Skip to main content

Y GERDDORFA DAN OLYGIAETH DEWI ALAW A D. EMLYN EYANS. CYHOEDDEDIG AR Y CYNTAF O BOB MIS. Rhif 6. CHWEFROR 1, 1873. Pris 2g. DARNAU YR HER-WOBR DDYFODOL YN Y PALAS GRISIAL. (Parhad o'r Rhifyn diweddaf.) Yn ein Rhifyn blaenorol y darn olaf fu dan ein sylw oedd y " Dies Irae" (Cherubini); a'r nesaf ar y rhestr ydyw yr "Hallelujah" o Moiont of Olwes, Beethoven. Mae y Gydgân odidog hon yn un o'r mwyaf adna- byddus o ddarnau corawl y cyfansoddwr mawr hwn, a chredwn ei bod braidd yr unig un ag sydd yn adna- byddus yn Nghymru o gwbl. O berthynas i arddull y rhanau lleisiol y mae'r f elodeg a'r gynghanedd yn dwyn mwy o ddelw Handel na neb arall. Yn y cy- feiliant oíferynol y ceir yr olwg oreu ar wreiddioldeb a beiddgarwch y mwyaf gwreiddiol a beiddgar hwn o'r holl feistri; ac y mae y darn yn un o hoff-bethau ein prif organyddion er arddangos eu gallu a'u medr. O ran unrhyw anhawsderau darllenyddol prin y gellir dweyd y bodolant o gwbl, o leiaf i gôr galluog. Cych- wyna'r lleiaiau'n llawn gydag ychydig froddegau cryf a gorfoleddus, ac ar ol diweddeb offerynol ar y llywydd, cychwynir testun ehedgan hollol syml gan y Soprani; nes yn mlaen daw stretto i mewn, wedy'n ceir traws- gyweiriad eífeithiol iawn i'r cywair lleiaf, ac yna dygir y rhan hon i ryw haner terfyniad gyda defnyddiad liynod o gord y 7fed llywyddol; ni cheir unrhyw adfer- iad melodawl i'r cord, ond yn unig un cynghaneddol, pryd ar ol tri mesur gan yr offerynau y cychwynir testun arall—llawn mor syml—(p) ar y cyweirnod dechreuol, " Worlds unhnown," &c. Defnyddir yr un pwynt nes yn mlaen drachefn ar ol y broddegau blodeuog ar " Praise," &c. Ystyriwn fod y dull ag y trinia Beethoven ei wahanol destunau yn y Gydgan hon yn wers i'n cyfansoddwyr, sef gweithio allan y testun, ond nid ei ladd, fel ag yw'r " flasiwn" gan rai o honom. Terfyna y darn hwn yn dra gogoneddus parth lleisiau ac offerynau; ac ond i'r côr dalu sylw digonol i darawiad y testunau, &c, nid ydym yn meddwl y gall lai na bod yn nerthol ac effeithiol iawn; diameu fod y gydgân hon ar amryw ystyron y symlaf, ynghyda'r mwyaf cyfaddas i alluoedd y Côr Cymreig o'r oll, ond ni ddylai hyny gynyrchu teimlad o ddi- faterwch. Ar ol hwn daw darn byr o dair tudalen o " St. Paul," Mendelssohn, " See what love hath the Father," a "chariad y Tad" yw yr hyn a anedlir yn mhob brawddeg, ac yn mhob mèsur o'r cyfansoddiad. Cyd- gân hollol Fendelssohnaidd yw hon yn mhob ystyr; ni cheir yma esiampl o ehediant caeth, ond ceir yr hyn sydd lawer fwy gwerthfawr, er ei bod yn yr arddull ehedgânol. Ar ol un mesur gan yr offerynau daw y Tenori i mewn gydag un o'r broddegau mwyaf gogleis- iol a ysgrifenwyd erioed gan feidrol. Mae'n hollol syml ond yn or-dlws, a phwnc y lleiswyr fydd cael gafael-yn, a rhoddi effaith i'r teimlad a gynwysa. Dy- lynir y Tenori gan yr Alti mewn brawddeg mwy efelychol nag ehedganol, a thrachefn gan y Soprani, ynghyda'r Bassi yn groes-symudol. Mae y tair tu- dalen werthfawr hyn yn frith gan efelychiadau a phwyntiau a fyddant yn amlwg i'r cerddor deallus; ond mae yr oll yn berfiaith hawdd, a'r peth mawr fydd cânu y darn gyda'r tynerwch teimlad gofynol. Mae yr oll yn mron i'w gânu yn píano, ychydig sydd a fyno y cryf a'r darn o gwbl, ond yr ydym yn meddwl fod rhai o'r arwyddion olaf wedi eu gadael allan yn y rhanau lleisiol, gweler wrth y "that we should" cyntaf yn tud. 2il. Yr olaf—ond nid y üeiaf o gryn lawer—yw " Come with torches," o " Walpurgis Night," Mendelssohn. Awyddfryd mawr awdwr yr " Elijah" a " St. Paul," oedd cyfansoddi Opera, yn enwedig felly tua therfyniad ei fywyd byr ond dysglaer; addawai ym- gymeryd a'r gwaith " pan y gallai ysgrifenu'n well" (!) meddai, ond tra byddo y Gantata Ddramayddol hon mewn bod, ni fydd angen am yr un esiampl er profi hawl Felix Mendelssohn i gael ei ystyried yn ysgrifenwr dramatic. Arferai ddweyd yn chwerthingar wrth rai o'i gyfeillion,ei fod yn fwy llwyddianus gyda'i gydganau paganaidd nag oedd gyda'i rai Cristionogol ac Iuddew- aidd; a thra bo'm yn sefyll uwchben y Cantawd hon, ac uwchben y Gydgân hon perthynol iddi, yr ydym braidd yn ddifrifol o'r unfarn ag ef; ae yr ydym hefyd o'r farn mai dyma y darn ag y bydd rhaid chwysu fwyaf ynglyn ag ef erbyn Cystadleuaeth 1873. Ysgrifenwyd y Gantata gan Mendelssohn yn 1831, pan yn ymdeithio yn Milan a Paris, ac ailysgrifenwyd hi ganddo yn Leipsig, 1842; felly canfyddir fod ganddo gryn olwg ar y cyfansoddiad.