Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWRS Y BYD. Ehif 3. MAWETH, 1898. Cyf VIII. DAMEG Y GRONFA DDWFR. A\VDWE Y ÜDAMEG YW EdWAED BeLDAMY ; CYFIEITHWYD HI i'B Gymeaeg gan Gyfaill o Pittsbueg. Iddo yn awr. chwi ffyliaid, ni bia'r dwfr, Ni chewch ddafh heb dalu am dano i ni : Dewch 'nawr a'ch ceiniogau, neu d—1 ffwrdd a chwi, Na, ni chewch ddafn, waith "busnes yw busnes o hyd." ^^E oedd pobl rhyw wlad unwaith mewn dygn angen dwfr, ac nid Vip oedd yno neb o fore hyd hwyr yn gwneud dim ond chwilio am ddwfr; a bu llawer farw o syched. Ond yr oedd yn y wlad hono rai pobl mwy hirben na'u gilydd—y rhai a lwyddasant i wneud cronfa o ddwfr lle yr oedd erailì wedi methu cael dim; gelwid y bobl hyny yn iaith y wlad hono, cyfalafwyr (capitalists). A phobl y wlad a ddaethant nn diwrnod at y cyfalafwyr i grefu arnynt adael iddynt gael ychydig o'r dwfr oedd ganddynt fel y gallent dori eu syched tost, ond y cyfalafwyr a'u hatebasant : Ydych chwi yn ddigon ffol i dybio yr awn i ranu â chwi y dwfr ydym wedi ystorio? Pe gwnaem, byddem fel chwithau yn raarw o syched ; ond hyn a wnawn â chwi, byddwch chwi yn weision i ni, a ni a roddwn i chwi ddigon o ddwfr; a'r bobl yn unfryd a atebasant, rhoddwch i ni ddwfr a byddwn ni a'n plant yn weision i chwi. Yr oedd y cyfalafwyr yn bohl gall yn eu cenhedlaeth; a hwy a drefn- asant y bobl—y rhai oeddynt weision iddynt—yn fmteioedd, ac ar bob mintai yr oedd cadben, a gosodasant rai o honynt wrth y ffynonau, rhai i gludo dwfr a rhai i chwìlio am ffynonau newyddion, fel y dygid holl ddyfroedd y wlad at eu gilydd i'r un lle, ac yno y gwnawd un gronfa fawr, yr hon a elwid Marchnad, am mai yno yr oedd y bobl druain yn cael eu cyfran o ddwfr. A't cyfalafwyr a ddywedasant wrth y bobl, " Am bob ystenaìd o