Skip to main content

Y GERDDORFA: CYHOEDDEDIO AR Y CYNTAP O BOB MIS, Rhif 57 CYF. V. MAI 1, 1877. Pris 2; ORIEL Y PRIP FEISTRI. BEETHOYEN Parhad o tudal. 26. Tra yr oecld ẃrth y cyfansoddiad, 'gwridai ei wyn- epryd, a threiddiai trydan tnvy bob cymal o hono. Yr oedd yr ardremiad hyn mor ddyddorol i'w gyfaill, fel na aflonyddodd arno. O'r diwedd gwaeddodd Ludwig allan, "Gwych." <cWel, Ludwig, beth ydwyt wedi orphen ?" gofynai Wegeler. "Triawd yn Êfa i'r pìano, %>iolin, a'r violoncello. Y mae yn gyfansoddiad rhydd a beiddgar, yn hollol foesol ei arddull, ac yn un a efelychir." "A glywaist ti ddiareb ' Yr hunan ganmolwr?'" gofynai Wegeler. " Pah ! " ebe Ludwig. " Dyn yw dyn. Yr wyf yn dweyd fy meddwl- '' "A wnei di ei gyhoeddi?" " Wrth reswm, os yw hyny bosibl," ebe y llanc ; "ond pwy a gymera unrhyw beth oddiwrthyf ji ? Mae enw yn fwy na haeddiant. Ond gwnaf i mi fy hun enw." " Ac yna ti a wnei lawer o arian, fy anwyl Ludwig,'' ychwanegai Wegeler. "Arian fel gweirwellt," ebe y llanc; "ond bydd hyny yn ail i fri." " Wel dyna, rhaid cael perftbrmio o dy driawd," ebe ei gyfaill, " ac enwogrwydd addilyn ar adenydd." "Ond fwy a berfformia fy nghyfansoddiad i ?" oedd yr ateb. "Yr wyf yn rhy ieuanc yn llygaid y byd. Chwerthina y bobl am fy mhen. Y mae y nifer fwyaf o'r cerddorion yn genfigenus, ond mae amser yn dyfod pan y gallaf fi chwerthin arnynt hwy. A byddi di fyw i weled hyny." *.' Yna a gaf fì y darn i'w berfformio drosot ?" gofyn. at y llall. 'f Pa fodd y gelli drefnu hyny ?" "Dyna fy mxxsnes i," ebe Wegeler yn ymddiriedol. ') A ydych wedi ei hysgrifenu allan ? " << Yr wyf bron gorphen fy rhanau,'' atebai y cyfan. soddwr. "Gan hyny rhoddwch hwy i mi,'' ebe y cyfaill yn llawen. "Yn unig rhaid i chwi chwareu rhau y berdoneg," " Purion," ebe y bachgen; ac efe roddodd iddo ef y- gerddoriaeth. " Unpeth arall," yna y dywedai Wegeler. "Mae genyf fwriad i'th gyflwyno i deulu urddasol i rai o aelodau pa un wyt i roddi gwers. A hoffi di hyn ? " "Gwnaf, osbyddaf yn hoffi y bobl. Pa le maent yn byw ?" " Hyny a ddealli ar fyrder," ebe yr efrydydd. " Eithr y teulu sydd un lle na cha dy amser yn unig ei ad-dalu, ond lle ca dymuniadau dy galon a'th feddwl i aros a'u cyfarwyddo, dylanwad dynol a derchafedig sydd yn anhebgorol i ti tuhwnt i bobpeth." Ystyriai Beethoven ieuanc am ychydig gyda'i lyg- aid yn gwreichioni, yna efe a ddywedodd, "0 fy Franz ddaionus.'' "Gwna dy hun yn barod ynteu," ebe ei gyfaill. " Trwsia i fyny dy ymddangosiad a thyred gyda mi." "Ond i ba le?"gofynai y llanc cythryblus. "Canlyn fi ac ymddiried ynof,'' ebe yr efrydydd, " Mi a'th arweiniaf ar hyd llwybr da." "Pelly y byddo,'' ebe y eerddor ieuanc gaá chwerthin. Yna dechreuodd drwsio ei wallt dryslyd, a gwisgodd am dano ei ddillad Sul. Ond wedi'r oll nid oedd ond cynrychioli y plant carpiog. Ar yr adeg hon daeth ei fam i'r ystafell, a gof- ynodd, "pa le yr oedd yn myned.'' Edrychai Wegeler, eto yn ddirgelaidd. Ond dywedai y wraig dda, y rhoddai ei mab iddo mewn llawn ymddiriedaeth. Yna ymadawodd y ddau lane a'r hên dy, a phrysurasant drwy amryw o heolydd culion y ddinas; ac wedi croesi y marchnatty, cyr- liaeddasnt y Munster Patz. Yn union ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol i'r eglwys orwych hon, yn yr hon yr oedd maenordy yn ol yr hen ddull cyntefig, o gylch yr hwn yr oedd llanerch brydferth wedi ei dyogelu â chanllaw haiarn a phorth nchel. Arosodd Wegeler a'i