Skip to main content

Y GERDDORFA: €%ls%QWixsn Pkoi bì toa»anael& €MÌsìwûwtfy a ^wcìtìjatáwttìÿ %m*%. CYHOEDDEDia AR Y CYNTAP O BOB MIS, Rhif 63 CYF. V. RHAGYFR 1, 1877. Pris 2g. ORIEL Y PRIP PEISTRI. BEETHOYEN. Parhad. Trawodd Ludwig rai cordiau grymus, a dygai allan y felodedd mwyaf gwyllt a chyífrous ac yr oedd ei amrywiaethau i'r alaw mor newydd, fel na chlywyd eu tebyg o'r blaen. " Ardderchog, ardderchog, gerddor ieuanc!" ebe y Count wedi iddo i orphen. " Ti a dderbyni wobr am hyn, yr hon gobeithio a'th foddlona." Pan yn dweyd hyn, rhoddodd ei law yn un o'i logellau, a thynodd allan lythyr mawr yr hwn a gyftwynodd i'r llanc. Edrychodd Ludwig yn syn ar yr ysgrifenbrawf. Ar un ochr yr oedd ei gyfeiriad yn llawn ac ar yr ochr arall Seal fawr. Ni welodd efe lythyr tebyg iddo erioed yn flae'norol. Chwerthinodd yn gywil- yddgar, fel pe heb wybod pa beth i'w wneud. " Agor ef," ebe y Count. Edrychai y cerddor arno yn amheus. Drwgdybiai eu bod am wneud twyll o hono, a chynygiodd y llythyr yn ol. "Ceisiwch gan Frau von Breuning ei agoryd," ebe y Count. Estynodd Ludwig y llythyr ar unwaith i'r foneddiges, "A oes caniatâd i mi ei agor ? " gofynai hi. "Wrth gwrs,'' atebai y llanc. Agorodd ef, ac edrychodd yn gyntaf ar ei ddiwedd a gwelodd ei fod wedi ei lawnodi gan yr Elector. Darllenai fel y canlyn: Yr wyf, fi Mascimilian Franz, drwy garedigrwydd Etholwr Duw ac Archesgob dinas Cologe, yn ethol y cerddor Ludwig von Beethoven i fod i ni yn brif Organydd &c.'' Agorodd yr holl bresenolion eu llygaid. Ni wyddai y llanc pa le yr oedd, ac efe a ymwylltiodd. Aeth pawb yn fud. "Felly y mae,'» ebe y Csuut, "ac yr wyf yn Uawnehau fy mod yn gallu eich hysbysu fod llaw wedi bod genyf fi yn y penodiad anrhydeddus hwn.'' Yna cymerodd y papyr ac ai darllenodd ei hun. Yna rhoddodd ef i Beethoren, gan ddymuno iddo lawenydd. Derhyniodd y llanc ef mewn gorlawanydd yrasaethai brwd ddagrau i'w lygaicl, aeth ei galon yn rhy lawn i ddiolch am yr anrhydedd. Yna yn ddisymwth gwaeddorld, "0101011, a mil o ddiolch 1'' ac efe a redodd allan o'r ty heb ei hat. "Y mae wedi cael llewyg arall," ebe noddydd y weddw. "Tebyg ei fod wedi rhedeg a'r newydd da i'w fam,'' ebe Wegeler. "Mi a af ar ei ol, gan gymeryd hat Ludwig gydag mi." "Ac os gellwch, dygwch ef wedi hyny i Zehr- garden" gorchymynai Waldstein. Er i Wegeler i wneud pob brys er ceisio ei ddal, ond yn ei gartref y cafodd ef, yn pwyso ar fron ei fam, i'r hon yr oedd newydd adrodd y newyddion da. Wylai y weddw dylawd yn uchel. '' Mam anwyl, paham yr ydych eto yn wylo,'* gofynai y llanc yn ddiamynedd. " Chwarddwch yn awr, chwarddwch ! Fe â pobpeth yn mlaen bellac\v yn gysurus; cilied ein goíìdiau ymaith. Byddaí mwy mewn sefyllfa i'ch «ynal chwi a'm brodyr bychain.'' "Yr Arglwydd a'th fendithio," ebe ei fam, gan wenu mewn ffrwd o ddagrau. Nis gallai Wegeler fyned i mewn pan welodd yr olygfa hon. Arosodd am eiliad i syllu a gwraudo wrth gefn y ddor. Wedi ei fynediad i fewn, derbyn- iodd eu diolch gwresocaf fel un a gyflwynodd y llanc i Von Breunings, a'r un ai gwnaeth ya adnabyddns i Count Waldstein "Yr wyf yn rhwym o wrthod cydnabod mai i mi mae diolch am ddyrchafiad Ludwig, ond mae ef ya ddyledus am ei lwyddiant i'w dalent, yr hon ai dyg eto i fwy o lwyddiant ac anrhydedd. Ond gwel" ebe Wegler "wele dy hat a adawaist ar dy ol. Y mae yn dda ua adawaist dy ben ar ol, gan y gallai hwnw fod yn llai cludadwy." "Y mae hynyna fel efe ei hun,'' ebe ei fam gan dynu ei Uaw dros ei bcn, fel pe yn ei