Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GERDDORFA: Ciîíejjambm jgtîsol ui kmmwá\ êtttâaÛMfy a §uxììoonmtfy <%mmg. CYHOEDDEDIG AR Y CYNTAF O BOB MIS Rhif 69 CYF. VI. MEHEFIN 1878. Pris 2g ORIEL Y PRIP PEISTRI. B EETHO VEN, Parhad. Boreu tranoeth wedi i Beethoven godi ac ymwisgo, efe a ymaflodd yn y pwrs a'r arian, yr hwn a agorodd am y tro cyntaf; ond gwnaeth hyny mor lledchwith. fel y treiglodd y darnau arian i hob cyfeiriad ar hyd a lled yr ystafell. O dan gyffroad y foment efe a ynganodd air diangenrhaid, ac yr oedd yn fwy na haner parod i adael y darnau arian fel pethau diwerth ar hyd y llawr. Gyda hyn, daeth ei fam i'r ystafell, ac a edrychodd gyda syndod ar y darnau arian oedd yn wasgaredig ar hyd y llawr. Cyn gynted ag y rhoddodd ei fam fynegiad o'i syndod, hi a gauodd ddrws yr ystafell rhag i lygaid ei gwr ddisgyn ar yr olygfa, yr hon a fuasai yn ormod o demtasiwn iddo ef, hi a ddechreuo dd gasglu y n nghyd y trysorau gwasgaredig. Aeth Ludwig ar unwaith i'w chynorthwyo, fel yr oedd hob amser yn barod i helpu ei fam o dan bob math o amgylchiadau. Parhaodd y gorchwyl o gasglu yr arian gryn amser, yr oedd rhai o'r darnau wedi treiglo o dan y gwely, y bwrdd, y berdoneg, a rhai i'r agenau rhwng planciau y lloft. -Wedi gorphen casglu yr arian a'u rhoi ar y bwrdd, cyfrifodd Frau von Beethoven ddeg ai hugain o Carolinas. Nid oedd ŵedi gweled y fath swm o aur ac arian erioed o'r blaen. Hi a wenodd gan edrych ar ei mab gyda thremiad o edmygedd a ehariad annesgrifiol, gan ddywedyd. ((Ac yr wyt wedi enill y rhai hyn, Ludwig?'' "Prin eu hmillj' atebai ei bachgen, "ondfyeiddo i ydynt.'» **Yr wyt yn fachgen cyfoethog," sylwai ei f am yn mhellach. " Haner ac haner," ebai Ludwig. '*Ai nid wyt wedi dy foddloni eto ? >' gofyüai ei fam. "Mwy na fy llwyr foddloni," ebai yntau, ond am y cyfoeth, mae ei haner i ehwi, a'i haner i minau." Gyda dweyd hyn, efe a ranodd y darnau arian yn ddau sypyn cyfartal, heb gymeryd y drafferth o'u cyfrif, a rhöddodd un sypyn i'w fam, gan gadw y ilall at ei wasanaeth ei hun. llall at ei wasanaeth eih un. "Buaswn yn rhoi y cwbl i chwi mam" ychwanega '•ond yr wyf ar gymeryd taith gyda Count Walstein, yr hon a fydd yn lled gostfawr. Y mae eu haner yn ddigon i mi. Ac yn wir, yr wyf yn erfyn y deuaf a pheth o honynt yn ol hefyd. Am y swm a roddais i chwi, defnyddiwch hwy at wasanaeth eich huu a'm brodyr." Sychai ei fam ei dagrau gyda ei harffedog gau furmur " galon dyner! „ " Ond mae genyf uu dymuniad,'' ychwanegai Ludwig, "a hyny raewa cysylltiad a darlun fy nhadcu. Hoflwn yn fawr ei adfeddianu. % Nid yw yn taro i chwi fyn'd yn ei gylch heddyw, dydd y pasg ydyw : ond ewch yfory neu drenydd. Buaswn yn myned fy hun at y gwestywr, ond yfory, byddaf wedi myned ymaith." "Mi a wnaf dy ddymuniad" ebai ei fam, tra ei dagrau yn treiglo dros ei gruddiau. "Yr wyf yn addaw hyny i ti. Pan y dychweli, bydd y darlun yn hongian unwaith eto uwchben dy berdoneg." "O! y fath lawenydd a fydd hyny i mi" ebai Ludwig, gan osod ei law yn eiddo ei fam. " Ond yn awr, un peth arall. Y mae genyf i dalu amryw ynrweliadau a'm cyfeillion, yt hyn a gymer fy amser hyd y prydnawn, ac efallai hyd yn hwyr heno. Ni wnewch fy marnu yn anngharedig yn hyn." "Gwna fel y mynot," ebai ei fam yn garuaidd; a hi a frwsiodd ei got, a thaclu ei wallt mewn trefn, gau edrych yn foddhaus ar ei ol fel y gadawai yr ystafell. Croesodd Ludwig y trothwy, ac yn f uan gad awodd y dref trwy y glwyd ogleddol, ac i'r heol sydd yn arwain i Cologne. Gydag ambell drem wylaidd ar bob ochr i'r heol, fel pe buasai yn anfoddlon i neb ei adwaen, efe a frysiodd yn mlaen wedi cyrhaedd yr heol fawr. Ni arosai i sylwi ar neb na dim, ond teithiai yn ei flaeu heibio y pleserdeithwyr, ac heibio y pentrefi oedd ar ei ffordd. Wedi taith o bedair milldir Germanaidd, yn ystod pa rai ni safodd, efe a welai dyrau Cologne yn ymddyrchafu io' flaen. Efe a aeth i fewn i'r ddinas trwy borth Severin. Erbyn hyn yr oedd arno chwant bwyd ac angeu gorphwysfa. Efe a drodd i westy cyfagos, ac a arch- odd aai wydrad o win, ac ychydig ymborth. Wedi