Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GERDDORFA: CYHOEDDEDIG- AR Y CYNTAP O BOB MIS, Rhif 68 CYF. VI. MAI, 1878. Pris 2g ORIEL Y PRIP PEISTRI. BEETHOYEN Parhad. Yr oedd Beethoven erbyn hyn wedi ei lanw a Uawenydd. Efe a afaelodd yn llaw yr Etholwr gan ei chusanu. "Digon'' ebai y tywysog. " Gadewch i mi eich gweled ar eich dychweliad.'» Gyda hyn efe a amneidiodd ar y llanc i ymadael Prysurodd Beethoven o'i wyddfod yn y teimladau mwyaf brwdfrydig. Yn y fynedfa wrth fyned allan efe a gyfarfyddodd ar Count Waldstein, yr hwn a ofynodd iddo yn llawen, " Wel beth ydych yn ei dilywedyd am eich cosp ?" "Y mae yn ardderchog" ebai Ludwig. " Nis gallasai fod yn well.'' " Oncl pa fodd y mae yn ngylch y peth mewn ystyr arianol" gofynai y Count ; "gobeithio fod y gôd wedi ei llanw yn dda, oblegyd heb hyny nid llawer o fwyniant a geir yn Vienna." "Edrychodd Beethoven yn syn yn ei wyneb. Fel afer, yr oedd wedi annghofio y peth mwyaf anghen. rheidiol. "Yn wir—" ebai yn wyllt. Gadawodd Waldstein ef yn ei ddyryswch am ychydig, yna efe a ddywedodd wrtho, '' Wel, ai ni fydd i chwi godi yr arian sydd yn ddyledus i chwi ? " " Yn ddyledus i mi'' ebai y bachgen, "nid oes dim yn ddyledus i mi'' "Yr ydych wedi annghofio eich dyledwyr'' sylwai y Count. Edrychodd Beethoven yn daer yn ei wyneb i weled pa un ai yn gellweirus neu yn ddifrifol y dywedai hyny ; ond tynodd Waldstein godaid o aur o'i logell gan ddywedyd, "Y mae yn dda fod eich dyledwyr yn ddynion gonest. Ai ni chyfansoddasoch y faled i ni ? ac hyd yn awr nid yw eich llafur wedi ei gydnabod. Dyma eich tâl.'' Yr oedd Ludw.ig fel yn anfoddlon i dderbyn y god. "Xa, nis gall hyn fod" ebai; "Yr oedd yr ychydig waith hwnw yn blessrus iawn i mi. Y mae yn bleser mawr i mi gael gwneud rhywbeth a allaf i un sydd wedi dangee cynifer o enghreifftiau o'haelioni a eharedigrwydd. "Y mae yn ymddangos i mi eich bod yn fy nghyfrif fel eich anrhegwr y waith hon. Nid felly y mae. Y mae yn wir eich bod wedi gwneud y cyfansoddiad, ond i'r Etholwr ydoedd. Nis gall yr Etholwr dderbyn rhwymedigaeth, Efe sydd yn an- fon i chwi yr arian hyn." Treiglai y dagrau dros ruddiau Beethoven pan dderbyniai yr arian, ac efe a sisialai, "y caredig dywysog''! "Iê, dyna ydyw,'' ebai y Count yn wresog. Nid mab annheilwng ydyw efe i'r garuaidd—yr urddasol, yr enwog Maria Theresa, nac annheilwng frawd i'r ardderchog Ymerawdwr Joseph. Ond yn awr, dydd da i chwi, a gofalwch eich bod chwi, a phobpeth a fydd genych wrth fy mhreswylfod Llun Pasg am chwech o'rgloch yn y boreu. Na adewch i'r gyrwyr aros i chwi, oblegyd y mae yn daith hir ac amgylchynol trwy y diriogaeth Germanaidd o'r Rhine hyd y Danube." Addawodd Ludwig osod pobpeth yn barod mor fuan ag oedd bosibl, a chan ddiolch eto i'r Count, efe a adawodd y palas. Prysurodd tua chyfeiriad y Zehr-garden, lle yr oedd wedi gadael ei gyfeillion; teimlai nad oedd yn iawn iddo eu gadael yn y tywyllweh yn nghylch achos ei ymadawiad o'u plitb? Efe a gerddodd i'r ystafell gydag ymddangosiad boddhaus. Yr oedd pawb yn syllu arno, ac am gael clywed yr helynt pa fodd yr oedd wadi bod arno. " Y mae pob peth yn iawn" llefai Ries y capel. feistr. " Yr wyf yn deall hyny wrth ei wyneb disglaer.'' " Felly ni effeithiodd Eeller ddim'' gofynai y cyfaillWegeler. "Yn wir efe a effeithiodd rywbeth," atebai Beethoven. "Beth yw hyny?'' llefai amryw yr un pryd. «<Yr wyf wedi derbyn cosp'' oedcl yr afeb. "Beth bynag, y mae eich coesau yn eidclo i chwi'' sylwai Stephen. "Ac nid ydych wedi eich carcharu na'ch crogi» ychwanegai Christopher. "Dim ond fy alltudio,'' ebai Beethoven, Nuc edrychwch yn syn; yr wyf wedi cael ty