Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Ehif 6. MEHEFIN, 1898. Cyf VIII. JOHN LOCKE, A'i ddylanwad ar Wleidyddiaeth Ewrop. Gan y Paech. D. Lewis, A.T.S., Ehyl. Sylwn— I.—Ar Ddullweddau Llywodraeth. Yr ydym wedi dangos yn barod pan fydd nifer o bobl yn uno yn gor- phoraeth wladol fod gan y mwyafrif hawl ac awdurdod i lunio cyfreith- iau a rheolau fel y byddo yr angen er dadblygiad y gorphoraeth wladol hono yn gyffredinol. Gan y mwyafrif hefyd y mae awdurdod i benodi swyddogion cymwys i weinyddu y cyfreithiau hyny, yr hyn ar unwaith sydd yn profì mai gwerinol hoìlol o angenrheidrwydd ddylai pob llywodraeth fod o ran ei ffurf. Pan fyddo y gallu a'r awdurdod yn nwylaw yr ychydig neu y lleiafrif i lunio cyfreithiau a phenodì swyddogion, yna cydbendawd (oligarchy) y gelwir y ffurf-lywodraeth hono. Pan fyddo y gallu a'r awdurdod yn nwylaw un person yn hollol, yna unbenaeth (monarchy) yw y ffurf-lywodraeth. Ond yr ydym wedi dangos yn eglur nad oes awdurdod yn ol rheswm na natur ond yn unig yn llais y mioyafrif. Mae deddfau yn bethau annhraethol bwysicach na phersonau. Mae pob gwir gymdeithas yn cael ei llywodraethu nid gan ei swyddogion ond gan ei deddfau. Nid yw y swyddogion mwyaf urddasol ond cyfryngau trwy y rhai y mae y deddfau yn cael eu gweithio allan yn ymarferol er budd cyffredinol y cyfryw gymdeithas ; ac y mae y swyddog uchaf yn gystal a'r aelod distadlaf yn ddarostyngedig i'r cyfryw ddeddfau ; unwaith yr ä y swyddogion uwchlaw y deddfau derfydd am amcan y gymdeithas hono. Nis gall cymdeithas fodoli ond cyhyd ag y parhao yn ddarostyngedig i ddeddfau neu reolau arbenig ; unwaith y cymer ei hudo i ymostwng i awdurdod person neu bersonau hi a beidia bod yn gymdeithas yn y fan.