Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWR8 Y BYD. Rhif 4. EBRILL, 1896. Cyf. VI. CREFYDD YR AUR. " 0 Greenland oer fynyddig, o draethau'r India fawr, Lle treigla ffrydiau Affric eu tywod aur i lawr; O lawer gwlad ddyfradwy, o lanau'r palmwydd gwyrdd, Erfyniant ein cynorthwy rhag coelgrefyddau fyrdd." Gellid meddwl mai prif nodwedd cymeriad y Sais yw dyngarwch, ac mai baich ei swyddogaeth yw gwareiddio barbariaid y byd. Mae sylwi ar y gwareiddiad Seisnig yn gwneud i un feddwl am yr Ymer- awdwr Rhufeinig hwnw, yr hwn wedi iddo droi gwlad aml ei phobl yn anialwch gwag erchyll, a ddywedai, " Dyma wlad fu unwaith yn wrthwynebus iawn i mi ac i Rufain, ond nid oes yma yn awr gj^maint ag un gelyn o'u mewn, mae perffaith heddwch yma yn teyrnasu." Dyna yn union fel y mae y Saeson yn gwneud â'r barbariaid yn mhob gwlad lle y ceir y "tywod aur." Wedi i genadon hedd fyned i wlad anwar a dwyn y bobl o dan ddylanwad y Beibl, anfona y Saeson wŷr yno i fasnachu; anfonir yno drafnoddwr, a phan na fyddo hwnw yn cael ei ffordd anfonir yno long gyda chwmni o wŷr arfog, a llethir neu lleddir pob dyn, a phob teulu o yni a nerth hyd nes y byddo y fFordd yn ddirwystr, yn fuan cyhoeddir fod y bobl yn analluog i agor y wlad, ac mai y fîordd oreu fydd i'r Saeson ymgymeryd a'i dadblygu, a'r cy- hoeddiad nesaf fydd fod y " Paganiaid wedi eu dychwelyd i'r fFydd." Dyna fel y gwnaed yn Madagascar, yn Samoa, Hawaii, yn India, yn China, ie, yn mhob gwlad lle y ceir y "tywod aur." Cymerant afael yn yr aur a diwreiddiant y brodorion o'r tir. Aethant i'r Transvaal yn ddiweddar i gymeryd meddiant o'r golden sand, ond nid i waredu y Barbariaid "o afael coel-grefyddau fyrdd," ond igymeryd meddiant o'r tywod aur. Dywedai un yn ddiweddar wrth son am y gwareiddiad Seisnig nad oedd y Saeson byth yn ymyryd â, nac yn ymosod ar un genedl ond eilunaddolwyr a Phaganiaid, ond y mae y Boeriaid yn y Trans- vaal yn gystal Cristionogion ag un genedl yn Ewrop, yn Lutheriaid i gyd, eto wele y Saeson yn gwneud ymosodiad arnynt, ac yn cynyg eu darostwng.