Skip to main content

RFA: Cgle|$ratom gtÌMl nt teu%wutfy êîtBÌsmnty a ^mooBnmtfy ê%mxáQ. CYHOEDDEDIG AB. Y CYNTAF O BOB MIS, Ehif 16. BHAGFYB 1, 1873. Pris 2g Y DDAU NODIANT CERDDOROL. Llawer o ddadleua chroesdynu sydd wedibod, acyn bod, yn y blynyddoedd diweddaf hyn, gyda golwg ar ddiffygion a rhagoriaethau cydmarol y ddwy gyfundrefn o ymwneud a cherddoriaeth. Tra y dadleua cefnogwyr yr hen nodiant nad oes, ac na ddaw, yr nn gyfundrefn byth mor berffaith a'r eiddynt hwy. Ceir y sol-fawyr. o'r tu arall, yn llawn morselogdros y syttem newydd. Wrth gwrs, mae gan y ddwy blaid eu gwahanol resymau dros y systemau a bleidiant—er nid bob amser, na chan bawb o honynt. Cly wn yn aml yr hogyn hwn a'r hogen arall mor selog yn ceisio dadlu yn erbyn eu gilydd dros y naill a'r llall. A chan na fedda yr un o'r ddau wybodaeth na phrofiad teilwng o ddim, nis gall y naill drechu y llall drwy resymau, ac o ddiffyg meddiant o'r arfau gwir angenrheidiol hyn yn mhoethder y ddadl, ond odid na cheir eu gweled yn ceisio penderfynu y pwnc trwy nerth y fraich a'r dwrn. Nid oes ond ychydig fisoedd er pan clywsom Sion o'r Llechwedd a Wmffre 'or Pant—dau hen wr penwyn— yn oeisio setló'r mater ; ond wrth geisio gwneud hyny, collodd y ddau hen gerddor bob tymher dda, ac ofnem, ar y pryd, mae yr un cynllua a'r hogiau a gymerent i benderfynu y ddadl. Y gwir yw hyn, ni ddylai neb, pwy bynag fod yn rhy sicr yn ei feddwl ei hun ar y pwnc. Diau fod yn y naill a'r llall o'r ddwy gyfun- drefn ragoriaethau a diffygion. Credwn ei bod yn rhy gynar eto i geisio cydmaru y ddwy, am nas gellir dysgwyl i'r gyfundrefn newydd—newydd mewn rhan beth bynag—i fod mor berffaith a chyson a hi ei hun a'r hen, yr hon a gymerodd ganrifoedd i'w pherffeithio- Wrth edrych yn ol, drwy yspienddrych hamesydd- Jaeth i'r gorphenol pell, cawn yr hen gyfundrefn mewn sefyllfa anmherffaith iawn^ Yn niwedd y chwechfed gaarif nid oedd yr hen mewn bodolaeth o gwbl. Yn y cyfuod hwn yr oedd gan y Groegiaid fath o nodiant dyrys, yr hwn a gynwysai y nifer fawr o 1,240 o arwyddion. tra na chynwysai nodiant y Lladinwyr ond pymtheg arwydd, y rhai oeddynt lythyrenau eu hegwyddor—A, B, C, D, B, F, G, H, I, J, K, L, M, N, 0, P. Ond ceir i Bab o'r enw St. Gregory, i wneud gwelliantau pwysig ar y nodiant dau sylw, ya yrhwn nid oedd y seiniau yn y dwblwython bìsdiap- saon ar y Lichaos Meson, neu y dôn ganol, amgen nae ail adroddiad o'r rhai blaenorol; ac hefyd, yr oedd pob seithioa yn y graddau yr un modd, ac fel gwelliant y lleihaodd rif y llythyrenau i saith, sef A, B, C, D, E, F, G. Er dynodi yr ail seithion oddiwrth y cyntaf, defnyddiai lythyrenau bychain fel hyn—a, b, c, d, e, f, g; a phan byddai angen estyn yn mhallach, dybîyd y rhai bychain fel y canlyn—aa, bb, cc, dd, ee, ff, gg. Felly, gwelir nad oes ond rhan o nodiant Gregory jn gynwysedig yn yr hen nodiant presenol. Y mynach Guido—yr hwn oedd yn byw yn yr haner gyntaf o'r unfed ganrif ar ddeg—yw tad priodol ein hen nodiant ni, er na fyn pawb addef hyn, Efe a ddyfeisiodd erwydd, yn cynwys amryw linelìau cyf- ochrog, yr hon a wellhawyd trwy ddefnyddio pwyntiau bycuain, gwahan-nodau' a math o wyrliuellau i'w defnyddio yn achlysurol ar yr erwydd, ac hefyd dwy linell o wahanol Liwiau—un felen i arddangos y no4 c, ac uu goch i arddangos f. Wedi iddo gyfinewid y gyfundrefn o seiniau a arferid gan y Groegiaid, trwy ychwanegu ati seiniau newyddion, a chyfnewid y penrygordiau i chwechordiau; er cynorthwy i'w ddysg- gybüen, efe a ddynododd bod nod a'r silliau ut, ne, mi fa,sol, la. Fel hyn gwelir mai Guido ydyw gwir syl- faenydd cyfundrofn y sol-fa, ond mae yn ddiweddar y dygwyd i fewn iddi y gwelliantau presenol, at y rhai yn ddiau yr ychwanegir eto. Dylem sylwi yma nad oedd gan Guido unrhyw gynllun i arddangos gwahanol berthynasau a hyd seiniau. Franco, Germanwr, yn Coln, yn y chwarter diweddaf o'r unfed ganrif ar ddeg ddygodd y cynllun hwn i arferiad, drwy ddyfeisio cynllun i roddi gwahanol hydau i'r nodau. Ar ol Guido daeth Zarlino, yr hwn a drefnodd y cyfryngau cerddorol yn eu perthynas â'u gilydd mewn rhagorach tref'n trwy ddwyn i mewn i'r gyfundrefn y sharp a'r flats—y rhai nad oedd ynddi yn flaenorol—ac a ran- odd yr wython i ddeuddeg o haner tonau. Fel yma