Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'á'CWRS Y DYD. î Rhif 6. MEHEFIN, 1903. Cyf. XIII. Dylanwad Puritaniaeth ar Wleidyddiaeth a Chrefydd Prydain Fawr a'r Unol Dalaethau. Gan Y Parch D. Lewis, A.T.S., Rhyl. Ysgrif VII.—Egwyddorion a Gwaith y Puritaniaid. III. Credai y Puritaniaid yn ddiysgog nafeddai unrhyw frenhin, ond lesu, hawl i awdurdod unoenaethol; ac oherwydd hyny, ymdrechasant yn iew a selog er sicrhau rhyddid gwîadol. CYN myned yn mhellach, goddefer i ni osod gerbron y darllenydd fraslun byr a chywir o gymeriad y brenhin a eisteddai ar orsedd Prydain Fawr y dwthwn hwnw. Nid oes anghen i ni hysbysu dar- lleawyr Cwrs y Byd mai Siarl I., oedd pen coronog y deyrnas hon adeg y chw;yldroad Puritanaid. Yn awr, gadawer i ni weled pa fath gymeriad ydoedd Siarl fel dyn a llywodraethwr. Coleddwyd y s)^niad gwrthun, afresymol yn gyffredinol gan frenhin- olwyr y deyrnas hon ddwy ganrif a haner yri ol, nad oedd y brenhin yn gyfrifol am ei ymddygiadau i neb na dim ond i Dduwyn unig. Llawer a ddadleuwyd y dyddiau gynt ynghylch yr hyn a elwir yn " hawl ddwyfol y brenhìn" Gjlygai hyny, y pryd hwnw, fod gan 'ddyn, ara ei fod yn frenhin, awdurdod i wneud fel y mynai a'i ddeiliaid. Yr oedd uwchlaw deddf, ac nid oedd gan neb hawl i'w alw i gyfrif am ei weithredoe<|d ond Duw yn unig. Ac fel rheol gwnai y brehin o'r goreu