Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Rhif 4. EBRILL, 1898. Cyf VIII. DAMEG Y GRONFA DDWFR. A\VDWR Y DüAMEG YW EdWAED BELLAMY ; CYFIEITHWYD HI i'r Gymraeg gan Gyfaill o Pittsburg. [Parhad.] ^2£ R oedd yno hefyd rai proffwydi i Dduw yn cymeryd plaid y bobl, VyP ac ni phroffwydent i'r Philistiaid, ond hwy a lefent yn wastad yn eu herbyn. Yna pan welodd y Philistiaid fod y bobl, ar waethaf y dewiniaid a'r gau broffwydi, yn parhau i rwgnach, hwy a ddaethant allan eu hunain atynt hwy, ac wedi gwlychu eu bysedd yn y dwfr oedd yn llifo o'r ceíwra, hwy a ysgydwasant y dyferion ar y bobl oedd yn sefyll wrth y tanh, a dywedasant wrthynt eu bod wrth wneud hyny yn " rhoddi iddynt elusen " ; ac yr oeddynt yn edrych yn chwerw iawn. Yna pan welodd y Philistiaid nad oedd geiriau y dewiniaid, y gau broffwydi, nac elusen ychwaith yn tycio dim i lonyddu y bobl ond yn hytracíi yn eu gwneud yn fwy cynhyrfus, ac yn nesu at y tank fel pe am gymeryd meddiant o hono drwy drais, hwy a anfonasant nifer o'u gweision yn ddirgel i blith y bobl i chwilio am wŷr grymus a medrus mewn rhyfel, y rhai, wedi cael hyd i nifer lled dda a'u cymerasant o'r neilldu, a llefarasant wrthynt yn gyfrwys, gan ddywedyd, " Paham na thefiwch eich coelbren gyda'r Philistiaid ? Os ymunwch â hwy, ac os cedwch y bobl hyn rhag tori i'r tanh, cewch chwi a'ch gwragedd a'ch plant gyflawnder o ddwfr fel na byddoch feirw." A'r gwýr cryfion a medrus mewn rhyfel a wrandawsant a chymerasant eu perswadio, canys angerddol oedd eu syched, a hwy a aethant i fewn at y Philistiaid ac ymrwymasant eu gwasanaethu. Yna rhoddwyd iddynt gleddyfau a ffyn, a hwy a gerddasant o gwmpas i amddiffyn y Philistiaid, a gwas- garasant y bobì oedd yn ymdyru o gylch y celwrn a'r dwfr. Ar ol llawer o ddyddiau gwelwyd fod y dwfr yn isel yn y celwrn, canys yr oedd y Philistiaid wedi gwneud ffrydiau a physgodlynoedd, ac