Skip to main content

Y GERDDORF Ägltjjfgratott Uttsüí ai kww0fy Ctrbbon&etjr u §arûbomaetíj ëmnreìg. CYHOEDDEDIG AR Y CYNTAF O BOB MTS. Ehif 69 CYF. V. GORPHENAF AC AWST, 1877. fPris 2g IEL Y PRIF PEISTRI. B E E T H O V E N Pbnod IV Daeth Beethoyen yn hoìlol gartrefol yn fuan yn niieulu Vou Breuning. Elai i'w preswylfod yn ddydd- toJ i roddi gwersi cerddorol i'r plant, ac yr oedd taleutuu y bachgen a'r eneth yn flynonell o bleser iddo. Oher- wydd fod yr awr a ddewiswyd i roddi y gwersi yn ddi. weddar yn y prydnàwn, arosai Ludwig yno hyd yr hwyr, prycl y byddai gwahanol aelodau y teulu yn cydgyfar- fod ac yn dilyn eu gwahanol bleseiau. Rhoddai y rhai o natur hyfforddiadol gyfarwyddiadau i'r eerddor ieu- anc i fywyd newydd. Yn ad-daliad am ei wasanaeth eerddorol, cynorthwai ei ddysgÿblion ieuainc ef mewn Uenyddiaeth a gwybodaeth gyffredinol, yn yr hyn y byddai y myfyrgar Wegeler yn ymuno. Tueddai hyn yn fawr at ddiwyllio ei feddwl. Fel safon i hyn, de- wiswyd yn efrydiaeth, yr hen ysgrifenwyr; a chan fod Ludwig yn analluog i ddarllen eu cyfansoddiadau yn y gwreiddiol, gofalai ei gyfeillion am iddo gaei eu deall yn ei iaith gynhenid. Y fath hyfrydwch y rhaid e1 fod yn ei gael yn nghaniadau yr hen dad Homer, fe yr oeddynt wedi cael eu gosod allan yn yr Odyssey; ac yr oedd cyfieithiad rhagorol Voss o'r cyfryw yn rhoddi y cyfleusdra iddo i'w mwynhau yn eu cyflawnder yn awr. Cynhyrfwyd ef yn mhellach,—tra yr oedd ei îeddwl yn ymddyrchafu,—gan fywgraffiadau yr enwog- ion hyny yr ysgrifenwyd eu hanes gan yr anfarwo* Plntarch; a llanwyd ei enaid gyda dymuniad am allu dilyn ol eu traed. Dysgodd yn awr i adnabod ac i garti y gweithiau a ddaethant wedi hyny yn gymdeith" ion ei fywyd. Gwnaeth hefyd ychydig adnabyddiaeth o lenyddiaeth y cyfnod hwnw, yr hyn oedd yn awr wedi cyrhaedd ei ysblander uchelaf: oes Lessing, Kìopstock. a Herder ydoedd, ac yr oedd Goethe megys seren yn cyfodi ar y pryd. Yr oedd y dynion ieuainc wedi eu llyncu i fyny gyda'r awdwyr hyn ac ereill. Ymhyfrydai Wegeler, yn nghyda Stephen a Christopher von Breuning, mewn ymdrechion barddonol, pa rai a gawsant gylchrediad helaeth yn y rhan hono o'r wlad, a^ chyfansoddai Lud. wig gerddoriaeth ar rai darnau. Gan hyny nid oedd yno un prinder am destynau o ddyddordeb. O'r braidd y mae yn rhaid dweyd nad oedd dim yn eisiau o'r digrifMrch a'r Uawenydd hyny sydd yn ateb i'r oedran dedwydd hwnw pan mae gofalon byd heb eu teimlo. Ac i bwy y mae y fath deimladaujyn anadna- byddus í Yn anwyl i'r rhai allant fod yn arweinwyr chwareuon a difyrion hwn, amser chwareu eu bywyd, yn gystal ag i' r rhaì sydd yn gorfod bod yn y cysgod, gan eu bod yn gallu, o leiaf, edrych allan ar y dys- gleirdeb. Ond yn nghartref y Von Breunings yr oedd yno ddyddordeb mwy yn cael ei deimlo nag sydd yn gyfí'redin mewn cylch ieuanc ; ac, ar yr adeg hon yn enwedig, yr oedd pob calon yn teimlo ei hun mewn cynhwrf neillduol. Achos yr holl ffwdan a'r cythrwfl hwn oedd neb llai na mwy na Fraulein Jeanette von Honrath, swyuion yr hon oedd wedi tanió calou pob Uanc a bachgen, oddieithr Wegeler, a ddygwyd o fewn cyrhaedd ei dylanwad. Yn ddiddadl yr oedd oedran y foneddiges ieuanc yn anghyfartal i oed y glaslanciau. Ond pa fachgen, calon yr hwn sydd yn dechreu ymagor, a erys i ystyried y gwahaniaeth rhyngddo ef a'i gariad cyntaf. Y mae calon braidd pob dyn ieuanc yn myned o dan brawf tanllyd am wrthddrych, yr hon feallai a ddych- wela gariad tanbaid ei charwr ieuanc gyda serch tawel mam, neu chwaer hynaf. Gallasai fod felly yn y cysylltiad hwn. Ond teimlai Jeanette duedd nid bychan at hoedeniaith, ac mor gynted ag y gwelodd fod yr ysgolheigion Stephen a Christopher, Lenz o'r gampfa, a Beethoven y cerddor, yn gaethion ganddi, dechreuodd eu cadw un ac oll mewn cyflwr o aniheuaeth anesgrifìadol, gan roddi yn gyntaf i un, yna i'r llall, air caredig, a thaflu ar Beethoven olygon deniadol a chaneuon melus. Yn awr ar nn nawnddydd dedwydd murnmodd yn nglustiau yllanciau ei dymuniad o gael Cân o gyfan- soddiad Ludwig ei hunjac ymrwymai i gymeryd gofal a thrafferth mawr i'w [dysgu a'i chanu yn deilwng o'r llanc. Wrth glywed hyn, daeth gwrid o fodilonrwydd i'w wynepryd, a dywedodd na ddymunai gael gorchwyl mwy pleserus, yr hyn a wnaeth y foneddiges yn wen i gyd.