Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cirídjgr atmt fUboí aí tomta£tíj feooorarálj a ÿaroboîtwiíj <%mmjg. CYHOEDDEDIG AR Y CYNTAF O BOB MIS. Ehif 13. MEDI 1, 1873. Pris BEIRNIAID EISTEDDFOD SYDBNHAM, 1873, AR GYSTADLRUAETH YR HER WOBR. Gan y credwn nad yw ein holl ddarllenwyr, o bosibl, yn hollol gydnabyddus yn hanes y tri Beirniad ar y gystadleuaeth bwysig uchod, yn yr hon y bu Oym- deithas Gorawl Deheudir Cymru mor llwyddianus, nid yn unig trwy enill y cwpan aur a'r £100; ond enw a cblod, y rhai erbyn hyn sydd wedi ymledu dros y byd cerddorol. Do, fe roddodd y Oor Oymreig ar y lOfed o Orphenaf goron o anrhydedd ar ben eincenedl, ac y bydd yn werth gan hanesyddiaeth i gyfeirio ei bys ati o'r oesoedd a ddeuant. Syr Julius Benedict, sydd erbyn hyn yn hen wr yn ymyl ei ddeg a thriugain oed, ac wedi treulio ei oes mewn cysylltiad â cherddoriaeth. Oafodd yr anrhyd- edd o'i eni mewn tref gerddorol, yr hon sydd mewn gwlad gerddorol, sef yn Stuttgart, yn Germany. Caf- odd yn ieuainc ei freintio â manteision addysg gerdd- orol o'r radd flaenaf. Bu yn ddysgÿbl i'r enwog Weber, yr hwn oedd yn dra hoff o hono ar gyírif ei ymroddiad a'i allu ì ddysgu, yn nghyd â'r daleut a ymddadblygai ynddo. Bu ar ymweìiadau yn Itali a Ffrainc, ac enillodd yn y gwledydd hyn, yn gystal ac yn ei wlad ei hun, enw fel cerddor, ac awdwr araryw operas. Y mae hefyd yn aelod o'r French Academy, ac wedi cael ei anrhydeddu a decorations gan goron Wurtemberg. y Portugese Order of Christ, a'r Belgian Order of Leo- pold, ac yn Mawith 1871, gwnaed ef yn farchog gan y Frenines Yictoria. Efe hefyd a ddewisodd y gan- tores athrylithgar Jenny Lind i arwain ei chyngherdd- au mawrion yn yr Unol Daleithiau, a chawn ef wedi hyny yn arweinydd yr Italian Operas yn Llundain Er ei fod yn German o genedl, ac wedi teithio cryn dipyn ar hyd y byd, ein prif ddinas ni a ddewisodd i ymgartrefu, a'r hon y talodd ei ymweliad cyntaf tua deugain mlynedd yn ol. Pan gymerodd y gystadleuaeth grybwylledig le, canolbwynt ein sylw, feí y dylai fod, oedd ein har- weinydd Oaradog, ond nis gallem lai na thaflu ambell î gipdrem tua chyfeiriad y Beirniaid, am ein bod yn teimlo dipyn yn awyddus i fìurfio barn am farn y Beirniaid, yr hyn a ymdrechem wneyd oddiwrth eu hagweddau yn gwrando, a chanfyddem Syr Julius, yr hwn a eisteddai yn y canol, ar ei wên, a'r wên hono yn wên o foddhad, a chlywsom gan amryw oedd yn nes ato nani, fod yr effaith a'r teimlad a gynyrch- odd y Oor Cymrcig yn natganiad " I wrestle and pray," wedi sygndynu aml i ddeigryn tryloyw allan ou lygaid bywiog a siriol, a chredwn íod un deigryn o eiddo hen gerddor profiadol, o safle Syr Juìius Benc- dict yn ddigon i foddi mil o gau critics pleidiol ac eiddigeddus, fel eiddo y Sutulay Times, The Hour, a'r Daily Telegraph. Syr John Goss sydd Sais o genedl, wedi ei eni yn y flwyddyn 1800, ac felly y mae ychydig yn hynach na Syr Julius Benedict. Ojflawnodd y swydd o Organ- ydd yn eglwys St. Paul am yr ysbaid o bumtheg mlynedd ar hugain. Yn ystod ei oes y mae wedi cy- fansoddi amryw weithiau cerddorol, yn mhlith eraiìl cawn ei Alar don ar farwolaeth y Duc o Wellington, ' Te Deum," "Yr Arglwydd yw fy nerth." Yr oìaf a gyfansoddwyd ganddo ar gyfer yr wyl o ddiolchgar wch yn eglwys St. Paul, Ohwefror 1872, ar wellhad TywysogOymru o'i afiechjd. Y flwyddyu ddiweddaf gwnaed ef yn farchog. Mr. Joseph Barnby sydd ddyn tua chanol oed wed enill er ys blynyddoedd satìe uchel fel awdwr ac ar- weinydd. Efe ydyw arweinydd presenol y " Royal Albert líall" Ohoral Society, yr hon sydd un o'r cymdeithasau Uuosocaf a galluocaf yn Llundain. Y mae yn ainheus genym a oes neb byw na marw, a wnaeth gymaint ag ef dros ddwyn gweithiau anfarwol- ion i sylw. Dyna weithiau Bach yn cael eu gadael yn. '' salach nag islaw sylw" am flynyddau meithion. Tra y dadleuai y lluaws nad oedd dim ynddynt ond celfydd- yd heb natur ; ereill a wrthodent wneyd dim â hwynt ar gyfrif eu hafrwyddineb, ac elent mor bell a haeru ei bod yn anmhosibl cael 0(U' a allai eu meístroli. Ond ni fynai Mr. Barnby gredu hyn. Meddai Iygad eìigou craff, a chalon ddigon cerddorol, i deimlü fod yu ngweithiau yr hen gerddor Germanaidd faes o athry, lith nad oedd llygaid y wlad hon wedi eî ganí'od.