Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Ehif 1. IONAWR, 1897. Cyf VII. YN EISIAU YN DDIOED ! ! YSGOTYN, CYMRO, SAIS NEU WYDDEL. CYFLOG DA A GWAITH CYSON. ARWEINYDD I'R BLAID RYDDFRYDIG. «§y£R oedd yn y Senedd, mae'n wir, drwy y blynyddoedd, nifer o bobl Vlp yn gaîw eu hunain yn " Blaid Ryddfrydig," byddent yn dyweud geiriau teg wrth y bobl ac yn addaw pethau mawrion iddynt amser etholiad, ond gynted y deuent i awdurdod, gwelid nad oedd " y Werin " yn eu clorian amgen mân us mewn cymhariaeth i'r bendefigaeth. Yr ydym yn cofio yn dda y modd y gwerthodd y " Blaid Ryddfrydig " y bobl i ddwylaw y pendefigion pan oedd ganddi fwyafrif mwy yn y Senedd nag a fu gan odid un blaid—un weinyddiaeth—yn yr oes hon. Ac nid ydvm eto wedi gollwng dros gof droion budron, dau-wynebog a cham-arweiniol y " Blaid Ryddfrydig," ac areithiau dau-eiriog yr arweinwyr, y rhai a wneid, mae'n ddiau, drwy gymsradwyaeth yr " inner circle," yn ddiweddar, Gan nad faint o Ryddfrydwyr gonest, unplyg, oedd yn perthyn i'r " Blaid Ryddfrydig," mae yn amlwg nad oedd ynddi ddigon i'w chadw yn fyw ; mae wedi ei chwalu fel defaid heb fugail, ac nis gellir byth eto ei chyfanu a'i chadw i weithio ar yr hen linellau. Nis gall plaid Ryddfrydig y dyfodol anwybyddu Sosialistiaeth fel yr ydys wedi arfer gwneud yn y gorphenol, canys y mae Sosialistiaeth heddyw yn bren mawr, braidd yn mhob etholaeth, a llawer o bleidleiswyr yn nythu yn ei gangau. Bydd raid i'r gweithwyr gael safle uwch yn ein hetholiadau a'n cynrychiolaethau nag y maent wedi gael hyd yma. Teimla y " Werin " nad yw y Rhyddfrydwyr yn meddwl dim ohonynt heblaw eu bod yn wasanaethgar i'w cario hwy i'r Senedd ac i swyddi, o ba herwydd y mae gagendor fawr rhwng y gweithwyr a'r Ehydd- frydwyr, a myned yn lletach y mae yn barhaus, a thybia rhai ei bod