Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GERDDORFA: CYHOEDDEDIG AR Y CYNTAF O BOB MIS. Rhif 65 CYF. VI. Pris 2r ORIEL Y PRIF FEISTRL BEETHOYEN Parhad. Yr oedd yn rhialtwch mawr yn Bonn ar adeg agoiiad y Brifysgol yno. Un noson gwahoddwyd prif ddynion y He i ddawns-wledd oedd i gymeryd lle yn mhalas yr Etholwr. Yr oedd y neuadd fawr wedi ei haddurno i'r man eithaf, ac adseiniai y muriau gan felodedd yr offerynau cerdd. Ar bob ochr eisteddai y gwahoddedigion urddasol' ar wynebau pa rai y disgleiriai llawenydd y dydd. Yr oedd Wegeler, y ddau Von Breuning, a Beethoven yno; ond ni chymerent ran yn y dawnsio, am nad oeddynt wedi ymgyfarwyddo yn nirgelwch y gelfyddyd hono, heblaw eu bod braidd yn ieuainc i gymeryd rhan, Gan hyny, safent hwy gyda eu gilydd i edrych ar y cyplau yn chwyrndroi o am- gylch, neu yn ymddiddan roewn rhyw gongl. Yr oedd Wegeler wedi synu y dysgedigion gyda i hyawdledd ar agoriad y Brifysgol, ac wedi enill sylw a chymeradwyaeth yr Etholwr, ac o herwydd hyn yr öedd aml un o'i gydnabyddion yn ei lon- gyfarch wrth fyned heibio ar gylch y ddawns. "Mae yn ofidus genyf" ebai Stephen von Breuning wrth yr efrydydd meddygol, "imi gael fy rhwystro i'ch clywed! Buasai y fath bleser genyf gael bod yn llygad-dyst o'ch buddugoliaeth." "Yn wir, y mae yn debyg eich bod wedi siarad yn hynod o effeithol" ychwanegai Christopher. " Ond oni bae eich bod yn gyfaill anwyl i ni, buaswn yn sicr o genfigenu wrthych. Ond yn awr, yr wyf yn teimlo dyddordeb neullduol yn eich llwyddiant." "Yr wyf yn eich sicrhau ebai Beethoven, "yr oedd Lladin yn treiglo fel ffrwd dros ei enau, eithr yn anffortunus i mi, nid oeddwn yn'Jdeall un gair o hono. Bhaid i mi addef fod hyn yn boenus iawn i mi, ond pen gwag tylawd ydwyf, yr hwn na ddysgodd ddim heblaw gofidio am esgeuluso cyfleusderau i hunan. ddiwylliad." "Nid oeddwn yn rhyfeddu dim" atebai Wegeler, yr^ hwn oedd a'i wyneh yn ddan- gosiad o'i foddhad, *'-fod y cwbl yn annealladwy i chwi, Furioso. Pob dyn yn ol ei ddawn. Eich dawn chwi yw cerddoriaeth, ag at hyny nid yw Lladin a Groeg yn angenrbeidiol. Yr wyf yn barnu er hyny, y rhagorwch arnom i gyd yn eich canghen bicli hun Ond byddwch chwi a Christopher, a Stepben yn swyddogion, ac ni fydd angen i chw1 fod yn hyddysg iawn mewn Groeg a Lladin." " Ond paham y mae hyn yn angenrheidiol i chwi fel physygwr ? Beth sydd a fyno llif esgyrn a gweithiau y prif awduron?'' " O ! fy mechgyn" ebai Wegeler, "A wyddoch fy mod wedi gwneud fy meddwl i fyny i fod yn broffesAvr yr athrofa hon yn Bonn ? " " Ho ! ho !'' gwaeddai y brodyr von Breuning. ".ẅm'o!'' ychwanegai Ludwig. Ar y foment hon, neullduodd y pâr ieuanc oddiwrth y rhai oedd yn dawnsio, gan nesu i gyfeiriad Ludwig a'i gyfeillion. Cyn gynted ag y gwelodd Stephen y foneddiges, efe a ddiflanodd i'r ystafell nesaf. Gwridodd Beethoven, ac ymddangosai fel wedi ei hoelio wrth y llawr. Jeanette von Honrath oedd yr hon a safai o'i íiaen yn ei holl harddwch a'i gogoniant. Yr oedd yn dawnsio gyda swyddog ienanc hardd mewn gosgorddwisg Awstriaidd. Yr oedd y foneddiges yn bywiog ymddiddan gyda'i chydymaith. Wrth edryeh o'i hamgylch yn ddamweiniob, hi a ganfyddodd y bechgyn ieuainc, a chydag awgrym serchog, yroedd ar eu cyfarch, ond yr oedd braich y swyddog wedi ei thaflu am dani yn barod am ddawns arall, ac yn fuan, yr oedd y pâr harddwych o'r golwg yn nyryswch y ddawns. Canlynodd Beethoven hwy yn wyllt nes i'r gerddoriaeth beidio yn sydyn; safodd y dawnsyddion, ac aeth sisial cyffredinol trwy y neuadd. Symudai y cyfansoddwr ieuanc yn mlaen fel un mewn brcuddwyd. Ni feddyliai nad oedd Wegeler a Christopher von Breuning wrth ei ochr. Yn y diwedd, efe a gafodd ei hunan wyneb yn wyneb a Jeanette 1 " Ah! pa le mae fy ngnyfeillion ereill?'' llefai hi. Daethum drosodd o Cologne yn hollol annisgwyl- iadwy. Ni a benderfynasom yn hwyr i fynd i'r ddawnswledd yn Bonn, ac nid oes genym ond ychydig o gydnabyddion. Nid oes genyf fi ddigon o gymdeithion. Ond pa le mae Stephen, Christopher, a Wegeler ?" "Byddaiyn anhawdd dyfod o hyd iddynt'* obe