Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

djrjîrîtgraitm JJtîsoI ü wmmwúìi ẁriáoẅeíft a Harátofäáft êptrag. ÜAN OLYGIAETH DE¥I ALAW A D. EMLYN EVANS. CYHOEDDEDIG AR Y CYNTAF O BOB MIS. Rhif 3. TACHWEDD 1, 1872. Pris 2g. Gohebiaethau, Y Lleüad. Mbi. Gol.—Gan ei bod hi yn awr yn haner nos, nis gallaf roddi un dyddiad wrth fy llith, heblaw ei bod yn union ar y cyfwng hwnw rhwng ddoe a foru. Cymerais wibdaith yn ddiweddar i Eisteddfodau y Gogledd yna, a chefais lawer o bleseryn nghwmni y Worthmen y tro hwn. Gwyddoch fodyfcair eistedd- fod o gryn bwys wedi caeì eu cynal eleni yn y Gogledd;—un yn Nghaergybi, un yn Mhorth- madog, a'r llall yn Bettwsycoed. Cafwyd cyfar- fodydd llewyrchus a llwyddianus yn mhob un o'r tri 11 e, a bydd adgofion difyr yn hir ar ein meddwl am lawer o bethau a ddigwyddasant yn ystod y gwyliau hyn. Tebyg mai gair am yr adran gerddorol o honynt a fyddai yn taro eich chwaeth chwi oreu, Mr. Gol. Purion, er mwyn edrych yn gerddorol, a theimlo yn gerddorol, a gwneyd sŵn cerddorol, ac yn en- wedig ysgrifenu yn gerddorol—dyma íi yn tröi gwyn fy llygaid tuag i fyny, yn edrych ar dclarlun Mozart, yn hymio " Hen wlad fy Nhadau," ac yn cymeryd y pitchforh yn penholder. Yn ISTghaergybi y prif ddigwyddiad cerddorol oedd y gystadleuaeth ar ddatganu " Gloria," o'r Twelfth Mass. Ystyrid yn y Gogledd fod y wobr a gynygid am ei chanu, sef saith gini a thlws, yn wobr bwysig, er y buasech chwi yn y South yna yn " chwerthin yn eich llewis" am ben y fath wobr. Fodd bynag tynodd y wobr fel yr oedd, rai o'r corau goreu yn yr ardaloedd i gystadlu am dani. Yr oedd côr y Waenfawr, a chor Engedi, Caernar- fon, yn canu fel pe buasent yn penderfynu mynu y wobr; ac yr oedd y canu gan y ddau gôr hyn mor dda, fel yr oedd y gystadleuaeth hon yn ddiamheu yn oreu a glywais erioed yn y parthau hyn o'r wlad. Enillwyd y dorch, a hyny yn anrhydeddus gan gôr Engedi. Yn awr, looh out yn y Deheudir yna ; os cawn ni aml i gystadleuaeth gystal a hon o gyích traed yr Eryri, fe fydd yn bryd i chwi agor eich llygaid i gadw eich anrhydedd, Mri. Gol. Yr oedd yno gystadlu mewn llawer o fân bethau eraill, ac yr oedd y canu oll ar y cyfan yn lled dda. En- iìlwyd y gwobrau am gyfansoddi gan Alaw Ddu a Mr. J. Thomas (Blaenanerch) gyda chanmoliaeth uchel. Cynygiwyd gwobr gan bwyllgor yr Eisteddfod hon am chwareu unawd ar y violin; ac er fy syndod ni ddaeth cymaint ag un i gystacüu. Yr oedd yn dda genyf weled y wobr yn cael ei chynyg, am fod ar Gymru wir angen am wasanaeth offeryn- au tant (stringed instruments). Yr wyf yn meddwl y byddai yn fuddiol i bwyllgorau eisteddfodau De a Gogledd i gymeryd i fynu y peth, a chynyg gwobrau anrhydeddus am unawdau ar y crwth—y jiute, a'r violincello, (neu fel y gelwid yr ofíeryn hwn gan yr hen Ddafydd Bhys yn " ffidil fawr y ffedog,") a chynyg gwobrau hefyd i'r string bands goreu. Wel, pa le y ceid string bands i gysfcadlu, meddai rhywun. Eithaf gwir, na fedclwn mo honynt yn awr, ond wrth godi y peth i sylw, fe ddeuai bechgyn awyddus a thalentog allan i ffurfio yn gwmniau, ac fe fyddai gobaith mewn amser o gael clywed ein corau yn cael y fantais o'r newydd- beth hwn yn eu mysg. Peidied pwyllgorau eistedd- fodau yn y dyfodol, a rhoddi y drychfeddwl i fyny o ran na ddaeth neb i gystadlu yn Nghaergybi. Yr oedd y cyngherddau yn yr Eisteddíbd hon yn wir dda, yn cynwys digon o bobl, digon o amryw- iaeth, digon o fywyd, ac yn hynod o drefnus. Ond Eisteddfod Madog oedd y prif wyl am y flwyddyn, ac i hono y daeth aristocrats arianol y wlad; aristocrats llenyddol y wlad; aristocrats cerddorol y wlad, ac yn enwedig aristocrats newydd- iadtirol y wlacl.