Y CYLCHGRAWN CENEDLAETHOL. Cyp. I.] RHAGFYR, 1853. [Rhif. 6. Y CELFYDDYDAU A'ít GWYBODAETHAU. (OW " Dysgedydd.") Beth yw gwybodaeta (science) ? Dealltwriaeth hysbys o ryw beth tyned- ig oddiwrth egwyddorion hnnan amlwg. Beth yw celfyddyd (art)? Celfyddyd yw y íìbrdd i wneud peth yn iawn, yn ebrwydd, ac yn hardd, yr hyn na ddysgir gan natur na greddf. Pa fodd y dosberthir y celfyddydau 1 I rydd a chrefftwrol: y celfyddydau rhydd ydynt athroniaeth, rheitheg, gra- madeg, rhifyddiaeth, seryddiaeth, paent- yddiaeth, peroriacth, a cheríiadaeth. Paham y gelwir hwynt felly'? Oblegid na chaniatai yr henafiaid iddynt gael eu hastudio ond gan y Liberì neu y personau rhydd. Pa sawl gwybodaeth (science) sydd 1 Wyth o brif rai: sef, Duwinyddiaeth; Athroniaeth ; Deddfwybodaeth; Cyffyr- iaeth; Rheitheg; Gramadeg; Prydydd- iaeth, a Rhifyddiaeth. Beth yw Duwinyddiaeth'? Y wybodaeth sydd yn synied natur Duw a bodau dwyfol; y mae y gair yn cael ei gymeryd o ddau air Groeg, a gyfieithir Duw, a gair, neu draethawd, hyny ydyw, gair Duw, neu draethiad o berthynas i Dduw. Pa fodd y gellir profi bodolaeth Duw 1 Y mae pob peth sydd yn angeurheidiol ei wybod am Dduw yn amlwg yn y gread- igaeth. "Ynefoedd sydd yn datgan go- goniant Duw." Y mae yr haul, y lloer, a'r ser yn dangos mai ei waith ef ydynt. Nid oes un genedl lle ni chlybuwyd ei lais, oblegid y mae wedi mvned drwy yr holl fyd. I bwy y rhoddwyd y titl o dduwinydd gyntaf? I Ioan, yr hwn a wahaniaethid oddi wrth y tri efengylydd eraill drwy yr enw hwn, oblegid na ysgrifenasant hwy ond hanes bywyd Iesu Grist yu unig; ond y mae ysgrifeniadau Ioan yn myncd yn fwy i natur a phriodoliaethau y Bod dwyfol. Beth yw Athroniaeth 1 Astudiaeth natur a moesoldeb: y mae y gair yn cael ei arfer yn fynych i ddynodi y gwybodaethau, gwrthddrych pa rai yw y bydysawd; y mae gwreiddyn y gair athr- oniaeth, neu phüosophy, wedi ei gymeryd o ddau air Groeg, yn arwyddo cariad a doeth- intb, neu wybodaeth; ac ystyr y gair ar y cyntaf oedd cariad at ddoethineb neu wy- bodaeth. Beth yw gwrthddrychau penaf athron- iaeth'? Duw; gwaith naturadyn.* Dosberthir athroniaeth i reitheg, moesoldeb, anian- ddysg. ac arddansoddiaeth. Beth yw Rheitheg 1 Y gelfyddyd o feddwl a rhesymu yn deg yn ein hymofyniad am y gwirionedd, ac yn ei hysbysu i eraill. Gwaith proffesedig rheitheg yw egiuro natur y meddwl dynol, a'r ffordd briodol o arwedd ei amryw allu- oedd, mewn trefn i gyrhaedd gwirionedd a gwybodaeth. Mewn pa beth y mae y gelfyddyd hon yn gynwysedig'? Yn yr adolygiad a wneir gan ddynion ar bedwar prif allu, neu gyneddf, eu medd- «vl, sef, amgyffred, barn, rhesicm, a dosbarth- iad. Beth a cnillir drwy y wybodaeth hon 1 Y mae yn dangos yn amlwg y cyfeiliorn- adau a'r camgymeriadau hyny i ba rai yr ydym yn chwanog i syrthio trwy ddiofal- wch; ac y mae yn ein dysgu i wahaniaethu rhwng gwirionedd, a'r hyn na fedd ond ym- ddangosiad o hono; y mae yn dangos hefyd yn mha beth y mae sicrwydd ac ar- ddangosiad i'w gyrhaedd. a pha bryd y rhaid i ni ymfoddloni ar debygolrwydd. Beth yw amgyffred ì Amgyffred, neu ddirnadaeth, yw y sylw a rydd y meddwl i ai'gramadau a wneir arno; a chanlyniad o amgyffred ydyw ym- syniad a meddylddrychau (idcas). Fel hyn y gallwn gynwys am getíyl, a choed- en; am symudiad, amser, a lle, &c.; a bydd i'r cyfryw amgyffredion gynyrchu ymsyniadau a meddylddrychau cyd-dar- awiadol. Beth y w barn 1 Barn yw gweithrediad y meddwl drwy yr hwn yr ydym yn cysylltu dau neu ych- waneg o feddylddrychau yn nghyd, drwy gadarnhad neu nacâd. Fel hyn.—"Y mae y goeden yma yn uchel;" trosglwydda yr ymadrodd hwn ddau feddylddrych, un am goeden, a'r 11*11 am ei huchder; ac y mae y frawddeg yn gryno neu yn gadarn. Eto:—"Nid ydyw y tŷ acw yn fawr;" trosglwyddir drwy yr ymadrodd hwn ddau