Skip to main content

Y GERDDORFA: \c v" CYHOEDDEDIG AR Y CYNTAF O BOB MIS. Rhif 59 CTF. V. MEDI 1, 1877. Pris 2z ORIEL Y PRIF FEISTRI. B E E T H O V E N Parhad. Ymddangosai Ludwig fcl pe nad oedd yn clywed dim, ac aiosai yn fyfyrgar yn ei farddoniaeth. "Yr ydwyt wedi dy Iwyr lyncu mewn myfyrdod, ebe y myfyriwr. Am ba beth yr ymehwili ? Efallai y gallaf dy gynorthwyo f" "Donner a Blitz" gwaeddai y cyfansoddwr, gan daflu ei lyfr i'r naill ochr, "y fath ynfydion yw ein beirdd ? Yma y bum yn chwiliana oriau am farddoniaeth briodol i gyfansoddiad, ac nid wyf wedi'r holl drafferth wedi dyfod o hyd i gymaint a thri phenill a'm boddia, ac y mae yn ofìdus meddwl am yr amser a gollais yn nglyn a hwynt. " "Dichon y gallaf fi roddi rhywbeth a'th foddlona," ebe Stephen yn ofnus a chyda gwrid llewygol. ''Dangos ef i mi," ebe Lxidwig. "Ti a wnei a mi gymwynas mawr, os ceni ar y pen- illion hyn," ebe Breuning ieuanc drachefn gyda mwy o ymddiried, ond eto yn wylaidd.—Y mae'r fardd. oniaeth yn eiddo ysgolhaig a chyfaill i mi, yr hwn sydd mewn dwfn gariad gyda un o'r genethod mwyaf glandeg a welodd llygad erioed—ac y mae yn chwenych dadgan ei hun mewn cftn- Dichon y gwnewch.'» " Gad i mi weled y penillion'' gwaeddai Beethoyen^ Nis gallaf ganiatau eu rhoddi o'm llaw—Y mae fy nghyfaillyn gwahardd hyny—ondgallaf ei darllen i ti." "Wel gwna hyny." Yna tynodd Stephen Sheet o bapyr o'i logell ac a ddarllenodd. Mawr oedd llawenydd Beethoven pan y cafodd o'r diwedd gftn yr hon i raddau pell oedd yn bortread o'i deimladau, ac nis gallai lai na thybio nad oedd yn gosod allan deimlad serchgarol—ond dirgelaidd— Stephen at y lan-deg eneth. Wedi iddo unwaith eto ddarllen y gân efe a'i dygodd ac a'i rhoddodd mewn papyrgod. Yna rhwbiodd ei ddwylaw mewn boddlonrwydd. gan waeddi, "Rhagorol, rhagorol J yr ydwyt yn llanc galluog, " "Pa amser y gallaf ddyfod i gael y cyfansoddiad?'' gofynai Stephen. "Boreu fory'' atebai Ludwig Ond eistedd i lawr, gad i ni gael ychydig o gydymddiddan, mae genyf hamdden yn awr. Yr oeddet am gael gwybod pwy mae y darlun yna yn gynrychioli.'' Ar yr adeg hon, daeth Christopher a Lenz von Breuning ac Wegeler i fewn. Wedi i Stephen eu cyfarch ac ymddiddan ychydig a hwynt, dymunodd gael ei esgusodi, er mwyn cael siarad a Beethoven, yr hwn a ymddangosai nad oedd wedi sylwi ar eu dyfodiad i fewn, cyfeiriai yn barhaus at y darlun,'' Y mae yn ddyn ardderchog, onid yw ? Efe oedd fy nhadcu! fei dygwyd oddiwrthym yn rhy fuan. Bu farw pan nad oeddwn i ond tair blwydd oed, Ond y mae genyf berffaith gof am dano, a meddyliaf am dano yn ddyddiol. Y mae ei lais swynol yn fy nghlust yn awr, a'i wedd serchoglawn yn wastad o flaen fy Uygaid. Gyda hyfrydwch y canai ac y chwareuai er difyrwch i'w ŵyr bychan. Cymerais ei holl galon. Nid oes neb yn yr holl fyd—ag eithrio fy mam—a ddangosodd i mi gymaint o garedigrwydd ag efe. Yr oedd yn alluog a bu yn llwyddianus, ymdd- yrchafodd drwy ei dalent o fod yn ganwr i fod yn gapel-feistr. Efe a fydd fy nghynllun drwy fywyd. Nis gallaf amlygu fy anwyldeb at ei ddarlun. Ni ymadawn ag ef am yr oriel ddarluniol ardderchocaf yn y byd. Pe elai'r ty ar dân, mi a ruthrwn trwy fflamiau at ddarlunfy nhad-cu." Ymddangosai y llanc fel pe ar golli ei auadl, ac ar y mynydyn hwn, ac ar rhyw olwg fel yn dwyllwr. Ymaflodd eigar Wegeleryn ei law, ganddywedyd, "Ludwig, yr ydwyt yn un o fil." Wedi i'r llanciau gydymddiddan ychydig am y peth hyn a'r peth arall, cymellent Ludwig i ddyfod yn gwmni iddynt adref. Yn hyn fei cefnogwyd gan ei fam, yr hon erbyn hyn oedd wedi ymuno a hwynt, ac yn awyddus i'w mab^i gael ychydig o awyr iach. Ond trodd y llanc yn glust fyddar atynt oll, dwedai fod ganddo waith mewn llaw ac o dan rwymau i'w orphen. Yna ymadawodd y cyfeillion. Eisteddodd y cerddor