Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ir %txeàò dtmòal Rhif 18. RHAGFYR 1, 1882. Otf. I. TAIR GOLYGFA YN BEADON ÜQI"AUE, CALCÜrrA. Gan y Parch. T. R. Edwards, Cenadwr. ESGYNFA SEINDORF. Lle yn nghanol dinas Calcutta ydyw Beadon Square, ac oblegyd ei safle ganolog, ei brydferthwch, a'i iachusrwydd, y mae yn fan cyrchfa pobloedd lawer yn mrig yr hwyr yn nhymor poeth yr haf. Arferir yr esgynfa uchod gan y brodorion yn yr haf yn hwyr y dydd i eistedd lawr, gan dreulio eu horiau hamddenol i fwynhau eu hunain, gan yfed o awelon iachus ac adfywiol yr hwyr wedi poethder eithafol y dydd.