Skip to main content

DORFA %ldtgrattm Jftisûl aí raattaetît %rMûrtaeiît a Sanîtataáft êptmjj. DAN OLYGIAETH DEWI ALAW A D. EMLYN EVANS. CYHOEDDEDIG AR Y CYNTAE O BOB MIS. Rhif 4. BHAGFYR 1, 1872. Pris 2g. "FFASIWN." Hwyeach nad ydyw y gair uchod yn un a ystyrir yn rhyw glasurol iawn; ond gesyd allan yr liyn a feddyliwn yn fwy cynwysfawr na'r un arall allwn alw i gof ar hyn o bryd. Peidied neb o'r rhyw deg—oherwydd gobeithiwn fod genym lawer o honynt yn mysg ein darllenwyr—a meddwl ein bod yn myned i draethu am na phenwisg na throed- wisg, nac unrhyw arallwisg. Ein testun yn unig yw "Ffasiwn gerddorol." G-wyr y sylwgar yn dda nad yw hyd yn nod cerddoriaeth " Gwenferch Gwynfa" ei hun heb deimlo oddiwrth orthrwm yr ormesdeyrnes hon; y dyddiau hyn mae ffasiwn mewn lleisio, ac mewn geirio ; mewn arwain, ac mewn sefyll; mewn dewis beirniad, ac mewn dewis testunau; mewn maint gwobr, ac mewn ansawdd gwobr; mewn hyd cyfansoddiad, ac mewn pwysau cyfansoddiad; 'ie, ac hyd yn nod mewn flats, ac mewn sharps ! Yn bresenol nis gallwn ymwneyd ond yn unig ag un o'r gwahanol adranau hyn, sef yr un gyfan- soddawl; hoffem yn fawr pe gallem lwyddo i godi safon, nid yn unig ein cyfansoddiadau ond hefyd ein cyfansoddwyr; a'r unig ffordd i effeithio hyn yw i'r cerddorion ymryddhau yn hollol o gra- fangau " ffasiwn," a chyfansoddi yn unig o gariad pur at y gwaith. " Dyger yr angel sydd mewn dyn" medd y Gadeirfardd Islwyn, " i gymundeb a'r angel sydd mewn natur, heb ddim i'w wobrwyo ond y cymundeb hwnw, ac efe a rodia allan o'r enaid ac a gân odlau a anwylir gan ysbrydion penaf y genedl trwy oesoedd dyfodol." Addefwn yn rhwydd mai nid ar ein cyfansodd- wyr yn unig mae y coll am yr hwn y cwynwn; mae pwyllgorau ein Heisteddfodau hefyd yn euog i raddau pell; cynygir gwobrwyon byth a hefyd am yr un dosbarth o gyfansoddiadau—a'r dosbarth hwnw, bidsiwr, yn un a ddigwyddai fod yn y ffasiwn ar y pryd—heb feddwl am foment am chwilio am lwybrau newydd a mwy cynhyrfiadol. Rai blynyddau yn ol ni cheid dim ond anthem- au; cynyrchwyd llawer, a chyhoeddwyd ychydig, ond mwy ychydig fyth a wnaeth unrhyw argraff; yn un peth mae y wir anthem wedi ei hollol gladdu, ac yn ei lle y mae genym rywbeth o arddull holloí wahanol, ponderous, hirwyntog, ac anwasanaethgar. Ar ol y dwymyn hon daeth eiddo y Dôn Gynull- eidfaol; a diameu cynyrchwyd canoedd lawer, ond nid yw yr ugeinfed ran o honynt erioed wedi eu cyhoeddi. Yna daeth hobby fawr y Gantata, a mawr a fu'r berw! tybiodd pob hogyn yn mron, y gallai ef gyf- ansoddi darn o gerddoriaeth a ellid ei alw wrth yr enw tlws hwn; ond wedi'r cwbl nid oes genym brin gantawd ag sydd werth y papur ar ba un yr argreffir hi. Cofier nid yw eiddo Mr. Ambrose Lloyd yn perthyn i'r cyfnod hwn o gwbl. Ar ol y Gantata dyma'r Ganig orfoleddus a dengar yn rheoli'r "ffasiwn," ac o'r holl dymhorau dyma'r unig un ag y gallwn ddweyd am dano ei fod wedi cynyrchu ffrwyth dyladwy. Yn bresenol y G ân a'r Cydgân a'i pia hi; beth sydd i fod nesaf nis gwyddom ; ond wrth orphen a gawn ni eto ddeisyf ar ein cerddorion i feddwl drostynt eu hunain, ac nid cymeryd eu harwain gan ddim na neb ond yn unig gan eu dyledswydd at Gerddoriaeth; fel yna y gwnelai y meistri, ac fel yna y rhaid i bawb ddymunant wir lwyddiant wneuthur eto. I raddau mwy neu lai mae yr " Ystorm" a " Habbacuc ;" y Motett a'r "Dòn;" yr " Haf" a'r " Gwanwyn ;" y " Nant" a'r " Gwlith- yn," a'r " Dydd," yn greadigaethau gwirioneddol o eiddo eu hawdwyr ; ac nid dynwarediad o rywbeth arall ag oedd wedi ei wneuthur yn hysbys eisioes. Yr ydym mewn gwir angen y dyddiau hyn am Anthemau symlion ; am Ranganau pwrpasol; ac am Ganeuon o'r un natur, a dim ond i'n cyfansodd- wyr ymddihuno at y dasg, ac ymgodi i'r safon briodol, nid oes ynom y petrusder lleiaf na lenwir i fyny y bwlch pwysig hwn, ac y cyfoethogir yn mhellaeh Gerddoriaeth ein Henwlad.