Skip to main content

<%kjj0raton $gti;s0l at toasanaeijí Cerbboriaí^ a garbtowiaefy (ÜBmriibj» CYHOEDDEDIG- ÁR Y CYTÍTAF O BOB IIIS. Ehif 46. CYF. IY. MEHEFIN 1, 1876. Pris 2g.. NODION OERDDOROL. Deallwn fod cerddoriaeth wedi cael cryn sylw mewn cysylltiad ag agoriad yr Arddangosfa Genedlaethol yn Philadelphia; yn ol rhai gohehwyr canu oedd prif bwne y dydd. Sicrhawyd gwasanaeth y cantorion a'r offerynwyr goreu tuag at wneud y canu yn deilwng o'r Arddangosfa. Rhifai y côr 800 o leisiau, gyda Cherddorfa gyfatebol, y rhai a arweinidgan Mr Dudley Buck a Mr Theodore Thomas, New York,—yr hwn, er fod y rhan olaf o'i enw yn Gymreigaidd—sydd Ellmynwr o genedl. Mawr oedd y disgwyl am yr Ymdeithgan newydd, y "Centennial March" gan— "gerddor y dyfodol,—Richard Wagner. Ymddengys oa ddaw hyd yn nod yr oll o'r prif gerddorion i'r un farn gyda golwg ar gerddoriaeth ryfedd y cerddor hynod hwn. Creda rhai ei fod wedi cyfansoddi March wrth yr hwn y bydd i filwyr yr Unol Dalaethau farchio am ganrifoedd i ddyfod, tra na chafodd ei berfformiad unrhyw effaith neillduol a'r eraill; barna rhai cerddorion Cymreig—nid anmhwysig cofier—y byddai "Difyrwch Gwyr Harlech," pe y chwareuid hi gan y fath nifer o chwareuwyr medrus yn fwy gwefreiddiol. Beth bynag am y gwahanol farnau hyn, y mae yn ddigon amlwg fod y cerddor Ellmynaidd yn dyfod yn fwy poblogaidd bob dydd, ac fod ei gyfansoddiadau yn codi yn y farchnad yn barhaus. Cafodd am y " Centennial March" hwn 5000 o ddoleri—mwy o ugain gwaith—nag a dderbyniodd am yroll o'i opera y "Lohengrin" yn y flwyddyn 1856, yr hyn sydd yu ddigon o brawf fod y fam gyffredinol o'i du. Bu cyfandir Europ hefyd yn llawn o dwrw cerddorol yr wythnosau diweddaf, a dylifiad pobloedd lawer tua Gwyl Gerddorol y Rhenish Isaf, ond deallwn nad oedd mor boblogaidd ag arferol, a hyny fe ddichon, o herwydd fod Gwyl Gerddorol Ẅagner mor agos, yn yr hon y bydd Ymerawdwr ac Ymerodres Germani yn bresenol, yn nghyd a'r Dywyoges a'r Tywysog Coronog, gyda llu mawr o fân Dywysogion eraill y Cyfandir; ac felly gellir casglu mai Gwyl Bayreuth (Bavaria) yw prif atdyniad y lluaws. Am gymdeithas gorawl y Lower Rhenish, nid yw yn lhiosog iawn pan ystyriom fod y Germaniaid yn Genedl mor gerddgar. Efallai nad annyddorol gan ein darllenwyr ddeall sut y mae yr Ellmynod draw, yn rhanu a chyfartalu y gwahanol leisiau; yn yr wyl hon yr oeddent wedi rhanu fel y canlyn:—Sopranos 120, AUos 77, Tenors 79, Basses 120, yr oll yn 378, gyda cherddorfa o 124, rhwng yr ollyn 502 o berfform- wyr—tua'r un nifer ag eiddo Gwyl Gerddorol Birmingham. Agorwyd yr wyl eleni gyda pherffbrmiad tra llwyddianus o oratorio Handel, "Solomon" yn ol y score wreiddiol, gyda yr eithriad o ran yr organ, yr hwn a wnaed gan Mendelssohn yn y flwyddyn 1835. Mawr ganmolir datganiad y côr o rai o'r gyd- ganau, yn neillduol y cydgan ardderchog " Happy, happy Solomon," teflid y geiriau hyn o'r naill cydgor i'r llall yn dra effeithiol. Gwnaed rhanau eraill o'r wyl i fyny o weithiau y prif awduron, ac yn eu plith, wrth gwrs un o brif ddarnau offerynol Beethoven,— heb gael un o'i ddarnau ef, nid ystyrir fod Gwyl yr Rhenish yn orphenol. Parhau i Ddoctoreiddio eu gilydd y mae ein cymyd- ogiony Saeson, a'r ddau gerddor a raddiwyd ddiweddaf ydynt, Syr John Goss a Mr Arthur Sullivan,—y cyntaf yn hên wr—wedi cysegru ei oes yn ngwasanaeth cerddoriaeth, ond yn awr ar "hongian ei delyn ar yr helyg.'' Yr olaf sydd gerddor cydmarol ieuanc, ond yn barod wedi profi ei fod yn un o gyfansoddwyr blaenaf y Saeson. Yr ydym yn deall mai trwy hir a thaer gymellion y cydsyniodd y ddau gerddor hyn i dderbyn eu graddau, a pha ryfedd hyn, gan fod y graddio yma wedi myned yn beth mor gyffredin. Pe cesglidy rhywogaeth gynffonog hon oll at eu gilydd, byddent yn ddigon lluosog i wneud cymanfa Ddoctor- aidd lled fawr. Pe yr elid eilwaith—a siarad yn ddamegol—i ddyrnu ac i nithio y gymanfa hono, ceid o honi gymanfa arall—agos mor lluosog o us cwacyddol. Deallwn fod prif gerddorion Lloegr yn dechreu teimlo fod y graddau Doctors a Bachelors yn urddau rhy hawdd i'w henill; ac am y rheswm hwn, cynygiant ffurfio pwyllgor o 16, er codi'r safon bres- enol. Etholir y nifer yna o'r prif Golegau, a chan fod prif gerddorion Lloegr yn perthyn i'r sefydliadau hyn, tra thebyg na fydd y rhywogaeth hon o gerddorion mor Uuosog yn yr oes nesaf, ag ydynt yn yr oes bresenol. Ymddengys fod amryw o gôrau yn y Gogledd yn parotoi ar gyfer Eisteddfod ddyfodol Wrexham, ac y mae'n dra thebyg yr â côr neu ddau i fyny o'r Deheudir, o leiaf y mae Côr Undebol o Aberdar dan arweiniad Gwilym Cynon, a Chôr Undebol Treorci o dan arweiniad Eos Cynlaia yn siarad am hyn, nid gyda y bwriad neillduol o drechu Corau y Gogledd, ond er mwyn y bleser-daith, a mwynhau Eisteddfod Ogleddol am unwaith. Pe bae un o'r Çôrau hyn yn sicrhau ei fod yn myned i'r gystadleuaeth, y mae genym bob sicrwydd y byddai i'r pwyllgor sicrhau cerbydres i'wcludo ar.delerau hynod o rad.