CWRS Y BYD. Ehif 10. HYDBEF, 1897. Cyp VII. JOHN LOCKE, A'i Ddylanwad ae Wleidyddiaeth Eweop. Gan y Paech. D. Lewis, A.T.S., Ehyl. Ysgeif V.—Tadolaeth fel Ffynonell Unbenaeth. tE mwyn trefn ac eglurder, gwell i ni ganlyn Locke yn ei ymresym- iadau cedyrn a didroi yn ol yn erbyn twyll-ymresymiad Eobert Filmer. Gosodwn yma rai o osodiadau Filmer ynghyd a'r ffordd a gymer Loeke i'w dymchwelyd. Gosodiad I.—" Tadolaeth a pherchenogaeth (neu liawl bcrsonol tad i lywodraethu) ydynt y ffynonellau o'r rhai y mac awdurdod unbenaethol brenhinoedd yn tarddu.'" Dywed Filmer: " Y ffaith fod plantyn llwyr-ddarostyngedig i awdur- dod eu rhieni yw y ffynonell fawr o'r hon y deillia awdurdod unbenaethol brenhinoedd." Yn mhellach yn mlaen dywed : " Tadolaeth yw tarddf ell pob gallu llywodraethol; ac nid oes i awdurdod o unrhyw ffur- darddell arall yn y byd." Yna dywed : " Mae sylfeini ac egwyddorion pob awdurdod yn dybynu ar bercìienogaeth wreiddiol" Ac ychwanega : " Mae hawl tad i lywodraethu ei deulu yn rhoddiad uniongyrchol Duw, pan gyhoeddodd y felldith ar Efa." Yn y fan hon, dengys Locke anghysondeb ymresymiad Filmer : " Os mai yn rhinwedd ei greadigaeth yr oedd tarddell awdurdod unbenaethol Adda, pa fodd ynte mai wedi iddo bechu y rhoddwyd iddo yr hawl hon ? Os oedd gan Adda awdurdod unbenaethol dros Efa, î*haid o ganlyniad fod ei tharddell yn rhywle arall amgenach nag yn ei dadol- oeth, oblegid gwraig ac nid plentyn iddo oedd Efa. Dywed Filmer : " Fod arglwyddiaeth bersonol Adda ar ei blant a'i eiddo wedi cael ei throsglwyddo i la%r o oes i oes yn ol deddf treftad-