Skip to main content

Y GERDDORFA: Cnfcjrgratom fgisol at toaaanatijr (fcbtomatíjr a garìrtwniatijr (gçmmg. CYHOEDDEDIG AR Y CYNTAF O BOB MIS Bhif 48 CYF. IV. AWST 1, 1876. Pris 2g EISTEDDFOD FAWR AMERIOA 76. GAN EDNYFED. Mac yr Ei.steddfod uchod, fel llawer o bethau ereill, yn mhlith ý pethau a fu; a pha beth bynag ýw barn|ereill am dani, rhaid i ni ddweyd yn nghlyw holl Gymry y Talaethau, Patagonia, ac Alaslca, mai dyma brif gynnulliad y ganrif. Gwelais ar yr esgyn- lawr Iago Fwyn, yr awdwr buddugol ar y bryddest ar "Ddefnyddioldeb y Gwynt;" Sion Gynghanedd, y buddugol ar "Anesmwythder Arian Byw;" Dafydd Lhnyn y Cyhedydd, y buddugol ar y traethawd ar "Farn Grefyddol y dyn yn y Lleuad;" Dafydd Plato Bacon Gruftÿdd ar y tebygolrwydd rhwng "Moch Gadara a gelynion Eisteddfod 1876;" Gwilym Delnog Grythog, am y cyfansoddiad cerddorol goreu o amser Daíydd y Telynog yn lsrael hyd ddyddiau Jack Mendelssohn Nwen Alaska, beirniad y gerddoriaeth yn Eisteddfod Fawreddog Patagonia ar y laf o Ebrill, yn y flwyddyn byth-gofiadwy 1950. Y rheswm paham y galwyf hon yn flwyddyn byth-gofiadwy yw hyn. Dyma yr unig flwyddyn y cyhoeddwyd dadleuon pigog, y cintachodd cantorion aroldydd yr Eisteddfod, y methodd prif feirniaid yn y byd Cymreig gydweled, y cododd blaenor côr i fyny i ddweyd fod y beirniaid yn bartial, ac na fuasai ef yn arwain ei gôr mwyach dan feirniadaeth y cyfryw, y llanwyd y newyddiaduron â hanesion sychion ac annyddorol o'r Eisteddfodau, o'r man agosaf i'r pegwn gogleddol i'r pegwn deheuol, ac o godiad hyd iachludiad haul. Wrth ddarllen newyddiaduron talentog, cenedlaeth- oì, gwleidyddol, lolyddol, a phenbwlyddol, y cylch- gronau crefyddol, jackyddol doctoryddol, mympwy- yddol, a gyhoeddid yn y ganrif a aeth heibio, ni chawn fod dim o'r fath wedi dygwydd mewn perth- ynas i ddim llenyddol a chrefyddol yn mhUth Cymry y Talaethau Unedig, o'r Eisteddfod gyntaf, a'r ©yfarfod crefyddol cyntaf, hyd yr Eisteddfod a fu yn goron i'r Dathliad Canmlwyddol yn Philadelphia. Blwyddyn ryfedd oedd 1950 — blwyddyn y ffraeo rhwng aelodau cynnadleddau ; blwyddyn drwg-dybio yn mhlith brodyr; blwyddyn ftÿn-baglau Uenyddol; Jblwyddyn pob peth pigog a phicellog. Oni ddylem ymfalchio yn ein braint ein bod yn byw yn 1876, blwyddyn yr uno a'r canu, blwyddyn y bendithio a'r gwenu, blwyddyn y gogoniannau. Iihoddaf ger bron y darllenwyr rai o nodweddion yr Eisteddfod, y rhai ni welwyd yn mhob Eisteddfod yn amser ein cyndadau, o'r flwyddyn 1776 hyd 1876. Xr oedd y Llywydd yn' Gymro, o galon ac o dafod. Cariwyd yn mlaen weithrediadau y dydd yn yr hen Omeraeg. Rhoddwyd gwobrau mwy am draethodau na datganiaeth; ac ni ddefnyddiwyd y prif ddaru cerddorol fel bach i ddal pobl.a'u cludo i'r Eisteddfod. Rhoddwyd gwobr mwy am araeth nag am adroddiad. Gwobrwywyd, pa un a fyddai y cystadleuwyr traeth- odol a barddonol yno ai peidio. Ni attaliwyd yr un wobr, am fod y pwyllgor wedi ei wneud i fyny o ddynion o synwyr cyffredin, a gwyddent fod y goreu yn deilwng o'r wobr, a mwy. Ni alwyd neb i"r esgynlawr am ei fod yn faer y dref, neu yn gyfreithiwr rhyw gwmni, neu yn weinidog ar yr eglwys luoaocaf yn y lle, neu am fod ganddo ddigon o wyngalch a sebon meddal, neu am ei fod wedi rhòddi arian y wobr am y pum pennill ar ol Mr« Jones. Nid oedd neb ar yr esgynlawr ond y rhai a gwaith ganddynt i'w gyflawni. Esgynodd yr enwogion a grybwyllaia ar y dechreu rîsiau yr esgynlawr heb eu gwahodd Peidiwch a meddwl fod yr Eisteddfod hon yn berftaith rydd o hymbygiaeth. Cof genyf pan yh fachgenyn, yn Llandebie, weled shows bychain yn dilyn show fawr; felly gyda golwg ar yr Eisteddfod hon ; ymchwyddai ambellifardd neu draethodydd, neugerddor buddugol, i'r fath raddau, fel na hidiai dynion a meuywod call a threfnus fod yn agos iawn iddynt, rhag ofn i ffywydriad gymmeryd lle. Yr oedd y gystadleuaeth yn fywiog mewn cerdd- oriaeth, ac yn eang mewn rhyddiaith a barddoniaeth. Gwn fod ysbrydion yr hen feirdd a cherddorion 1776—1876, yn dechreu anesmwythau; ond nid ydwyf fi yn gyfrifol am yr anesmwythder. Daeth y pwyllgor i'r farn hon, a gallaf eich sicrhau ei bod yn farn bwyllog ac addfed, sef fod y traethodwr yn gorfod llafurio yn fwy egniol na'r bardd, fod y ddau yn llafurio yn helaethach na'r cerddor, a bod dylanwad eu gwaith yn fwy parhaus. Yr ydym yn aon am ddylanwad rhyddiaith a barddoniaeth iachus. Daeth- ant yn union-farn ar bwnc y bryddest a'r awdl, sef bod y blaenaf yn rhagori ar yr olaf. Gwelir yn y geiriau uchod reswm digonol dros gyfartalwch cyfreith* lon y gwobrau. Ni anrhegwyd yr un arweinydd â thlws ariau na llwy bren. Cynnaliwyd cyngherdd gampus yn yr hwyr, pan y canwyd darnau poblogaidd, darnau heb fod uwchlaw gallu y datganwyr. Gwelwyd llawer o Saeson, Americaniaid, Gwyddelod, Mexic« aniaid, Braziliaid, &c, yn bresenol, canys cawsant aí ddeall mai darnau Cymreig oedd i gael eu canu a'u chwareu. Ni ddysgwyliwyd i'r corau buddugol ganu yn rhad, heb arian .ac heb werth, ond talwyd pawb am eu gwáith. " Oes y byd i'r Eisteddfod.'' "Calon wrth logell." "Tra môr tra gwobr."