Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYLCHGRAWN CENEDLAETHOL. -------------------------------------J^_________________________________________,_________________________ Cyf. IV.] EBRILL, 1856. [Rhif. 4. O'r Traethodydd. YMCHWILIADAU MEDDWL DYN I WEITHRHDOEDD DWYLAWDUW. Rhan III. Parhad o tuda'. 284 Cyf. 3. Yn nghyfraniad talentau. athrylith, a doniau naturiol i blant dynion, yn gystal ag yn ngweinyddiadau doniau ysbrydol ei ras, nid oes derbyn wyneb gyda Duw. Nid rhyw un genedl neu ddwy a anrhydeddwyd â dyniougallu- og. enwog, a defnyddiol i'r byd, yn y naill gangen a'r llall o wyddoriaeth a chelfyddyd ; ond y mac pob cenedl a gafodd ei bendithio â gwareiddiad ao ad-îysg wedi cynnyrchu ei glewion—gwŷr a ennilîasant anrhydedd anfarwol iddynt eu hunain a'u gwlad, trwy eu hymroddiad a'u llafur ar feusydd gwyb- odaeth, ac a osodasant y byd yn gyffredinol dan rwymedigaeth oesol i harchu eu henwau, edraygu eu galluoedd, a gwerthfawrogi y gwasanaeth a gyfiawn- asant iddo. Y raae hanesiaeth y wyddoreg dan sylw, yn gystal a phob gwyddor a chelfyddyd srall, yu engraifft o hyn. Cawsom achlysur i pry- bwyll wrih gychwyn fod llawer o ddynion enwog ynddi i'w cael ymysg lli- aws o'r cenedloedd dwyreiniol yu amserau boreuol y byd, er nad yw eu hen- wau yn adnabyddus i ni. O'r Groegiaid henafol y mae genym enwau Pythagoras, fíîpparchus, a Ptolomy, fel y rhai a ragorasant benaf'yn yr cfrydiaeth nefol; ac nis dyleni fyned b.eibio heb grybwyll fod ein cyndadau ein hunain, yn yr Ynys hon,yn efrydwyr glewion yn y tvyddoreg dan sylw, ac eraill hefyd ; a hyny oesau lawer cyn cred. Sonia haneswyr Groegaidd a Rbufeinaidd yn y modd mwyaf parchus am eu dysgeidiaeth a'ugwybodaeth. Gesyd DiogenesLaer- tius hwy yn gydraddol à Chalieaid Assyria, Magiaid Persia. a Brahmin- iaid India, mewn dysg ac athroniaeth. Sylwa Csesar a Mela bod ganddynt drefniannau ëang a goleucdig o seryddiaeth ao athroniaeth naturiol,—bod y trefniannau hyn, ynghyd a'u nodiadau ar gangenau eraill o ddysgeidaeth, mor helaethfawr fel y gofynai ugain mlynedd o lafur caled i'r ysgoleigion cyn y gallasent eu mcistroli, a thraddodi i'w cof y gwersi a'u cynnwysent. "Cynnalia y Derwyddon," medd Ccesar, "gynnadleddau yn fynych ar serydd- iacth, symudiadau a deddfau y cyrfiF wybrenol, ac addysgant eu dysgyblion yn y pethau hyn." Ceir yn ngwaith Taliesin ychydig o r addysgdderwydd- ol hòno. Yn un bryddest efe a ddywed,—"Mi a wn enwau y ser o'r Gog- ledd hyd Austec ;" neu fel y mae mewn cop'iad arall o'r gân, "Mi a wn rif y ser o'r gogledd i'r deau." Mewn canig arall—"Dyhuddiant Elphin," efe a heria feirdd ei oes i ymgyetadleu âg ef mewn olrheiniaw cyfriuion anian. Y mae ar gael hefyd Bryddest ar y Bydysawd o'i waith. Nid yw hòno yn cynnwys nemawr ddim heblaw rhestriad o enwau yr elfenau, y planedau^