Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Ehif 7. GOEPHENAF, 1900. Cyf. X. "TOM PAINE AC IAWNDERAU DYN," (Rights of Man.) Gan y Parch. D. Lewis, A.T.S. YsGEIF III.—PAEHAD. ^S^ENGYS Paine yn y llyfr galluog hwn nad oedd yr hyn a ystyrid *dg$ yn chwyldroadau yn yr oesau blaenorol yn ddira amgen na chyf- newidiau mewn personau ac amgylchiadau. Nid oedd yr un wedi cario unrhyw ddylanwad tu allan i'r cylchoedd neillduol hyny y cymerasant le ynddynt. Felly yr oedd chwyldroad 1688. Diorseddwyd Iago II, a gosodwyd Gwilym, Tywysog Orange, yn ei le. Wrth gwrs, cafwyd nifer o freintiau rhagorol drwy y chwyldroad bendithiol hwnw, ond ni chyfnewidiwyd nemawr ddim ar gyfansoddiad y Wladwriaeth. Nid felìy y chwyldroadau a gymerasant le yn America a Pfrainc. Effeithiodd y cyfnewidiadau mawrion hyny yn rymus ar yr holl fyd gwareiddiedig, drwy agoryd llygaid deiliaid pob gwlad i weled beth oecìd eu hawliau a'u rhagorfremtiau fel y cyfryw. Pa beth bynag a all fod ein syniadau am y chwyldroad Ffreugaidd, a pha mor adgas bynag yn ein golwg yw gweithrediadau nifer o chwyldroadwyr eithafol y cyfnod ystormus hwnw, nis gall unrhyw hanesydd teg a diragfarn lai na chydnabodfod y chwyldroad mawr Ffrengaidd wedi gwasanaethu fel math o Ioan Fed- yddiwr—rhagredegydd i'r diwygiadau pwysig a grymus a gafwyd yn ol llaw yn y wlad hon, ac mewn gwledydd eraill. Plant naturiol y chwyl- droad hwnw oedd y deddfau bendithiol hyny—Ehyddhad y Caethion, Ehyddfreiniad y Pabyddion, Estyniad yr Etholfraint, Bara Ehad, Di- ddymiad y Dreth Egíwys, Agoriad y Prifysgolion i Blant Ymneillduwyr, Deddf Addysg, &c, &c. Nid ydym heb gofio i lawer o waed gwirion gael ei dywallt yn hollol ddiangen gan y diwygwyr yn Ffrainc, ond attolwg, onid felly y digwydd bob amser pan y byddo cyfnewidiadau mawrion a chyrhaedd-bell yn cael eu dwyn oddiamgylch. Onid felly y bu yn America pan aethpwyd i ddiddymu Caethwasiaeth ? Onid felly y digwyddodd yn yr Eidal, pan y llwyddodd y gwron Garibaldi i rydd- bau ei wlad o gaethiwed a chrafangau y Pab ? Nid teg yw condemnio unrhyw symudiad gwladwriaethol oherwydd drwg ymddygiadau nifer o'i bleidwyr. Ai teg yw condemnio y Grefydd Gristionogol oherwydd y ffaith alaethus fod Uawer o'r rhai a gyfenwant eu hunain yn Gristion- ogion, wedi bod, ac yn bod, yn erlidwyr creulawn, anynol, a gwaedlyd?