Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYLCHGRATO CENEDLAETHOL Cm ITI.] AWST, 1855. [Rhif. 8. Y DIWEDDAR BARCH. GEORGE ROBERTS, EBENSBURG, A'I AMSERAU, iYR HWN A Fü FARW TACHWEDD 23, 1353, YN AGOS 85 MLWYDD OED. Gan y Parch. THOMAS EDWARDS, (.Jorwerth) Ci.ncinna.ti, Ohio. "Gwell ywj enw da nag enaint fjwerthfawr, adydd marwoìaetlt, nadyJd genedigaeth."—Solomon. Wrth ymaflyd yn eiû hysgrif-bin i ysgrifenu ara dad mor barchus a'r di- weddar enwog George Roberts, yr ydym yn teimlo ein calon yn cynesuato. Mae un o'i fath ef yn hollol deilwng i fod yn wrthddrych i'w ddarlunio mewn modd hanesiol, a barddonawl. Yr oedd yu eiddo y genedl, acnid un enwad crefyddol, a byddai ceisio caethiwo ewyllyswyr da rhinwedd a llen- yddiaeth yn orchwyl annheg. canys ei enw sydd uchel rnewn cnwogrwydd fel gwladgarwr, ac felgweinidog teilwng i Iesu Grist. Diaruau bod hawl gany (Jymry, ac yn enwedig yr enwadau creJyddol yn Ebensburg, ac yn America, i ddyrchu eu llais mewn cymeradwyaeth i un fu mor bleidgar i achosion teilwng, ac a ymddygodd mor guredig at bob achos da ; acni ddylaiein cen- edl er dim ymddwyn yn oerllyd a di-deimlad atgoífadwriaeth tadraoranwyl, a chyfaill mor gywir. Dywed Mr. "J. L. J.," am dano yn ly Cyfaill,"am Ionawr, 1S54, fel a ganlyn ; "Bu yn dad i'r achos crefyddol yn yr ardal hon, nid yn unig i'r eglwys oedd dan ei ofal, ondi eraoadau craillhefyd" Dy- ma frawddeg deilwng i gael ei cherfio mcwn mynor, a'i gwisgo âg aur, er cadw coffadwriaeth am dano i'r oesoedd a ddeuaut, a diamau genym y dar- llenid hi yn y mil blyneddoedd gyda pharch a llawenydd. Meddyliayr ys- grifenydd, mai y son blacna'f a glywsom am dano oedd gan y Parch. John Roberts, yn awr o Ruth^ra, wrth ymddyddan am America, dywedai: "Mae ewythr i mi yn byw yu Nhalaeth Pennsylvania. yr hwn sydd yn weiuidogac yn Farnydd." Ni a benderfynasom yr amser hyny, os cawsem y fraint o ddyfod i wlad Columbia, yr ymwelem àg ef os gallem gael ei gyfeillach, yr oeddem wedi gweled rhai Parchedigion Esgobaidd yn Nghymru, lled uchel eu ffroen, na chawsant yr un swydd wladol,yn enwedig cael yr anrhydedd o eistedd i far- nu materion pwysig yn y Llywodraeth, ac nid oeddem yn gwybod p» fath ddyn oedd Mr. G. Roberts. Oddeutu y flwyddyn 1837, ni a gawsom yr hyfrydwch oymweled âg Eb- ensburg, ac wedi myued i sefydliad y Cymry, teimlem awydd mawr am wel- ed y "Barnydd Roberts." Wrth nesau at ei drigfod dychymygem ei fod yn dra mawreddog. Erbyn myned yno gwnaeth Mr. Roberts ein cyfarch yn y modd siriolaf, ac mor ostyngedig ag oedd modd. Nid argraff yr orsedd oedd i'w gwelcd arno, ond delw Iesu Grist. Wrth gyfeillachu âg ef yr oedd- em yn benderfynol ein meddwl ei fod yn hollol addas i'w swyddau fel Barn-