Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYHOEDDEDIG AB Y CYNTAF O BOB MIS. Ehif 25. CYF. II. MEDI 1, 1874. Pris 2g Y CYNWYSIAD. TUDAL. .....65 ____66 ____97 ....52 Beirniadaeth Canigau Coedpoeth...... Y Cwersi Cerddorol.................. Y Gwersi ar Gynghanedd.............. Cerddoriaeth gyda'r Telegraph...... bwrdd y golygydd........................68 elsteddfod tonypandy....................68 Cerddoriaeth................................. Barddoniaeth............................69 Oedran y Prif Gkrddorion. Detholion.. ..70 Hanesign Cerddorol.......................71 Hysbysiadau.................................72 EISTEDDPOD OOEDPOETH. GORPHENAF KA'R2, 1874./ Beirnidaeth y Canigau. Derbyiwyd saith cyfansoddiad, pa rai a ddsbarth- wyd yn ol eu teilyngdod cyraliarol. Ferdi Jones.—Cyfansoddiad digon rheolaidd, mor bell ag y cyrhaedda. Tebyga yn fawr i'r hen forwyr cyntefig,—yr ofn o golli golwg ar y lan yn ei gadw "byth a hefyd " yn yr unfan. Yr un theme o'r bron sydd ganddo, acheb ond ychydig iawn o amrywiaeth yn y trefniant. Gwir fod y mymryn theme yn lled berorus, eithr y mae yn rhy amddifad o amrywiaeth a gwreîddioldeb i fod yn leading idea. Stradella sydd lawnach o amrywiaeth na Yerdi Jones, er y ceidw yntau at yr un theme yn ormodol. Mae eithaf ymgais at effaith a bywyd yn yr allegro, ond ei fod yn ymgais y newyddian yn fwy na'r prof- edig. Brawddegau plentynaidd braidd sydd ar y geiriau " Yn esmwyth suo iddynt sy," gyda'r symud- iad Heddfus a'u'dilynant. Têríyna y cyfansoddiad yn lled fireiniol a chymeradwy. l'mgeisÿddla. anfonodd gyfansoddiad byr a dirodres. Mae ei aìaw yn brydferth ac i raddau allan o'r ffordd gyffredin; ei ddiffyg mwyaf sydd mcwn destlusrwydd cynghaneddol. Mae ei gynghanedd yn lled rheolaidd *r y cyfan, eithr pe buasai yn fwy deheuig a thaclus yn y trefniant o honi, diau geuyf yr ymddangosasai y cyfansoddiad yn fwy gorphenol. G wr boneddig carpiog ac ansyber sydd anesgusodol, a rboddi blawd càn mewm sachau glo sydd anhymmwys; nid fawr amgen- ach na rhoddi alaw dillynaidd mewn trwsîad annestlus. Mae y ganig fer yma yn werth ei hail fwrw, ond cael y fold yn fwy cryno a fliuniaidd. Gwanwynog.—Dyma farddoniaeth dlos, ond fod arogl llwydni i raddau ar y cynllun, ac y mae y gerdd- oriaeth arni yn syml a a gweddus hynod. Nid oes dim ymgais at y cywrain mewn peroriaeth na chyng- hanedd gan Gwanwynog. Mae Ymgeisydd yn rhagori arno yn naws ei beroriaeth, ond Gwanwynog pia hi o ddigon am ddestlusrwydd. Rhy ystryJebol o ran cynllun a pheroriaeth yw y cyfansoddiad ar y cyfau i gael ei restru yn mysg ein ceinion. David.—Caniggryno a rheolaidd o ran cynghanedd, a lied berorus o ran alaw yw eiddo David. Rhagora gryn dipyn ar yr rhai a restrwyd yn fìaenorol. Mae ei írawddegau cerddorol yn fwy pert a chymraesur, a'i symudiadau cynghaneddol yn fwy clasurol na yr eiddynt hwy. Nid wyf ynlhoíË yr " Alegro Giocoso1' cystal a'r rhanau ereill; mae diffyg freshnes yn y beroriaeth, a gormod o gyffredinedd yn y gynghanedd i enill cymeradwyaeth uchel a diamwys. Der Freischutz.—Dyma un eto gwell na'r llall yn mhob ystyr; er y credwyf y dechreua hon hefyd yn well nag y diwedda. Arddull ystrydebol y canigau Cymrig diweddar sydd yn darostwng hon yn fy ngolwg; Nid oes genyf reswm yn erbyn yr arddull ychwaith,*yn amgen na fy mod wedi blino arni. Credwyf y dylid gochel rhag repeatio arddull yn ormodol yn ogystal a rhywbeth arall. Mae ychydig o adeiladau yn y Gothic style yn addurnol iawn> ond ni hoffwn weled trefydd cyfan o'r style hono. Oni ddylai ein cyfansoddwyr astudio arddull wreiddiol fel sylfonau ac alawon gwreiddiol? Maegyru idea dda nes iddigolli ei phed- olau yn ei handwyo. Cymmerd ein cyfansoddwyr presennol yr awgrym yn yr ysbryd caredig ag y rhodd- ir ef i'w sylw, a gwna fwy o les iddynt hwy a cherddoriaeth na fydd enill mil o wobrwyon trwy gyfasoddiadau ail law ac ystrydebol. Gresyn toddi metal gwerthfawr i fold gyflogedig a chyffredin; Os ceir gwin newydd myner hefyd gostrelau newyddion. : Robert le Diable.—Gwell eto. Ni ceir yr un o'r