CYLCHGMWN CENEDLAETHOL. Cyf. III] CHWEFROR, 1855. " [Rhif. 2. O'r Traethodydd. CYSONDEB YR YSGRYTHYRAU. Ymhlith yr amrywiol resymau anwrthbrofedig ao anwrthbrofadwy a ddygir ymlaen gan bleidwyr y Bibl wrth sefyll dros ei wirionedd, ac o ganlyniad dros ei ysbrydoliaeth dwyfol, nid un o'r rhai lleiaf ywy ddadl a seilir ar gys- ondeb yr Ysgrythyrau. Cyfansoddwyd y llyfrau ysgrythyrol, nid gan un ysgrifenydd, ond gan fwy na deg ar hugain o awduron gwahanol—nid mewn un oes, ond yn yr ystod maìth o un cant ar bymtheg o flyneddau—nid gan ysgrifenwyr cyäelyb i'wgilydd o ran sefyllfa ac amgylchiad, ond yr oedd o honynt rai yn alluoer yn y byd, a rhai yn iselradd ; rhai yn dywysogion ac yn freninoedd, a rhai yn fugeiliaid ac yn bysgodwyr ; rhai yn ysgolëigion medrus, ac eraill heb eu dwyn i fyny mewn dysgeidiaeth ddynol—ac eto yn eu hysgrifeniadau, "yn un y maent yn cytuno." Er eu bod yn ysgrifenuar y pwnc pwysig o grefydd a moesoldeb, am yr hyn y mae yn y byd filoedd o dybiau gwahanol, nìd oes ganddynt hwy ond un gyfundrefn, un farn, ac un dystiolaeth. Yr un yw eu syniad am Dduw, am ddyn, ac am drefn iach- awdwriaeth, ac folly am bob mater a ddygir ganddynt ger bron; yr hyn sydd yn profi eu bod oll o dan ddylanwad "yr un a'r unrhyw Ysbryd." Ond uid at gysondeb mawr athrawiaethau y Bibl yr oeddein ni am gyf- eìrio ein darlienwyr y tro hwn, ond at gysondeb dygwyddiadol ei ffeithiau —eu cydgyfarfyddiad à'u gilydd ar lwybr nad oedd amcan ato—adroddiad hanesiol mewn un lle yn perffaith gyfredeg âgadroddiad hanesiol arall mewn llo arall, er mai peth hollol ddifwriad gan yr ysgrifenwyr ary'pryd oeddeu gosod allan yn gyson â'u gilydd. Galwasom sylw at hyn, mewn rhan, yn y Llyfr Cyntaf o'r "Traethodydd, yn ein herthygl ar "HoraPaulinai" Paley, lle y dangosir cydgordiad manwl y cyfeiriadau yn epistolau Paul at leoedd, personau, a dygwyddíadau, â'r hanes penodol a roddir gan Luo ynllyfr Act- au yr Apostolion. Mae y Parch. Dr. Graves, a'r Parch. J. J. Blunt, wedi lloffa yn rhagorol i'r un perwyl ar feusydd yr Hen Destament: ac yr ydym yn cymeryd ein cenad i gyflêu ychydig o ffrwyth eu llafur o flaen ein cydgen- edl, yn ein llwybr ein hunain, er mwyn arddangos geirwiredd yr yBgrifenwyr sanctaidd trwy y dull mwyaf dysyml a naturiol. I. Yn y bedwaredd bennod ar hugain o lyfr Genesìs, cawn yr hanes am Abraham yn anfon Eleazar,ei was ffyddlawû,i ymofyn gwraig i Isaac o îysg perthynasauy patriarch, y rhai oeddyn para i fyw yn Haran. Syrthiodd y dewisiad ar Rebeccah, "merch i Bcthuel, fab Milcah, yr hwn a ymddûg hì i Nachor ;" ao yr oedd Nachor yn frawd i Abraham. Fel hyn, ni a wel- wn mai wyres i frawd Abraham oedd i fod yn wraig i fal> Abraham. Ceir fod un o'r drydedd genedlaeth o du Nachor o oedran cyfaddas i un o'r ail genedlaeth o du Abraham. Yn awr> y mae hyn yn hollol gyson à nùith a gyflwynir i ni mewu Ho arall, er na chyffyrddir à hyny yn y bennod hon,