i'r haf pan ddychwelodd Beethoven a Count Waldstein i ddinas Bonn. Gymaint o adgofion oedd wedi eu dwyn gydag ef gartref! Pan gymharai amser ei ymadawiad &<r amscr ei ddychweliad, yr oedd yn teimlo fel pe byddai wedi tyfu o fachgenyn i ddyn cyflawn. Yr oedd gwedi dyfod yn gydnabyddus a golygfeydd ardderchog ; yr oedd wedi teithio trwy ganoedd o drefydd a phentrefydd ; yr oedd wedi g'weled amryw lwythau o'r genedl Germanaidd^; ac uwchlaw yr oíî,