Skip to main content

Y GERDDORFA %lrlt0ntttm «Pteflî ú wmmúh <&ýxà&Qxmú}t n ^m&âtmmiìt êptrajg. DAN OLYGIAETH DEWI ALAW A D.rEMLYN EVANS. CYHOEDDEDIG AR Y CYNTAF O BOB MIS. Rhif 5. IONAWR 1, 1873. Pris 2g. DARNAU YR HER-WOBR DDYFODOL YN Y PALAS GRISIAL. Yn unol a'n haddewid y mis diweddaf, bwriadwn yn bresenol daflu brasolwg dros y darnau ag ydynt wedi eu dewis erbyn cystadleuaeth nesaf yr her-wobr. Ym- gymerwn a'r gorchwyl hwn, yn un peth, yn unol a chais amryw o gareuon "Undeb Corawl Deheudir Cymru;" ac yn mhellach am y gobeithiwn y bydd i ni drwy hyn alw sylw aelodau'r côr yn fwy neillduol at y darnau—i beri iddynt i chwilio mewn i'w gwahanol deithi'n fwy llwyr—ac yn fyr, i ymgeisio at gael allan feddyliau mwyaf dwfn a chyfrin y cyfansoddwyr. Nid ydym ar antur pan yn dweyd mai ymdrechu at ddarllen y nodcm yn unig, y mae mwyafrif ein cantorion, gan ymfoddloni ar y materol ac •sgeuluso yr hyn sydd uwch—y meddyliol. Diameu y gall arweinydd wneyd Uawer—ac mor ddi- amheuol a hyny fe wna'r arweinydd presenol wrhydri yn y cyfeiriad hwn;—ond bydd yn berffaith anmhosibl i nnrhyw arweinydd o hono ei hun danio a'r teimlad dyladwy gôr lluosog o bobl, nad ydynt erioed wedi gwneyd yr un ymdrech i dreiddio yn is nag arwynebedd nôdau a'u gwahanol arwyddion. Yn y gystadleuaeth bresenol y cyntaf ar y rhestr darnau yw " The many rend the shies," gan Handel, o " Alexander:s Feast"—gwaith a gyfansoddwyd ganddo yn 1735, dair blynedd o flaen " Israel," a chwech o flaen y " Messiah;" ac felly flynyddau cyn i ymer- awdwr yr Oratorio—er eisioes dros haner cant oed— brofi i'r byd fawredd a thoreithrwydd dihysbydd ei alluoedd. Y peth cyntaf a dyn sylw y craffus yn y cydgân presenol yw y ground Bass ar ba un y gweithir y symudiad cyntaf yn hollol: ceir y testun yn gyflawn yn y pum mesur ("ban") cyntaf, ac er yr ail-adroddir ef bedair ar ddeg o weithiau, mae y gynghanedd, y trefniad, neu'r ffigwr bob amser yn wahanol. Egyr y rhanau íleisiol yn fawreddus iawn, ac y mae'n agoriad a fydd wrth fodd calon y Côr Cymreig; yr unig berygl fydd i'r lleisiau gwrywaidd syrthio i'r bai ag y cyhudd- wyd hwy o hono y llynedd, sef bloeddio, gan fod y nôdau yn dra uchel. Wrth y drydedd " loud applause" bydd yr ensemble yn odidog, ond rhaid i'r lleisiau bara'n ddiysgog yn ngwyneb rhyferthwy y violini, a gwrthddull cras, ond nerthol y 7fed mwyaf gan y Bassi. Ar ol ychydig orphwysiad i'r rhanau lleisiol cychwyna'r alti frawddeg efelychiadol yn piano, ychydig nes yn mlaen cawn yr ûn frawddeg yn agos wedi ei gwrthddullio, ac ar ol hyny yn ei dull gwreiddiol, ond fod yr Isalaw yn ar- wain yn forte; dygir y symudiad hwn i derfyniad go- goneddus mewn adagio ar y llywydd cryf a dysglaer. Mae y symudiad allegro dylynol yn arddangos Handel yn un o'i arddulíiau hapusaf; ond eu cânu'n dda, bydd effaith ragorol iawn gan y gwahanol frawdd- egau bychain haner-ehedganawl hyn; yn wir, prin naa gellir dweyd fod mwy o arddull y ganig na dim arall yn y symudiad hwn, o'r hyn leiaf dyna'r arddull angenrheidiol er sicrhau datganiad teilwng. Profodd y " Nightingale Chorus" y llynedd wendid—neu yn hytrach gryfder—y côr yn y cyfeiriad hwn. 0 ran nôdau nid yw y darn hwn o gwbl yn anhawdd, hwyr- ach y ceir ychydig drafferth gan yr Isalaw yn yr haner tônau esgynol, ac efallai y bydd rhai o'r lleisiau'n tripio gyda'r 7fed mwyaf disgynol yn " So love was crown'd," ond y prif bwngc fydd cael gan gôr mor llu- osog i gânu gyda'r ysgafnder a'r hoenusrwydd priodol; ac i yfed o deimladau ysgafngalon y Bardd a'r Cerddor yn eu darluniad gorfoleddus o fuddugoliaethau cariad a chân. Gwahanol iawn mewn llawer ystyr yw y darn nesaf, sef y Motett, " I wresth and pray,,'> gan yr hen gantor o Leipsig—I. S. Bach. Fel ag y rhydd y darn blaen- orol gyfle i'r côr ddangos ei ddiwylliant mewn perth- ynas i liwiad y cryf a'r gwan, ynghydag ysgafnder dat- ganiad, &c; rhydd y cyfansoddiad rhagorol hwn gyfle arall iddo i brofi ei allu gyda'r dwys a'r dwfn. Mae y darn wedi ei ysgrifenu yn F leiaf, gyda dim ond tair lleddfnod, ac felly yn un o'r Hen "Foddau"—sef y Doriaidd, neu y cywair lleiaf gyda 6fed mwyaf. Def- nyddid y modd hwn yn dra mynych gan Handel— cydoeswr Bach—a mynir ei ddefnyddio'n fynych gan gynulleidfaoedd Cymry y dyddiau hyn—er gwaethaf golygwyr y " dum-dum"—ynglyn a rhai o'r hen Dônau Cynulleidfaol. Mae y rhan gyntaf o'r darn presenol wedi ei ysgrif- enu i Gôr-Dwbl, ac yn yr arddull eglwysäidd; am gryn dipyn nid yw yr ailgôr ond math o ailadroddiad—ad- sain—o'r un cyntaf; ond nes yn mlaen tyr allan mewn broddegau efelychiadol ac annibynol, hyd nes yr una'r ddau gôr mewn diweddeb Uawn. Am y symudiad hwn nid oes ynom fawr petrusder na fydd y Côr Cym-