Skip to main content

OLYGIÁETH DEWI ALAW A D. EMLYN 'EYANS. CYHOEDDEDIG AR Y CYNTAF O BOB MIS. Ehif 8. EBEILL 1, 1873. Pris 2g. YSGOLORIAETH GERDDOROL GYMREIG. Mae yn wybyddys yn ddiameu i lawer o'n darllen- wyr, fod yn Llundain Gymdeith as Gerddorol Gym- reig—"Welsh Ghoral Unìon" y gelwir hi, yr hon sydd dan arweiniad Mr. John- Thomas (Telynor Ei Mawr- hydi y Frenines). Ychydig amser yn ol, derbyniasom Rageirlen y Gymdeithas hon am y tymor dyfodol; a dealiwn y cynelir pedair o gyngherddau—heblaw yr un ychwanegol a nodir isod—yn y Queerì's Goncert Rooms pryd y datgenir Rhanganau, Anthemau, a cherddoriaeth Gymreig. ynghyd a "Lallegro Handel" " Âthalie" {Mendelssohn), "Llywelyn" fjno. Thomas) &c, Nid ydym yn gwybod beth yw status y gymdeithas hon yn y brifddinas, lle mae cynifer o rai da anhaẃdd iawn gwneud argraff o gwbl—ond hyn a deimlwn, fod Cymdeithasfa ag sydd yn ymgeisio ,'mor ragorol, yn teilyngu cefnogaeth; a llwyddiant lawer. ! Pa fodd bynag, nid dyna yw eia testyn uniongyr- chol y tro hwn, ond yn hytrach yr hyn a'i hawgrym- odd yn y paragraff canlynol a geir ar y Rhageirlen:— '.' Mae y Pwyllgor y 'London Welsh Ohoral Union' gyda ohydsyniad calonog aelodau'r Côr, wedi pender- f'ynu'n unfrydol ÎA Cyngherdd i'w rhoddi'n flynyddol, derbyniadau pa un a ddefnyddir tuag at ffurfio Ys- GOLORiAETH Gerddorol mewn cysylltiad a'r Brif Athrofa Gymreig, ac i'w galw y "London Wblsh Choral TJnion Scholarship." Dyma yw ein barn ni, cam rhagorol yw yn y iawh gyfeiriad; tra y mae gwyr y sect hon a'r gredo arall gartref, yn hidlo gwybaid shibbolthawl eu "ni" anwyl hwy eu hunain, wele Lechwyr y Gogledd, Commercial Tratíellers y Dywysogaeth, a'r Gymdeith- asfa uchod o wladgarwyr, gyda'r cerddor enwog ag sydd yn ei blaenori, yn penderfynu gwneud rhywbeth. Nid ydym ni, yn bersonol, yn gofalu yr un mymryn pa sect fyddo'nuchaf tuagat adeiliadu'rAthrofa; nid ydym yn gwel'd fod a fyno hyny a'r mater o gwbl; a byddai yn iechyd o beth pe bai rhyw angel yn cyhoeddi uwch ben doctoriaid yr holltiblew' yma, " JSi bydd sect mwyach ! "—ond hyn sydd o bwys genym, sef fod i'r Athrofa hir-ddisgwyliedig a dymunedig ag sydd wedi ei sefydlu, ddod yn sefydliad cryf, llwyddianus, ac ym allu mawr a gwirioneddol yn addysgiaeth y genedl. Bydd yr ysgoloriaethau hyn o werth an-nhraethol yn y cyfeiriad hwn, ac yn gryfhad i freichiau'r pwyll- gor pan yn ymofyn am gynorthwy oddiwrth yllywod- raeth. Bid siwr, ni fydd Ysgoloriaeth Gerddorol heb Bro- ffeswriaeth hefyd yn y " Wyddor Ddwyfol" o fawr budd, ond bydd yn hawdd sicrhau'r olaf ar ol medd- ianu y flaenaf. Mor sicr a hyny, ni fydd Athroía Geftedlaethol os na fydd Oerddoriaeth yn cael ei chyn- rychi^li ynddi yn deilwngo'r enw; felly, wrth derfynu, nid oes genym ond gobeithio y bydd " pawb ag sydd yn caru Oymru" yn Llundain, yn bresenol yn Nghyng- herdd y " Welsh Choral TJnion," ar y 27ain o Fehefin nesaf. EISTEDDFODATJ AMERICA. Pa un-a ydyw'r "hen iaith" i farw yn eigwlad ei hun —fel y myn rhâi prophwydi—neu i adfywio yn y gor- llewin draw, sydd fater anmherthynasol i'n testun ar hyn o bryd; ond un peth sydd sicr, fod y Ojmry yn yf Amerig, yn dra ffyddlawn i " draddodiadau eu tadau;" fod y gwyliau Eisteddfodol a gynelir yno o bryd i bryd yn deilwng o efelychiad mewn rhai adranau pwysig gan bwyllgorau ein Heisteddfodau ni yn Nghymru ; ao fod eu îíewyddiaduron yn bendifaddeu, yu taflu gwarth lawer ar y mwyafrif o'n heiddom ni, o ran gallu llenyddol, cymwys, a boneddigeiddrwydd ymadrodd, | yr hwn beth olaf sydd bob amser yn gydfynedol a gwir