Skip to main content

Y GERDDORFA dfgîrît^raum JPìmI ü wnmmúìt (fenîteiatftft a SariítottÌRítJt (Bgmwig. BAN OLYGIAETH DEWI ALAW A D. EMLYN EVANS. CYHOEDDEDIG AB Y CYNTAF O BOB MIS. Bhif 2. HYDEEF 1, 1872. Pris 2g. At ein Darllenwyr. ANERCHIAD AT Y BEIRDD. Yn unol a'n haddewid yn y rhifyn blaenorol, y ^ae genym yn awr air neu ddau at ein cyfeillion y Beirdd. Na feddylied neb ein bod yn myned i ddatguddio unrhyw lwybr newydd o farddoni ; am a wyddom nid oes yr un ffordd freiniol o barthed l** gelfyddyd hon, yn fwy na'r coeth-gelfyddydau e*"eill. Yn ddiameu gellir drwy lafur ac astudiaeth ttdiwyd, gyfoethogi y meddwl; ond am yr anian^ fywiol hono a elwir athrylith, " Rhodd Duwydyw."' Bydd ein sylwadau ni yn hytrach yn fwy mewn öurf i ymhelaethiad ar yr hyn a ddywedasom y **Us o'r blaen, sef fod " mawr angen am gyfrwng at ^asanaeth Barddoniaeih Gerddorol;" ac yn mhell- ach er dangos mor bell ag y gallwn beth feddylir gan gerddorion wrth y cyfryw farddoniaeth. Mae ein cyfansoddwyr wedi bod yn teimlo am 8*7*1 amser, anhawsder mawr ynglyn a chael Paíddoniaeth bwrpasol: nid am nad oes genym e*rdd a allant, ac a ydynt yn ysgrifenu; ond yr anhawsder arall o gael gafael ar eu cynyrchion yr, acleg y bydd eu hangen ar y cerddor. Ein bwriad a n gobaith ni yw, y byddwn yn alluog i wneyd coiofn farddonol y Gerddorfa o wir wasanaeth yn 7 cyteiriad hwn, nid yn unig trwy grynhoi darnau °, e*ddo Beirdd adnabyddus, ond pob darn teilwng ,.r Anatur a ofynwn, bydded yr awdwr y mwyaf «inod. Teilyngdod yn unig fydd y safon. -H.yd yn ddiweddar ychydig iawn o Farddoniaeth -^lynegol oedd yn ein meddiant. Mae ein beirdd goreu wedi bod yn ymdroi bron yn hollol gyda'r .^fy^ghanedd:" a thrwy hyny gynyrchu darnau ithaf celfydd yn ddiameu, ond nid y rhai a ddar- <y6m^' a Sonr> ac a fyddant byw yn nghalon y benedl tra y bodola fel cenedl. Y mae rhai eithr- iadau o gynghanedd " gaeth" ag y gellid eu galw ỳn gerddorol, er esiampl yr englyn tlws hwnw ag y mae y cerddor o Blaenanerch wedi ysgrifenu iddo un o'i ganigau mwyaf hapus :— " Y glws loer, fugeiles lân—0! mae'n hardd Yn min nos o'i chorlan; Dyfod a'i myrdd defaid mân I geisio 'i gwr mewn gwisg arian." Ond fel y dywedwyd eisioes, eithriadau ydynt y rhai hyn, ac y mae ein gobeithion ynglyn a'r Gerddorfa mewn cyfeiriad arall. Nis gallwn wneyd yn well na rhoddi yn y man hwn engraifft neu ddwy o'r Farddoniaeth a ateba ofynion y cyfansoddwr cerddorol. Brithir gweith- iau y diweddar Talhaiarn a'r cyfryw. Yn ein rhifyn blaenorol darfu i ni ei alw yn " Dad ein beirdd cerddorol," ac yr ydym yn lled sicr y cyduna ei feibion enwocaf a ni i roddi'r anrhydedd hwnw iddo. Beth all fod yn fwy hapus na'i ddeisyfìad at ei Weno— " A ddoi di fy nghariad i gysgod y llwyn. Hai! ho! Gweno fwyn gu, I glywed yr adar yn trydar ar dwyn. Hai! ho! Gweno fwyn gu. Daw'r fronfraith i gânu ar frigyn y pren, A'r hedydd i gwafro yn entrych y nen; A'r fwyalch i byncio i blesio fy Ngwen. Hai! ho! Gweno fwyn gu." Dyna i chwi farddoniaeth mewn ffordd o gân sereh. a gynyrchai gerddoriaeth bron o honi ei hun ! Mae gweithiau Ceiriog eto mor llawn o'r elfen gerddorol fel nas gwyddom yn iawn pa esiampl i ddewis; ond fel engraifft o'r tlws, a'r pur, a hyny heb fyned yn bregethwrol, mae y canlynol yn wir hapus :— " Daw meddyliau am y nefoedd, Gydag awel wan y nawn; Gyda llanw'r môr f e ddeuant, Gan lefaru 'n felus iawn.