Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Rhif 45. MEDI, 1894. Cyf. IV. CYMDEITHASIAETH. Gan B. J. Derfel. Llythie XXII. Rhydüid, Cydraddoldeb, Bbawd- GARWCH. He>í eiriau anrhydeddus ydyw rhyddid, cydraddoldeb, brawdgarwch. Nid oes geiriau mewn unrhyw iaith wedi cyffroi mwy ar deimladau y galon ddynol, wedi creu mwy o obeithion a dyheuadau yn mhiant dynion, wedi taenu mwy 0 oîygfeydd ysblenydd a llesmeiriol o flaen îlygad y meddwl, nag wedi gwroli mwy i aberthu eu hunain mewn gwaaanaeth ferthyrol i'w sylweddoli mewn sefydl- i*adau parhaus. Mae y galon ddynol yn dyheu am ryddid—am berffaith ryddid yn mhob dim a phob man. Rbyddid i feddwl â'i feddwl ei han. Mae dynion a chorphoriaethau o ddynion yn bai*od i feddwl dros ac yn lle pawb eraiü, ac i orfodi pawb eraill i dderbyn eu tybiau hwy, a'u cosbi, pe gallent, am wrthod. Yn ffodus mae meddwl o'r tuallan i gylch gallu neb i lyffetheirio. Nid oes diolch i ddynion am hyny. Er gwaethaf credöau, cynadleddau, a llysoedd eglwysig y byd, gall pob un feddwl fel y myno. Pe gallasai y bobl a wnaethant y credöau gaethiwo y meddwl, fuasai dim un meddwl rhydd ar y ddaear heddyw. Mae y syniad cyfeiliornus a feddianodd feddyliau ebi hynafiaid fod ganddynt hwy hawi i edrych, a gwrando, a öiarad, a meddwl dros ac yn lle pobl eraill, ac mai eu dyledswydd oedd gorfodi pawb hyd y gallent i edrych drwy eu Uygaid hwy, a gwrando â'u cluatiau hwy, a siarad â'u genau hwy, a BOäeddwl â'ú meddwl hwy, wedi achosi trueni ofnadwy yn y byd. Mae dwylaw oerion y meirw yn gwasgu ar yddfau y byw y dydd heddjw, ar ol oesoedd o ymdrech i enill rhyddid, Yn wladol ac yn grefyddol yr ydym yn dyoddef yn barhaus oddiwrth lyffetheiriau a osodwyd arnom gan ein hynafiaid. Careg sylfaen a phen conglfaen Protestaniaeth ydyw hawl pob dyn i farnu drosto ei hun. Mae hawl dyn i famu drosto ei hun yn cynwys hawl i feddwl, i draethu, i wrando ac i weithredu drosto ac iddo ei hun. Byddai hawl i feddwl drosom ein hunain yn ddiwerth íieb ryddid ymadrodd a gweithred. Er hyny nid cynt y rhyddhawyd y Protestaniaid o gaethiwed EglWys Rhufain nag y dechreuasant ail rwymo eu hunain â lyffetheiriau eraill llawn mor anny- oddefol a chadwyni Rhufain. Mae holl eglwysi cred mewn caethiwed. Yr unig ryddid gwirioneddol a fwyn- heir mewn unrhyw eglwys ydyw y rhyddid i wrthod caethiwed pob eglwys ond ei eglwys ei hun. Mwyn- heir y rhyddid hwnw gan y Pabyddion yn gystal a chan y Protestaniaid. Yn yr eglwysi rhyddaf yn y wlad, os mynwch fod yn gymeradwy a der- byniol, rhaid i chwi wisgo hualau yr egîwys hono. Dylai rhyddid—rhyddid perffaith-— fod yn enedigaeth-fraint i bob dyn— rhyddid i feddwl â'i feddwl ei hnn, i edrych â'i lygaid ei.hun, i wrando â'i glustiau ei han, ac i lefaru â'i dafod ei]hun,yn ei eiriau ei hun. Md oes gan neb hawl i werthu ei ryddid* na neb hawl i'w brynu na'i gymeryd oddiarnynt. Mae pob dyn syddwedi cael clustiau, llygaid, tafod a meddwl wedi cael dyledswydd i'w defnyddio drosto ei hun, fel pe na baiasai neb arall jn eu meddianu. Mae genym hawl 1. feddwl a dweyd ein meddwi