Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. Rhif 44. AWST, 1894. Cyf. IV. CYMDEITHASIAETH. Gan B. J. Derfel. Llytuye XXI. Cymdeithasiaeth DICHON"ADWY dan y DBEMí BRESENOL. Mae y rh«i ydynt wedi dilyn y Uytnyrau o'u dechreu erbyn hyn yu deall yn eglur a thrwyadl mai enaid a hanfod Cymdeithasiaeth ydy w undeb cydweithredol o'r holl bobl. Gwelsom fod llawer iawn o bethau pwysig a gwerthfawr yu barod yn eiddo cymdeitha&ol, a bod yr eiddo cyffredin yn ychwanegu yn barhaus. Ond mae y pethau hyny oll wedi cael eu cymdeithasu trwy rym cyfraith; a thrwy rym y gallu gwladol. mae yn ddiau. y cymdeithasir llawer o bethau eraill cyn yr ä llawer o fiynyddoedd heibio. Ond yn y llythyr hwn, mae arnaf eisiau galw sylw at bethau a gym- deithaswyd yn wirfoddol heb un cym- horth gan y gallu gwladol; ac oddi- wrth yr hyn a wnaed yn wirfoddol i awgrymu y posibilrwydd i wneud Uawer iawn o bethau eraill heb aros wrth y llywodraeth i'w cychwyn. Mae dadblygjad yn gweithio yn araf iawn. Cymer oesau yn fynych i ddwyn cddiamgylch y cyfnewidiad Ueiaf yn sefydliadau y bobl. Medd- yliwch am y blynyddoedd meithion sydd wedi myned heibio er pan gychwynwyd symudiad y Dadgysyìlt- iad. Ér fod Dadgysylltiad megys yn ymyl yn Nghymru, mae yn mhell o f od yn addfed yn Lloegr. Ac er mor addfed ydyw y mater yn y Dy wyso- gaeth, mae yn bosibl y gall amgylch- iadau ohirio ei gyflawniad am flynydd- oedd lawer eto. Mae Uawer Ilithriad rhwng y llaw a'r genau. Pe diÿwyddai i'r arweiuydd fethu llywodraethu y mwyafrif cymedrol o'i blaid, mae yn anmhosibl i neb ddyfalu, gyda dim sicrwydd, beth fyddai y canlyniadau. Pe digwyddai y fath aflwydd, gallai Ymreolaetli i'r Iwerddon a Dadgysylltiad i Gymru gael eu johirio am flynyddoedd. Mae Tỳ y Cyffredin wedipasiopenderfyniad o blaid y Dewisiad Lleol lawer gwaith; ond er hyny, ac er holl ymdrech a threulion y cynghrair am flynyddoedd mor feithion, prin y gellir ciweyd fod unrhywsicrwyddam lwyddiant bu;in yn ganfyddadwy hyd yn hyn. Mae buddianau sefydledig lluaws mor fawr, yn gymhlethedig âr fasnach feddwol, fel y mae yn fwy na thebygol y rhaid brwydro yn hir ac yn gaìed eto am lawr o flwyddi cyn y gellir disgwyl am fuddugoliaeth lwyr a therfynol ar y gelyn. Canfyddwyd nerth a dylanwad y ddiod yn yr etholiad diweddaf. Fel y mae gwaethaf y modd, mae canoedd o filoedd o bleid- leiswyr ein gwlad yn brynadwy am wydriad o gwrw, a thra í>yddo hyny yn parhau bydd gwaith pleidwyr sobrwydd fel yn rhwyfo yn erbyn ỳ llif. Ar hyd y ganrif bresenol mae diwygwyr wedi bod yn cynhyrfu ar adegau am bleidlais i bob dyn mewn oed, am daliad i'r Seneddwyr a threulion yr etholiad allan o'r trethi, am fyrhau tymhor y Senedd, a diwygio Ty yr Arglwyddi, a phethau eraill, ac eto nid all y mwyaf hyderus anturio dweud eu bod ar fin cael eu cyflawni. Mae rhai o honom wedi heneiädio yn swn cynhyrfiadau am welliantau angenrheidiol a rhesymol heb eu meddianu, nes ydym bron ac an- obeithio aru weled dim yn cael ei wnfpid yn llwyr a buan.