Skip to main content

Y GERDDORFA: __________ CYHOEDDTCDIG- AR Y CYNTAF O EOB MIS Rhif 70 CYF. VI. GORPHENAF 1878. Pris 2i ORIEL Y PRIF FEISTRL B E ETHO V E N, Parhaâ, Efe a ynganodd rywbeth rhwng ei ddanedd yn nghylch ei daith fwriadol i Yienna, ac y buasai pobl yno yn sicr o'i holi yn nghylch Cologne a'i holl ardderchawgrwydd; ac nad oedd yn hoffi yraadael a'i wlad ei hun heb dalu ymweliad a phrif ddinas y Rhine Isaf. " Ond a ddeuweh chwi i'n gweled ni?"gofynaiy foneddiges ieuanc. Nid oedd eisiau gofyu y gofyniad eilwaith. Wedi dyfod allan o'r egiwys, cyflwynodd Jeanette y cerddor ieuanc i'w pherthynasau a'i chyfeiUion, Y teulu, Ludwig a'r eyfeillion ereiü a aethant gyda'u gilydd i gartref Jeaneíte. Yno, yr oedd pob serchawgrwydd, «a phob peth arall i wneud dyn yn ddedwydd, ac i deimlo yn gartrefol, Er hyn nid oedd yr organydd ieuanc yn hollol rydd oddiwrth wylder, Nid oedd yn ymddangos yn barod i siarad & neb, ac nid oedd yn orchwyl rhy hawdd i'w gaeli ateb cwestiynau pan y gofynid iddo. Nid oedtl dim ond ei lygaid yn siarad, ac nid oedd y rhai hyny yn symud oddiar wyneb Jeanette. Rhwng pobpeth, yr oedd Ludwig yn cael ei gyfrif yn ymwelydd lled rhyfedd. Yr oedd hwn a'r lha.ll yn gwneud ambell eylw yn ddistaw yn nghyleh ei ymddygiad rbyfedd, Ond sisialodd Jeanette yn nghlustiau rhai o honynt <( Gadewch iddo ch»rareu rhywbeíh, a chwi a farnwch yn wahanol am da.no,' Gyda hyn, gan droi at Ludwig, hj a ofynodd iddo, "Ai ûi wnewch chwi ddijaa ein difyru ag yehydig fiwsig ? »' "Gyda pbleser," efe a atebodd. Yna, hi a aeth at y berdoneg, ac agorodd Ludwig hi, tra yr oedd y foneddiges yn edrych am ryw ddarnau o gerddpriaeth. Pan eisteddodd, dis^ynodd ei lygaid ar ei gan ei hun. Aeth pob peth o'i amgylch yn niwj. " Mi wn y gallaf ei channu yn well yn awr " ebai y foneddiges. "Gobeithio eich bod wedi maddeu i mi am fy nirejdi, __ Tarawodd Ludwig yr allweddau a dechreuodd ehwareu, tra y canai Jeanette gydag ef. Erbyn eu bod wedi gorphen canu, yr oedd yn guro dwylaw dibaid. Gofynai hwn a'r llall "'pwy oedd y cyfansoddwr." Pwyntiai Jeanette gyda balchder at Luiwig; ar hyn^ disgynai cawod o ganmoliaeth arno. Jeanette wedyn a ddywedodd. "Rhaid ì chwi ei glywed yn chwareu wrtho ei hun, cyn y gallwch farnu yn deg. A fyddai yn wahaniaeth genyeh chwareu amrywiaeth i'r gan flaenorol?'' Dechreuodd Ludwig o'r newydd, gan adael î'r gerddoriaeth eangu ì' amrywiaethau mwyaf newydd. Weithiau yn wyllt, bryd arall toddai i'r sisial tyn- eraf. Yr oedd pawb fel wedi eu syfrdanu, gan rhyfeddu, a siarad am alluoedd y eerddor ieuanc. Treuliwyd y prydnawn fel hyn yn hynod ddifyrus, a llithrai yr oriau heibio braidd yn ddiarwybod i neb. Yr oedd yn myned yn hwyrach hwyrach. Tarawodd yr awrlais naw. "Y Nefoedd fawr!'' ebai Ludwig, gan neidio ar ei draed, "Maeynihaid i mi fyned gartref." "Nis gallwch fyned i Bonn heno" ebe pawb. "Rhaid ì chwi aros gyda ni,'' ebe gwraig y ty, "y mae eich gwely wedi ei barotoi." "Nis gallaf aros; yr wyf j gyfarfod Count Waldstein boreu fory am chwech, i gychwyn gydag ef i Vienna." Yn unol a'i benderfyniad, paroíodd Ludwig i ym- adael. Talodd ei ddiolchgarwch i'r teulu a ftarweliodd a'r cwmni, a chychwyondd ymaith, yn cael ei ddilyn ì'r drws gan Jeanette a'i mam. Pan oedd yn gadaej y trothwy sisialodd Jeanette yn ei glust, "Byddwch ddedwydd, a phan y dychwelwch, ni a gydganwn unwaith eto, Ymaith ag ef trwy y tywyllwch gan gyfeirio tua chartref, ac yr oedd geiriau ymadawol Jeanette o hyd yn ei glustiau. Yr oedd yn ganol nos arno yn cyrhaedd dinas Bonn. Yr oedd ei fam yn y drws yn ei dderbyn. Yr oedd yn crynu gan oerfel a phryder. Ond nis gallai Ludwig weled wrth oleu gwanaidd y lamp a ddaliai yn ei llaw, pa mor welw yr oedd ei gwynebpryd. " Tydi ydyw, ac nid oes dim un anhap wed i digwydd i ti," ebai ei f am yu bryderus.