Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYHOEDDEDIG AR Y CYNTAF O BOB MIS. W öf CYF. IV. TACHWEDD 1, 1876. Prisä ORIEL Y PRIF PEISTRI. B E ETHOVE N Parhad o tuclal. 73, " Mewn unigedd fel hwn, a all un gyflawni gwaith mawr mawr," sibrwdai y llanc gan edrych fel pe wedi haner gwallgofi. f Yr wyf yn mawr edmygu y cysylltiad sydd rhwng y dclaear a'i phreswylwyr," ebe y llanc talaf. Wele, molianer y nefoedd dacw dir. Efe a gyfeiríai at lanau y Rhine, lle y chwythid o gylch gan y gwynt y cymylau oedd yn rhanol wedi gwahanu, fel y ceid yn awr olwg ar y tiroedd islaw. •' Mor hyfryd y byddai,'' ebe y llanc yn freudd- wydiol, "pe gellid edrych yn wastadol ar y ddaear fel drwy ffenestr !»' Ond nid hir y bu yr awelon bywiol cyn ymlid ymaith yn llwyr yr holl gymylau trwchus tua'r gorllewin. Ail ymddangosodcì gwyneb canaid yr haul, daeth golygfeydd newyddion i'r golwg—Deuai mynydd ar ol mynydd—bryn ar ol bryn—coedwig ar ol coedwig—gwastadedd ar ol gwastadedd—pentref ar ol pentref i gynyg eu hunain i sylw y llanc llýgadgraff Ludwig. "Pabeth a'th ddygodd yma Ludwig!'' gofynai yr efrydydd. "Pa fodd y gallaf wybod!" atebai y llanc. "Pany dadebrais boreu heddyw yr oedd yr haul yn taflu ei belydrau disglaer at fy ffenestr. Neidiais o'm gwely, rhoddais fy nillad am danaf ac aethym tua glan y Éhine. Hi a'm dygodd yma. " "Oncl pa fodd!" gofynai y llall drachefn. Llanc o bysgotwr yr hwn a adwaenwn; oedd ar y pryd yn rhyddhau ei fâd bychan oddi wrth y tir, a gofynodd a ddeuwn gydag ef. Neidiais i'r cwch a chroesasom i Beul. Oddi yno rhedais i'r mynydd- oedd.'' "A pha ffordd a gymeraist" "Dim un flbrdcî o gwbl," atebai Ludwig. "Yr wyf yn Avastacì yn caru curo allan lwybr fy hun. Yn gyntaf deuais at yr Ennert, yna yn uwch uwch, trwy y Uwyni tewion a thros y glogwyni a'r creigydd serth, nes y cyrhaeddais yma! " Cymellir fì gan dueddiadau mewnol i ymwthio i'r pwynt uchaf." "Ydwyf'' ychwanegai gyda dyfrifoldeb a golwg ddieithriol, "yr wyf yn parhaus ymgodi yn uwch, uwch." " Ond pwy a'th gyfeiriodd ar dy lwybr dyryslyd yma ?" gofynai ei gydymaith. "Fy mhen fy hun," meddai y llanc, gan gyfeirio at ei dalcen llydan. Ond yn awr aeth i grynu gan oerfel, a threiddiai yt awel oer drwy ei ddillad gwlybion. "Yr ydwytynoer, a thi a gystyddir," ychwanegaî ei gyfaill. "Mor^annoeth ynot oedd rhoddi dy hun yn agorel i ymoscdiadau yr elfenau.'' "Rhaidimi fyw a theimlo," oedd ei atebiad; nis gallaf byth fód yn ddeclwydd gyda'r allanolion ym unig. Y mae yn ddigon i ti fe ddichon i fod yn brofiadol o'r hyn sydd arwynebol—Rhaid i mi gael ecjrych ar bethau oddi fewn." Yr ydwyt yn llanc flbl, agos yr un fath a phan y gelwir di gan blant yr ysgol y Furioso. Ond a ydwyt wedi cael boreufwyd ! " Mecldyliodd Lvidwig am dano ei hun. "Yrwyf eto heb gael dim i'w fwyta," meddai dan wenu. "Blentyn anmhrofiaclol!'' gwaeddai yr efrydydrî, yna agorodd un ran o'i flwch, yn yr hwn yr oedcî J tamaid o íara a photelaid fechan o win, y rhai a estynodd i'v llanc. "Dyna, gwna fwyta ac yfed," meddai ef, oncî gad i ni symud ar yr un pryd, fel y bydd i ti £ deimlo llai oddi wrth dy ddillad gwlybion. Meddwl am dy fam, ti yw ei gobaitha'i chysur." Cafodd y geiriau yma efíaith ddwfn ar y Ilanc, a gwelai ei gydymaith ddeigryn gloew wedi ymwthio- ar ei rudd. "Beth ydyw y deigryn yna Ludwig.. "Drych ydyw i ti weled calon un sydd yn caru ei fam." Yr efrydydd wedi deall ei fod wedi cyffwrdd ag un o lynynon tyneraf mynwes Ludwig a geisiodd droi yr ymddiddan. "Diolch yn fawr i ti am y bara a'r gwin'' ebe Ludwig gan frysio yn ddisymwth o flaen ei gydym- aith ar hyd llechwedd serth y mynydd. Gwaeddai ei gydymaith ar ei ol mewn natur^ dda,—"Ludwig y mae yn ymddangos fod yr olygfa' a gefaist heddyw o hyd yn dy yru i'r uchelderau." " Yr wyf yn tybio fy mod yn rhy barod i fawrhau fy hun," ebe Ludwig, yr hwn a ymddangosai bob enyd fel yn tyfu yn fwy ymddiriedol, gan gerdded yn mlaen ar hyd y llwybr serth yn ochr yr efrydydd.. "Ond gallaf dy sicrhau nad yw ond fy natur i feddwl a theimlo fel hyn. A phwy a all weithredu yn erbyn natur? Ond nid yw y natur hon o fy eiddo yn rhoi i mi fynyd o wir fwynhad. Pa faint mwy fíbdua ydwyt ti ? Yr ydwyt ti yn troedio ar hyd llwybr doethineb, yr hwn sydd lwybr cywir ,a diberygL Y mae cyrchnod teimladwy yn sefyll yn weladwy o flaen dy lygaid. Pa le y mae cyrchnod fy uchelgai» i ? Yr wyf yn uchelgeisio, ond yn methu cyrhaedd. Ah ! mae celf yn meddu mwy o oficl na llawenydd.'' "Nis gallaf amgyffred gofidiau o fodolaeth celfydd- ydol,'' ebe yr efrydydd; ond celfyddydwr mawr yn rhinwedd ei allu creadigol cynhenid, sydd yn sefyll yn uweh nag arwr gwyddorol." / barhau.