Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Ehif 1. IONAWB, 1898. Cyf VIII. JOHN LOCKE, A'i ddylanwad ar Wleidyddiaeth Ewrop. Gan y Parch. D. Lewis, A.T.S., Ehyl. Ysgrif VII.—Seiliau Gwir Awdurdod. ^MlrAE awdnrdod yn golygu " hawl i weithredu wedi ei seilio naill a'i Saf/jT ar natur, perchenogaeth, noddiad, cytundeb, neu fuddugoliaeth." Mae awdurdod Duw yn seiliedig ar ogyfuwchder ei natur, jmghyd a'î hawl wreiddiol yn mhob peth fel Crewr y bydysawd. Y mae hon yn wreiddioì ac annherfynol. Mae awdurdod rhieni dros eu plant wedi ei seilio ar natur, ond nid yw yn wreiddiol nac yn annherfynol. Mae awdurdod y perchenog dros ei eiddo wedi ei seilio ar hawl, neu feddiant. Mae awdurdod gwr dros ei wraig, a brenhin dros ei ddeiliaid wedi ei seilio ar gytundeh gwirfoddol o'r ddeutu. Creda rhai pobl fod buddugoliaeth hefyd yn rhoddi awdurdod i frenin ar ei ddeiliaid. Nid ydym ni yn credu hyn, ond gan nad yw y cwestiwn hwn yn dyfod o fewn cylch ein hymresymiad yn bresenol, nid awn i dreulio amser i ymyryd âg ef. Nid oes awdurdod wreiddiol hollol ac annherfynol ond yr un ddwyfol yn unig. Mae pob awdurdod arall yn derfynol, a dylai fod er lles, ac nid er dinystr a gorthrymder. Mae gwahaniaeth dirfawr, mewn ystyr briodof, rhwng gallu ac awdurdod. Modd i weithredu yw gallu; ond hawl i weithredu yw awdurdod. Mae yn bosibl meddu ar allu heb feddu ar awdurdod, ac awdurdod heb allu. Nid oes dim yn fwy peryglus na'r syniad cyfeiliornus fod gallu yn rhoddi hawl, neu awdur- dod. I'r syniad gwrthun a direswm hwn y mae y rhan fwyaf o erledig- aethau gwìadol ac eglwysig yr oesoedd i'w tadogi. Y syniad hwn wnaeth i eglwys Tywysog "Tangnefedd lychwino ei gwisgoedd yn ngwaed y dynion goreu fu yn y byd yma erioed. Mae gan yr eglwys, drwy ei chysylltiad a'r wladwriaeth, allu i ddeddfu, i erlid, i garcharu, ac i ladd, ond nid oes ganddi awdurdod i wneud dim o'r pethau hyn. Mae gan Ymerawdwr Ewssia allu i ladd, ac i gadw yn fyw yr hwn & ewyllysio, ond er hyny nid oes ganddo awdurdod i wneud dim o'r fath. Mae gallu ac awdurdod yn ddau beth hollol wahanol. Colli golwg. ar y