Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYLCHGrRAWN CENEDLAETHOL. Cyf. III.] EBRILL, 1855. [Rhif. 4. O'r Traethodydd. AMRYWIEITHOEDD Y GYMRAEG. Nid oe3 un iàith yn y byd, mae yn debyg, yn cael ei siarad yn hollol yr un modd yn mhob ardal lle ei harferir; mae gwahaniaeth, mwy neu lai. rhwng pob talaeth, a rhwng pob cymydogaeth. Mae amrywiol helyntion a dyg- wyddiadau yn tueddu i achlysuro hyn. Lle y byddo y gwahaniaeth yn fawr, gellir tybied fod didoliad o bwys wedi cymeryd lle rhwng llwythau yr un genedl i randiroedd pell oddiwrth eu gilydd, a bod pob ymgyfathrach wedi peidio rhyngddyut, a hyny er ys llawer o oesoedd. Mae y ilwythau didol- edig hefyd yn agoreçl i ymgymysgu â chenedloedd eraill cymydogaethol, a thebygu mwy neu lai i'r rhai hyny yn ol fel y byddo grym eu dylanwad. Os cànt eu darostwng gan eu cymydogion, a'u dwyn dan yr un cyfrcithiau a llywodraeth, gwna hyny mewn amscr gyfnewidiadau mawrion : a thrafnid- iaeth a cbydgymysgu mewn priodasau a barant gynnydd ar y cyfryw gyf- newidiadau. Mae manteision dysgeidiaeth mewn un iaith rhagor y llall yn effeithio i beri fod dylanwad mwy gan y naill ar y llall, fel y mae cenedlam- ddifad o fanteision dysg a gwybodaeth yn dueddol i efelychu cymydogion a fyddont yn fwy cyfoethog o'r manteision hyny. A lle byddo dysgeidiaeth yn fîynu, mae yr iaifch yn yr hon ei cyfrenir yn cael ei choethi a'i diwyllio. Yn ol y gradd o wareiddiad y byddo unrhyw genedl wedi ei gyrhaeddyd, eu dull o fyw, anghenion, tueddiadau, ac arferion, y ceir yn gyffrcdin fod tlodi ac annillynder neu helaethrwydd a thlysni eu hiaith. Mal hyn. tybygem, y mae fod cynnifer o gangenieithoedd perthynol i bob gwlad a chenedl yn y byd ; yr un iaith yn y decbreuad wedi ymranu yn Uawer o wahanol gangen- au, yu gwahaniaethu rywfaint oddiwrth eu gilydd, ac efallai y fam-iaith wedi llwyr golli o ran y siarad o honi yn ei phurdeb. Felly y cawn fod yr hen Geltaeg, iaith trigolion cyntaf Ewrop wedi ym- ranu yn amrywieithoedd lawer, megys, y Gymraeg, y Gerniweg, y Lydaweg neu Vrczonec, y Wendaeg. y Wyddelaeg, a'r Gaeleg; y rhai ydynt oll yn dangos arwyddion amlwg eu bod wedi dcilliaw oddiwrth yr un fam-iaith ddechreuol; etto, drwy effeìthiau amgylchiadau cyffelyb ag a nodwyd, maent oll yn gwahaniaethu oddiwrth eu gilydd yn fawr. Ymddeugys fod y Gym- raeg a'r Lydawcg yn dwyn mwy o debygolrwydd i'w gilydd nag i'r Wydd- elaeg a'r Gaelcg, a bod llawer mwy o berthynas rhwng y ddwy olaf â'u gil- ydd nag sydd rhyngddynt â'r lleill. Barna hynafiaethwyr oddiwrtli hyn fod y üymry a"r Gwyddyl wedi ymddëolioesoeddlawer o flaen ymddidoliad y Cymry oddiwrth y Llydawiaid a'r llwythau eraill. Dywediry gallyCym- ry a'r Llydawiaid ddëall peth o siarad eu gilydd, ond nisgall Cymro aGwy- ddel gynnal ymddyddan â'u gilydd am un peth yn y byd* * Gwel Dr. Pughe's "Oulline ofthe Characterìüics ofthc Welsh:"—tudal. 17.