Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JCWRS Y BYD. fe Rhif 7. GORPHENAF, 1903. Cyf. XII Dylanwad Puritaniaeth ar Wleidyddiaeth a Chrefydd Prydain Fawr a'r Unol Daleithau. Gan y Pabch D. Lewis, A.T.S., Rhyj, Ysgrif VIII.—" Egwyddorion a gwaith y Puritaniaid." IV.—Credai y Puritaniaid yn ddiysgog nad oedd Cristionogaeth ond cgfitn- drefn grefyddol hollol ddiwerth a diddefnydd heb iddi gael ei chario allan mewn ymarferiad yn ngwahanol gylchoedd bywyd. YMGrAIS fawr bywyd y Puritan oedd peri fod ewyllys Duw yn eacl ei gwneuthur ar y ddaear, niegis y mae yn y nef,—peri fod yr ewyllya ddwyfol yn cael ei gwneuthur, a'i chario allan yri ymarferoi yn holl g) ieh- oedd cyfEredin bywyd dyn, cymdeithasol, gwleidyddol, a chrefyddol. Pan adroddai efe Weddi yr Arglwydd, teimlai mai nid rhyw beth i'w dysgu ar gof un unig ydoedd, ond ei bod yn cyfansoddi Siarter fawr ei fywyd beun- yddiol ger bron y byd. Credai y Puritan a'i holl enaid eiiiau Paul: "Eithr duwioldeb syd'd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o'r bywyd y sydd yr awr hon, ac o'r hwn a fj'dd." Dygai ei grefydd gydag ef 1 bob man, a cheisiai gyîlawni pob peth gyda'r amcan, nid i foddloni dynion, ond yn hytrach i foddloni Duw. Md ymofynai un amser pa beth oedd fwyaf derbyniol yn ngolwg y byd, ond yn hytrach, beth oedd cydwybod, Beibl a Duw yn ei gymeradwyo. Credai os na allasai crefydd wneud gwell gweith- iwr, gwell dinesydd, gwell cymydog, gwell aelod o gymdeithas, a gwell deiliad o'r wladwriaeth 0 hono ef, ei bod yn hollol ddiwerth a diddefnydd. Dywed Carlyle mai doeth yw credu fod y Puritaniaid yn ddieithriad yn meddwl yr hyn a ddywedent, a cheisio eael allan yr hyn a gredent ac a lefo