Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. CYF. XI. MAI, 1901. Rhif 5. LLYGÄD FFYDD A LLYGAD CELF. ID wyf yn sicr fy mod yn deall paham y dywedir cymaint wrth Dduw a dynion am y " Canrif» Newydd," canys gyda Duw " mae un dydd fel mil o flynyddoedd, a mil o fiynyddoedd fel un dydd." Nid yw trefn natur yn talu mwy o sylw i ddechreu canrif nag i ddechreuad oes gwybedwi. Sonir llawer am y cynydd a wnaed yn y wlad hon yn ystod y XIX. Canrif fel gwelliantau wedi eu cael yn nheyinasiad Victoria, ac awgrymir mai drwyddi hi y cafwyd hwynt; ond atolwg, yn mha weìliantau a darganfyddiadau y bu ganddi hi law ? Hi a roddodd gefnogaeth i adeiladu nifer o ysbytdai a nifer o sefydliidau addysgol, ond hi rocldodd fwy o gefnogaeth i symudiadau i wneud mwy na llond yr yspytdai hyny o gìeifion, ac i wneud mwy o blant amdditaid na llonaid yr ysgoldai. Ond prin y byddwn yn galìu edrych ar y clafdai a'r eluseudai yma yn fendithion neu yn welliantau yn ngwir ystyr y gair. Dywedir am ryw ymherawdwr dorodd ymaith goes' un o'i swyddogion, er ei gadw rhag myned yn mhell o'i olwg, a rhoddodd iddo goes bren. Rhodd- odd y Frenines ei dylanwad i dori ymaith goesau a difa nerth miloedd o'i phobl, ac nid yw y clafdai hyn amgen coesau prenau. Bendith yn ngwir ystyr y gair fuasai iddi roddi ei dylanwad i wella amgylchiadau ybobl' fel y byddent yn alluog i gael meddygun i weini arnynt yn eu tai eu hunain. a'u galluogi i gael tamaid yn eu henaint, yn lle trefnu iddynt garcharau o " workhouses," a gwell fuasai eu bod yn alluog i ddarparu ar gyfer addysgu eu plant eu hunain, yn lle gwneud meu- dwyaid o honyht, a gwneud iddynt deimlo iddynt ddechreu byw yn gardotwyr. Faint o'i dylanwad roddodd hi o blaid heddwch, faint gefnogodd hi ar gydraddoldeb, faint wnaeth hi at wella amgylchiadau y tlodìon, faint wnaeth hi i gael tai i'r gweithwyr ? Pan roddir holiadau o'r natur hyn i'r bobl sydd yn addoli " Royal- ty," atebir ni mai " Dynes oedd hi, a beth allai dynes wneud ?" Y mae'r atebiad yn ddigon teg, ond paham y dywed pobl ar yr un pryd ein bod wedi cael bendithion fyrdd diwyddi hi ? Pan gyfeirir at ryfeloedd ei hoes, dywedir nad oedd ganddi ddim i wneud a'r pwnc o gwbl; ond a ddangosodd hi ryw dro osgo yn nghyfeiriad heddwch ? A awgrymodd hi wrth ryw swyddog y byddai yn well ganddi heddwch na rhyfel ? A wnaeth hi gymaint a rhyw un o benau coronog ereig Ewrop yn ffafr Cyfarfod Heddwch yr Hague ? Pe buasai hi yn ol-