Skip to main content

Y GERDDORFA CYHOEDDEDIG AR Y CYNTAF O BOB MIS, Rhif 50 CYF. IV. HYDEEF 1, 1876. Prif»2 g ORIEL Y PRIP PEISTRI. BEETHOVEN Parhad o tudal. Tra yr oedd yn taer syllu tua pheu y mynydd, canfyddodd ffurf-len o ddullwedd byr a chyhyrog; gwallt hir a thywyll yn n'4'hyd a gwisg pa un, oeddent fel eu gilydd yn ddifyrwch i'r dymhestl. Nid ymddangosai y dynsodyn hynod hwn, ei fod yn gofalu ond ychydig am yr elfenau ; eithr i'r gwrth- wyneb, ymdcíagosai i Ludwig fel yn eithaf tawel yn eu plith ; a chyn helled ag yr oedd efe yn alluog i farnu oddi wrth yr ystumiau gorfoleddus gyda pha rai yr oedd efe yn taflu ei freichiau yn yr awyr, yr oedd yn hytrach yn eu gwahodd tuag' ato. '* Pa le yr ydwyf," gofynái y llanc iddo ei hun, ''rhaid fy mod yn nghyngerdd wir fawreddog yr elfenau. Na, nid dychymyg sydd wedi creu y person urddasol a welaf ar y cwmwl fry. Onid yw ysgogiad rheolaidd a threfnus yn ol ac yn mlaen, o'r ffon a ddalia yn ei ddeheulaw, yn cael ei fwriadu i guro amser i'r arddangosiad hwn o'u ffyrnigrwydd! " Yn wir ymddaugosai y peth felly, gan iddo yn ddisymwth waeddi allan yn groch, "Yn awr Allegroì" Cauìynwyd y gorchymyu hwn, gan fflachiad llucheden, yn terfynu mewn rhygldrwst o daranau parhaus. Efe wedi hyny a grochwaeddodd " Adagio maestoso /" Ac ar ei archiad, yn ddigon amlwg, I yn ol arwydd- ocâd y gorchymyn) y canlynodd rhygldrwst o daranau yr un mor hir-oedawl, ond mwy ofnadwy. " Prestissimo furioso!" ebe'r hin-dywysog yn mhellach, ac yn gymwys, fel pe buasai y nefoedd yn wirnmeddol wasanaethjjar i'w orchymynion, y dad- seiniodd yn awr, y rhygldrwst mwy ofnadwy na y rhai cyntaf o eiddo yr elfenau, yn cyfateb i rhyw gydseiniadaeth wyllt yn yr hon y bydd un goslef, neu gerddofferyn, yn ymdrechu boddi llais y llall. Teimlai y llanc ei hun yn llwyr ofnus o flaen y tymhestl-dywysydd hwn, pa un yn ngoleuni y fflach ddiwe ìdae, a edrychai fel pe wedi cael ei amgylchynu gan wreichion. Yna yr un mor sydyn ag y cymylodd drosodd, y darfu i gerynt uwch if yr awyrgylch yn awr glirio. Aeth yr awyr uwch ben yn las, a safai crib yr Oelberg allan fel ynys greigiog, yn nghanol y môr o gymylau a orchuddiai y mynydcl islaw. Edrychodd y llanc unwaith yn rhagor ar y ffurflen ag oedd uwch ei ben, yr hwn a welai yn awr wedi eistedd mewn tawelwch. "Fab gwallgo!" ebe fe; a chan esgyn ychydig risiau yn uwch, efe a alwodd allan: "Furioso, Ludwig, fab gwallgo, pa ryw ftblineb yr ydwyt yn nghyd ag ef yn awr. Yr oedd yn rhyfedd fod y llencyn—nad oedd eto ond rhywle rhwug mabandod ac ieuenctyd—yn teimlo y fath foddhad er mewn dychryn yn nghanol y fath ystorm ddychrynllyd. Ond yr oedd efe yn hynod a rhyfeddol yn ei ymddangosiad naturiol. Yr oedd ei gorftblaeth byr yn dangos yr ymddadblygiad mwyaf cyflawn o aílu cyhyrawl. Ar ei ysgwyddau y gorphwysai pen anarferol o fawr, gwaüt tywyll a thew, pa un, a'r hwn oedd yn sefyll yn mron, yn unionsyth, a gynyrchai yr effaith ÍAvyaf anarferol. Archwiliad agosach, fodd bynag, a ddadlenai wynebweddau cymeriad ag oedd yn un tra dyddorol. Os oedd y trwyn, yr hwn feallai, oedd ychydig yn rhy betrual, yn ymyryd a phrydferthwch gorddodol fpositẁe), nid oedd yr ael lydan a galluog lai awdurdoclol na than y llygaid dysglaer a chrwydrol, pa rai a wibient yn anesinwyth o amgylch, ac yna a ymddangosent fel yn dal cymundeb digyffro a'r enaid oddi niewn. Yn mhellach, yn amlygiant gwatwarus y wefus uchaf ymddangosai nodwedd gyndyn bywyd. Os oecld yr ystorm oddi allan, yn awr wedi ymdawelu, yr oedd yn parhau i ymderfysgu yn nghalon deimladwy Ludwig hach; ac ymddangosaí fod ei dylanwad arno wedi ei ysbeilio o'i hunan- ymwybyddiaeth. Tra yn y cyflwr hwn, clywai drwst cerddediad rhywun yn dyfod i lawr dros ael y mynydd, ac er ei syndod gwelodd mai un o'i gydfyfyrwyr yn yr ysgol oedd, (yr hwn oecld rai blynyddau yn hynach nag ef). "Luclwig, yr ydwyt yn parhau i chwareu rhan Furiuso," meddai y myfyriwr, gan neshau ato; er nad oedd y llanc hyd yma wedi rhoddi iddo un ateb, am y rheswm fod yr ystorm wedi dwyn ei holl feddwl. "Dyna symphony o eigion calon Duw!" ebe fe gan neidio i fynu. Un fel hon sydd yn mhell tuhwnt i Haydn a Mozart. Y maent yn fawreddog swynol, nwyfus, a chwareuol. Ond i fy meddwl i y mae y rhai hyn yn fyr yn y dyfnder a'r gallu, wnant chwyddo trwy ddyfnderoedd calonau dynion, gan siarad a hwynt heb gynorthwy y bardd, fel y traws-deithient lwybrau tymestlog bywyd. "Tybiwyf fod eich ffordd yn dymestlog ddigon,'' meddai yr efrydydd. "Pan y mae un wrtho ei hun,'' gwrthddywedai y llanc, "y mae pob agwedd o ddrychfeddyliau yn ysgubo drwy yr ymenydd. Y Nefoedd, y fath ddifrodl" Gan ymestyn allan ei ddwylaw, mewn teimladau angherddol, rhoddodd ardrem o'i gylch. Yr oedd yr olygfa ag y cafodd y ddau lanc i fod yn dystion o honi ar y foment hon yn un nad â byth yn anghof. I barhau.