Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. RHIF 2. CHWEFROR, 1895. Cyf. V. CYMDEITHASIAETH. Gan R. J. DerfeL Llytuyb XXVII. Cyflbnwad a Galwad. GrOROESIAD y Cymhwysaf, &c. Onid ydyw cyfraith cyflenwad a galwad yu ddigon effeithiol i reol- eiddio holl amgylchiadau by wyd ? Nid wyf yn sicr fy mod yn deall beth a feddylir yn yr wrthddadl hon. Hefyd, yr wyf yD anmheus a ydyw y rhai sydd yn ei harfer yn gwybod pa beth a feddyliant wrth ei harfer. Mae îlawer o bobl y dyddiau hyn, fel yn y dyddiau gynt, yn tywyllu cyngor â geiriau heb wybodaeth—hyny ydyw, geiriau nad ydynt yn cynrychioli dim yD neillduol yn meddwl y llefarwr wrth eu harfer. Pe ddechreuwn ddadansoddi Ilawer o'r geiriau a'r ymadroddion a ddyagwyd genym pan yn blant, ac wedi hyny, canfyddwn, mewn siomedigaeth chwerw, nad oedd y wybodaeth y tybiem oedd yn ein meddiant yn ddim angen na pblisgyn o eiriau ac ymadroddion heb dditn ynddynt. Pan y mae amaethwr yn siarad am aradr, mae y gair yn sefyll am wrthrych, sef yr offeryn â pha un y mae y llafurwr yn aredig y tir. Ond pe byddai i'r amaethwr ddechreu chwilio am wrthrychau i lawer o'r geiriau a'r brawddegau a arferir gan- ddo mewn gwladeg, meddyleg, moeseg. crefyddeg ac egau eraili, yr wyf yn meddwl mai ychydig fyddai niter y gwrthrychau a gaffai o danynt. Modd bynag am hyny, mae llawer o bethau eisiau cael eu hegluro mewn cysylltiad â'r hyn a elwir galwad a cliyflenwad. Cyn gwneud defnydd o'r ymadrodd *' cyíionwad a galwad," fel gwrthddadi yn erbyn Cymdeithasiaeth, dylid hyabysu beth a feddylir wrth arfer y geiriau. Darnodwch y gosodiad. Beth feddylier wrth y gair cyfraith ? oes y y fath gyfraith yn bod? Ai cyfraith naturiol ynte cyfraith wneuthurol ydyw ? A ydyw yn gyfraith gyffredinol ynte ranol a chyfyngediií ? A ydyw yn gyfraith anghyfnewidiol ynte yn un y geüir ei newid ? Os oes y fath gyfraith, yn mha fodd y mae yn gweithredu i reoleiddio prisiau.gwaith, cyflog, rhent, Uog, a pheth£,u eraill? Ae os oes y fafe h gyfraith yn bodoli, ac os ydyw yn geithredu yn niweidiol i gymdeithas, onid dyledswydd pob gwladgarwr a dyní»arwr, yn unigol ac yn undebol, ydyw gwneud yr hyn a allaut i wrthweithio y gyfraith, i atal ei heffeithiau, i'w newid am gyfraith arall, neu, os nad ellir gwneud hyny, i reoli ei gweithrediadau yn ddeallgar fel ag i'w gwneud yn Ilesiol yn lle bod yn niweidiol ? Yr ydys yn gwneud yr holl bethau ynamewn cysylltiad â deddfau anianol diamheuol bob dydd. Costrelir y trydan dinystriol a gwneir iddo yru cerbydau ar hyd yr heolydd i gario teithwyr ac eniü elw i'r perchenogion. Gwneir ef yn rhedegwr buan i gario ue>íesau i biant dynion o amgylch ogylch y byd. Cyfraith y tân ydyw Uosgi a difa; ond y mae dyn yn ei reoli ac yn gwneud iddo goginio ei f wyd, cynesu ei dý, toddi ei íwnau, a miloedd o wasanaethau eraill er lles a dedwyddwch i gymdeithas. Ac os digwydd i'r tân gymeryd meddiant o'r tŷ a dechreu ei ddinystrio, mae dyn yn gallu ei orchfygu gyda chyfraith y dwfr, yr hon sydd yn alluog i ddiffodd y tân. Os oes cyfraith cyflenwad a galwad, mae eisiau ei rheoli fel y gwneir gyda chyfreithiau eraill. Swm a sylwedd gwareiddiad ydyw rheoli cyfreithiau bodolaeth a gwneud iddynt gydweithio er daioni i ddyn.