Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Rhif 47. TACHWEDD, 1894. Cyf. IV. CYMDEITHASIAETH. Gan B. J. Derfel Llythye xxiv. gwrthddadleuon a holiadau yn CAEL Eü HATEB. Mae Cymdeithasiaeth yn bwnc raawr a helaeth. Mewn rhyw gyfeiriad neu gilydd, mae yn dwyn cysylltiad â phobpeth a berthyn i ddyu yn unigol j» chymdeithasol. Cynwysa grefydd, gwladlywiaeth, a moesold^b. Mae hanesiaeth hen a ddiweddar. daeareg a daearyddiaeth, physigwriaeth, dyueg a ieitheg, a phob aeth ac eg arall yn rhan amlwg o gymdeithasiaeth. 0 ganlyniad, mae yn amlwg, y byddai yn bosibl i ysgrif'enydd parod ysgrif- enu am oes heb hysbyddu y pwnc. Am hyny, feallai mai doethach fydd i mi hwylio at ddwyn y llythyrau i ben, rhag blino amynedd y darllenwyr, yn enwedig y -fhai sydd ẁedi anfon holiadau a gwrthddadleuon. rhai o honynt cyn i'r ail lythyr ymddangos. Feallai fod rhai erbyn hyn yn meddwl nad oeddwn yn bwriadu cymeryd sylw ohonynt, neu fy mod wedi anghofio eu llythyrau; ond hwy a welaut yn awr mai íy nhrefn oedd gadaei yr holiadau a'r gwrthddadleuon hyd y diwedd heb eu hateb. Gyda hyna o ragymadrodd, awn yn mlaen i sylwi ar, ac i ateb rhai o'r holiadau a'r gwrthddadleuon yn erbyn Cymdeithasiaeth. ac hefyd i roddi eglurhad a mwy o oleuni ar rai pethau y' dywed yr ysgrifenwyr eu bod yn ymddangos yn dywyll idaynt. Gan mai âg egwyddorion ac nid. â phersonau y mae a fynwyf, gwn y maddeua yr ysgrifenwyr i mi am beidio a'u henwi, ac hwyrach am gy mysgu ychydig ar y gẃrthddadleuon a'r holiadau yn Ilythyrau y naill gydag eiddo y Ueilt. Os dilynant y llythyrau, hwy a gant bob un yr ateb a'r eglurhad a geisiant. Er mwyu symlrwydd a deheurwydd i ateb, cymeraf ^enad i droi y gwrthddadleuon i'r ff urf holiadol. A ydyw y byd mor ddrwg ag y mae Cytndeithaswyr yn ei ddarlunio? Mae y byd yn ddrwg ac yn dda. Fel ag y mae gyda ni ddwy genedl— cenedl fach gyfoethog a chenedl fawr dlawd—mae grda ni ddau fyd—byd da helaethwych beunydd, a byd llawn o dlodi a thrueni. Mae y cwmwl yn ddu un ochracynoleu yr ochr arall— feily mae y byd yn ddrwg iawn un oehr iddo ac yn dda iawn yr ochr arall. Dyna yr achos fod gwahanol bersonau yn cael golwg mor v^ ahanol ar y byd, ac nid dim croesni yn llygaid y naill a'r llall. Edrycha un ar yr ochr oleu a dywed fod y byd yn daa ac yn gwe'la yn barhaus, ac y mae hyny yn wir am ran ohono. Edrycha y llall ar yr ochr ddu a dywed yn bendaut fod y byd yn ddrwg iawn, a dywed y gwir. Ac nid yw y darlun a dynir o'r byd gan gymdeithaswyr yn däim hagrach na'r darlun a dynir yn yr Hen Lyfr. Fel hyn y darllenir:— "Nid oes neb cyfiawn, nac oes un:.... Gwyrasant oll, aethaDt i gyd yn an- fuddiol: Nid oeB un yn gwneuthur daioni, nac oes un. Bedd agored yw eu ceg; âu tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn aspiaid sydd o dan eu gwefusau; y rhai y mae eu fenau yn llawn melldith a chwerwedd.' tuan yw eu traed i dywallt gwaed. Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd; a ffordd tangnefedd nid adnabuant ? " Ni ysgrifenodd CymdeithaRwr erioed gyhuddiadau mwy pwysig ac erchyll yn erbyn cymdeithas nag a geir yn y äyfyniadau blaenorol. Heblaw hyny, yr ydym ni yn galw sylw at yr ochr ddu, nid am ein bod yn credu yn ddi- ysgog fod yn bosibl gwnèud y byd yn