Skip to main content

Y GERDDORFA: CYHOEDDEDIG- AR Y CYNTAP O BOB MIS. Rhif 64 CYF. VI. ÌONAWB 1878. Pris 2g. ORIEL Y PRIF FEISTRL BEETHOYEN Parhad. Cynwysai y Zehr-garden yr amser hwnw ardd brydferth, a thawel-fan hyfryd. Yr oedd yr hen gastell hefyd yn cynwys amryw ystafelloedd wedi eu harddurno a'u dodrefnu a chadeiriau a byrddau, yn y rhai y cydgyfarfyddai gwahanol ddasbarthiadau y ddinas i gydgyfeillachu. ac yma yr oedd pob dosbarth yn gydradd. Yn y dyddiau hyny (nid oedd fel yn ein dyddiau ni ) tin gwahaniaeth mewn ystyr gymdeithasol rhwng yr uchel a'r isel, y cyfoethog a'r tylawd. Yma yr oedd cantorion yr epera, yr offerynwyr, yn nghyd a myfyrwyr y Coleg Cerddorol, fel nas gellid llai na disgwyl i'r fath gydgyfarfyddiad i fod yn addysgiadol yn gystal ac yn fywyd a difyrwch. Cedwid y castell yr amser hwnw gan Frau Bach, ac yr oedd ef a'ì ferch ieuauc brydferth a bywiog—Barbara—wedi enill serch pob dosbarth. Erbyn yr amser hwn, cyrhaeddodd Ludwig a Wegeler at ddôr y Zehr-garden. Agorodd Ludwig ei lygaid ar ei fynediad i fewn i'r ystafell lle yr oedd y gwahoddedigion wedi cydgyfarfod, oblegid hwn oedd y waith gyntaf iddo fod mewn gwesty. Dechreuodd rhai o'r gymdeithas dafiu golwg anfoddog anio, o herwydd gweled llanc mor ieuanc yn dyfod i dafarndy, a'i sibrwd oedd, y byddai iddo ddilyn llwybrau ei dad. Oud pan welsant y Count Waldstein yn brysio i'w gyfarfód gyda'r fath frwd- frydedd, ni fu mwyach feirniadu. Arweiniodd y marchog yr organydd newydd at y bwrdd wrth yr lion yr oedd y derddorion, a gwnaeth iddo ef a Wegeler i eistedd. Yn y cylch y cawsant ei hunain perthynai Ries y cyfarwyddwr, yr hwn a roddodd dderbyniàd gwresog i Ludwig, ac yn nesaf ato yr oedd Reller y datgan- wr a chantorion eraill. y rhai ni wnaethant gymaint ftg edrych arnö. Ystyrient fod gwthio llanc fel efe i'w cylch urddasol hwy ýn anfri ar gerddoriaeth, ac yr oedd gweled fod hyn yn cael ei wneud gan y Count Waldstein yn gwneud iddynt eiddigeddu yn fwy wrth y llanc difarf. Edrychai y marchog yn chwerthingar ar y gwanhanol olygfeydd gwawdus hyn o eiddo'r cerddorion uchel-feddwl. Yna efe a'i cyfarchodd' "Y mae genyf newydd î chwi, y mae cydswyddwr wedi ei ychwanegu at eich rhifedi, a gobeithiaf y cydunwch a mi i roesawi yr organydd newydd! '' Brysiodd y rhan luosoca* o'r gwyddfodolion i nesu at anwylyd yr Elector gyda dyddordeb. "Yna y mae genym organydd newydd?" gofynaî Ries. "Pwyydyw?'' " Yn ddiameu, mae ei fawrhydi eglwysig wedi ethol dyn adnabyddus i'r byd fel cerddor o nôd/' ychwanegai Keller. Nid oes un amheuaeth am hyn yna ebe amryw leisiau eraill. "'A all nn ofyu enw y person neillduol; Her Graf?" gofynai Eeller. " Chwi ai gwelwch ger eich bron,'' atebai Waldstein, " yn Ludwig von Beethoven." Byddai yn anhawdd gweled y fath gyfnewid disymwth ag a welwyd yn y cylch cerddorol jhwn pan wnaed yn hysbys mai Ludwig oedd wedi ei ethol yn organydd. Ries yn unig a neidiodd ar ej draed gyda llawenydd, i lon gyfarch ei efrydydd ieuanc. Hefyd ni ddangosai rhai o aelodau y gerddorfa un anfoddlonrwydd i'r dewisiad. Ond ag eithrio y rhai hyn, dangosai yr holl gerddorion oedd yn bresenol y gofid a'r diflasrwydd mwyaf. Troai y naill yn wyn, arall yn gochj gwisgai un drem ddiystyrllyd. Gwaeddai pawb gyda'i gilydd 'Felly î felly !' 'Ffei! ffei !' Edrychai Keller ar yr awrlais, a dywedodd. " Y mae yn hwyr—rhaid i ganwr gymeryd gofal o'i lais;'' ar hyn gadawodd yr ystafell. Dilynodd un ef gyda'r rhith esgys fod ei wraig yn ei ddisgwyl; un arall ei fod yn rhwym mewn man neillduol, Yr oedd pawb mewn ffwdan fasnachol. Mewn byr enyd yr oedd y bwrdd wedi ei adael. Erbyn hyn cyrhaeddodd y newydd am apwyntiad llanc 15eg oed i swydd mor anrhydeddun i gluatiau