Skip to main content

Y GERDDORFA: CYHOEDDEDIG AR Y CYNTAF O BOJ Rhif 6T CYF. VI, ORIEL Y PEIP FEISTRI, B E E T H O V E N Parhad, Daeth cyfle cyn hi? i brofi y eanwr. Yn ystod y tri diwrSiod olaf o'r wythnos Sanctaidd, arferyd canu galaraadau y Prophwyd Jeremiah yn nghapel y wladwriaeth yn Bonn. Fe gofir fod y galarnadau hyn yn gyfansoddedig o fynediadau yn amrywio o bedwar i chwech ban inewn hyd, yn wasgaredig gyda chorawd. Mae yr unawd yn gynwysedig o bedair acen olynol, a thrwy îiyn y mae amryw eiriau, ac weithiau frawddegau yn cael eu dadganu ar y trydydd, nes i ddisgynsain fer i arwain yn ol i'r cyweirnod4 Y canwr a ddewiswyd i ymgymeryd a'r rhan hon oedd Keller. Chwareuai Beethoven y cyfeiliant îddo. Yn y cychwyniad yr oedd y canwr yn gwneud ei waith yn rhagoroî. Yr oedd y nodau yu cydseinio allan yn glir a chywir. Yr oedd Êeller yn fwy ffyddiog ynddo ei hun yn awr gan îiad oedd y darn yn rhoi iddo ond anhawsderau dibwys. Ond yn awr sisialodd Beethoven wrth y cantorion ereill "Gwrandewch ! •' Gyda hyn, efe a ymdaflodd yn annisgwyladwy i amrywiaethau yn y cyfeiliant, yr hyn a achosodd i'r canwr druan golli ei nôd, felly eî analluogi i gyrhaedd at y ddisgynsain, Yr oedd y digwyddiad annisgwyladwy wedi taflu y cantorion i ddyryswch. Edrychent o'u hamgylch mewn syndod. Chwarddai rhai, edrychai ereill yn ddigofus. Ymddangpsai Reller fel yn wenfflam gan ddigofaint. Yr oedd yn dda iddo ef na Hthrodd Beethoven ei hun allan trwy fethiant y canwr, onite buaaai y methiant yn fwy amlwg i'r mwyafrif o'r gynulleidfa. Gwnaeth yr organydd bob peth a allai i helpu y canwr mewn geiriau yn ogystal a melodedd, ac felly cyrhaeddodd Reller y terfyniad yn fwy llwyddianus nag y gallasai fod o dan yr amgylchiad, Yr eiliad yr oedd y gwasanaeth drosodd, rhuth- rodd Keller allan o'r capel gan fygwth y buasai yn dwyn cwyn yn ei erbyn gerbron yr Etholwr ei Pris 2g hunan. Eeethoven yn hollol dàigyffro a wahoddodd y eantorion ereill i'r Zyhr-garden i gael yfed y llestraid gwin oedd wedi ei enill A dyma gerddor nad yw yn hoffi sudd gwreichion. llyd y gwinwyddî Yr oedd gwrthwynebydd mwyaf digofus yr organydd yn ddigon parod i dderbyn ei wahoddiad. Y noson hono cafwyd cyfarfod difyrus yn y Zyehr« garden, i ba le yr oedd Beethoven wedi gwahodd ei gyfaill Wegeler a'r brodyr Von Breunings. Tra gwreichionai y gwin peraroglus yn. y gwydrau yr oedd yr amgylchiad a ddigwyddodd yn ystod y dydd yn cael ei drafod, ac nid oedd diwedd ar y tybiau yn nghylch beth fuasai canlyniad bygythiad y canwr digofus, os y buasai yn dwyn cyhuddiad yn erbyn Beethoven gerbron yr Etholwr; siaradaí rhai yn ysgafn am y peth, tra yr ystyriai ereill y mater yn bwysig. '"Pw!" ebai Wegeler, "mae yr Etholwr yn ddyn caredig, ac nid yw yn wrthwynebol i dipyn o ysmaldod; ac mae bob amser yu barod i roddi eî gefnogaethi ddyn o dalent yn hytrach nac i un enwog am ei anwybodaeth a'i ryfyg. Beth sydd gan Furioso i'w ofni oddiwrth y fath ddyn caredig?" Ond ar yr ciliad hono agorwyd y drws, ac ymholai un o weision yr Etholwr am Beethoven yr organydd. Cyfododd Ludwig ag aeth tuag ato. Estynodd y gwas nodyn iddo, gan ei hysbysu ei fod wedi ei orchymyn i aros am atebiad. Torodd Ludwig y sel, a dadblygodd y papyr, yr hwn a gynwysai y geiriau canlynol: " Yr wyf yn deisyf arnoch, o dan ba amgylchiad bynag y caiff hwn chwi i ddyfod ataf fi ar unwaith. Bydd i'r Etholwr siarad a chwi.—Waldstein." Y cwmni a eisteddent o amgylch y bwrdd a aethant oll yn ddistaw, gan edrych ar y Uanc gyda'r chwilgarwch mwyaf. Disgwyliai rhai ei weled yn gwelwî. " Beth sydd yn bod" gofynai Wegeler. "Yr wyf i fyned at yr Etholwr" oedd yr atebiad. Beethoven ar hyn a gydiodd yn ei het, ac a aeth allan gyda gwas yr Etholwr, gan adael i'w gyfeillion ddihysbyddu eu bunain e bob damcaniaŵ