Skip to main content

Y GERDDORFA: CYHOEDDEDIG- AR Y CYNTAF O BOB MIS. Bhif 53 GYF. V. IONAW.í 1, 1877. Pris 2<i. ORIEL Y PRIP FEISTRI. BEETHOVEN Parhad o tudal. 88. PENNOD II. Yn y dyddiau gynt, nid oedd dinas Bonn mewn un ystyr i'r hyn y daeth yn ystod y ganrif bresenol. Ad- eiladwyd hi ar y cyntaf o dan linell gaerog, a godwyd gan y Rhufeiniaid o'r Alpau hyd y mor, gyda'r amcan 0 amddiffyn eu tiriogaeth. Pan orfodwyd yr anrheith- wyr i gilio i'r ochr arall i'r Alpau, daeth yn amddi- ffynfa Ffrengig, yr hon, yn nghwrs amser, a syrthiodd i ddwylaw archesgob Cologne, o dan yr hwn y chwareu- odd ran bwysig mewn hanesydcüaeth. Tua chanol y drydedd ganrif-ar-ddeg, yn y flwyddyn 1267, dewiswyd Bonn yn breswylfan gan Engelbert o Falltenstein, archesgob difreiniedig Cologne a'i ganlynwyr. Wedi eu gorchfygu gan anrheithwyr galluog y Rhine Isaf, ni feiddient i edryoh am noddfa, ond yn y' lle hwnw a neillduwyd iddynt gan awdurdodau Gologne. Nid yw hanesyddiaeth yn rhoddi ond ychydig o hysbys- ywydd i ni am sefyllfa eihen balas cyntefig. Bu Bonn am gyfnod maith yn eadw ei hamgaerau yn ol yr hen gynlluniau boreuaf, gwelir hyn wrth edrych ar y gweddillion maluriedig ò honynt yn yr ochr orllewinol o'i' ddinas. Ond pan roddodd y Bourboniaid yn Ffrainc enghreifftiau mewn adeiladu palasau heirdd, ac i dy- =wysogion mawrion a bychain Germany hoffi eu hefel- ychu, codwyd amryw adeiladau helaeth yn ac o am- gylch Bonn sydd yn wrthddrychau edmygedd hyd y dydd hwn. Yr Etholwr Joseph Clement, yr hwn a deyrnasai o 1691 hyd 1723 a ddechreuodd y palas ar- dderchog sydd yn awr yn brif athrofa, llyfrgell, ac ys- pyty, pa rai a orphenwyd gan ei nai a'i olynydd, Clemens August, yr hwn a feddianodd yr orsedd o 1723 hyd 1761. Y tywysog gwastraffus hwn a estynodd y cyntedd o'r palas hyd glwyd Coblentzer, a'r rhestr o adeiladau o'r glwyd cyn belled ac Atte Zoll; felly yn cwblhau y rhan henafol o'r dref ar yr ochr ddeheuol. Yn bresenol y mae cyfnewidiad nödedig i'w weled yn y gymydogaeth, mae nifer o dai wedi eu cyfodi, y rhai sydd yn edrych mor darawiadol oddiar safle y tolldy henafol, y rhai a edmygir gan lygaid trigolion Bonn, a'r teithwyr wrth fyned heibio. Yh un o'r gerddi ar lan yr afon Ehine, ychydig ddyddiau wedi i'r j^storm a ddesgrífìr yn y benod agor- iadol, gwelid un prydnawn weddw y diweddar gyng- horwr taleithiol Von Breuning yn sefyll o dan ganghen- au pren afalau llydanfrig yn trefnu amryw fathau o fwyd oer, poteli, dysglau, a gwydrau ar fyrdd- au yn orchuddiedig gan lineiniau blodeuwedd. Yr oedd y foneddiges yn rhoddi y cyffyrddiad olaf ar y gwaith parotoawl, pan glywyd llais main plentyn yn y parth hwnw o'r ardd oedd yn arwain tua'r heol, yn gwaeddi, "Mam, Mam, yr wyf yn dwyn Iarll Waldstein." Fran von Breuning a'i gwedd yn syn, a furmurodd wrthi ei hun, "beth all y plentyn ffol fod yn ei wneuthur ?" Y munud nesaf yr oedd geneth fechan tua thair-ar- ddeg oed yn gwneud ei hymddangosiad, ac yn tynu ar ei hol, yn fwy nac arwain, dyn dieithr o ymddang- osiad coeth a boneddigaidd. _ "^ Eich merch fechan, Arglwyddes" ymddiheurai y dieithr-ddyn, " a gymerodd arni ei hun ddwyn gwestwr anwahoddedig. Maddeuwch i mi, ond nid oedd un dewisiad wedi ei adael i mi. Ymsaethodd y plentyn ataf pan oeddwn yn myned heibio clwyd yr ardd, gan ddymuno yn daer arnaf am ddyfod gyda hi, ac a afael- odd mor dŷn yn fy llaw fel nas gallwn lai nag ymostwng i'w dymuniad." "Lore, Lore," ebe y fam, mewn tôn hanergerydd- awl wrth y plentyn. "Ond yr ydym yn disgwyl gwestwyr ereill," gwaeddai yr eneth fechan; mae fy mrodyr wedi gwa- hoàdeu cyfeillion, apaham na chaf finaufy nghyfaill?J' "Rhaidimi ddymuno arnoch am esgusodi yr eneth hyf hon," ebaiy foneddiges, gan droi aty dieithr-ddyn. "Beth sydd yna i'w faddeu?'' ebe yntau. "Mae calon Lore fach yn yr iawn le. Bydded iddi yn wastad fy nghyfrif fel ei chyfaill." "Os nad ydyw yn anfoddlon genych," ebai Ar- glwyddes von Breuning, "Mi a ofynaf i chwi gymeryd eich sedd yn ein plith. Mae fy meibion wedi gwahodd ychydig ddynion ieuainc i uno a hwy, a byddant yma yn fuan. Yr wyf yn ymdrechu cymaint a allaf i ddenu fy mhlant at eu cartref, trwy adael iddynt gyflawn ryddid i ymgymysgu gyda'i cyfeillion yn ngolwg fy llygaid fy hun; trwy ba foddion yr wyf yn hyderu y gallaf eu hamddiffyn rhag peryglon o'r tu allan. Eu tad yn anffodus a gymerwyd oddiwrthynt yn gynar. A chan fod fy sefyllfa fel gweddw yn fy rhwystro i'w can« lyn i'r byd, nis gallaf ond ymdrechu i'w gwneud yn ddedwydd gartref." "Ac yn hyn yr ydych yn gweithredu ar cgwyddor ganmoladwy," ebai yr Iarll. " A chan fod cymdeithas ieuenctyd athrylithgar yn wastad yn ddymunol genyf, mi a dderbyniaf eich gwahoddiad caredig i fod yn u» yn eich oylch, mewn gobaith i ddyfod yn gydnabyddns