Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

C.WRS Y BYD. Ehif 9. MEDÍ, 1900. Cyf. X. "TOM PAINE AC IAWNDERAU DYN," (Rights of Man). Gan y Parch. D. Lewis, A.T.S., ìîhyl. Ysgrif IV. «ÊppR mwyn cael syniad cywir a chlir am yr egwyddorion banfodol *JÉfi hyny sydd yn cyfansoddi gwir iawnderau dyn, mae yn ofynol gwahaniaethu rhwng y pethau ydynt effeithiau llywodraeth a'r pethau nad ydynt. —— Er mwyn cyrhaedd yr amcan hwn, gwell fyddai i ni, cyn myned yn mhellach, gymeryd cipdrem ar ddadblygiadau Cymdeithas a Gwareidd- iad, fel pethau hollol wahaniaethol oddiwrth yr hyn a elwir yn " Uyw- odraethau." Trwy ddechreu gyda'r ymchwiliad hwn, bydd yn haws i ni briodoli Effeithiau i'w Haclwsion priodol, a dadansoddi y cruglwyth cyfeiliornadau a goleddir mor gyffredin. I. Dadblygiad Cymdeithas a Gwareiddiad. Mae y rhan fwyaf o'r trefniant, neu y rheoleidd-dra a welir yn mhlith dynion yn bresenol, i'w briodoli, nid i ddylanwad y gwahanol lywod- raethau gwladol, sydd wedi ac yn bod, ar y ddaear, ond yn hytrach i'r egwyddorion hyny sydd yn ìiywodraethu cymdeithas, neu ynte, i reddf, neu ansawdd naturiol y meddwl dynol. Mae Trefn yn hynach nag un- rhyw ffurf o lywodraeth wladol, a gall hanfodi yn annibynol arnynt ac hebddynt. Mae dyn wedi cael ei greu yn fod cymdeithasol, ac y mae wedi cael ei gynysgaeddu â galluoedd arbenig i gymdeithasu. Mae yn anmhosibl iddo byth fod yn ddyn cyflawn yn ystyr oreu y gair, ond fel y mae yn aelod o gymdeithas. Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha, ac y sycheda ei enaid yntau am gymdeithas. Ar wahan oddiwrth ei gyd-ddynion, anmhosibl yw iddo ef fod yn ddyn eyflawn, dedwydd, a defnyddiol. Mae anghenion naturiol dyn yn llawer lluosocach na'i allu i'w cyflenwi; ac o herwydd hyny, y mae yn rhaid iddo wrth gynorthwy eraill. Mae ei ogwydd at gymdeithasiaeth mor