Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. CYF. XIII. TACHWEDD, 1901. Rhif II. ^-BÜDIHET>i. -sg. YR oedd Budiaeth, yn oí Syr W. Jones, yn grefydd adnabyddus a sefydlog yn yr India, pan cedd Dafydd yn chwareu ei delyn yn Bethlehem. Mae y beirniaid yn amrywio am yr amser, ond y maent yn uifarn fod Budiaeth yn fiodeuog yn amser y caethgludiad i Babilon ; ond gan fod y beirniaid yn gwahaniaethu cymaint am yr am&er, ni atebai un dyben i mi gynyg rhesymau o blaid y naill na'r llall, Byddir yn sia;ad yn fynych am Budha a Budiaeth fel pethau i w dirmygu, a hyny gan bersonau nad ydynt yn gwybod dim am danynt. Yr wyf yn cofìo clywed dyn fíynyddoedd yn ol yn myned i hwyl uwchben Anffyddwyr, ac yn eu henwi yn rhes fel rhai i'w gochel— Tom Paine, Voltaire, Shakespeare, a Darwin. Wrth fyned adref, gofynais os oedd yn ^yfarwydd a rhai o'r Ilyfrau oedd yn enwi; ateb- odd yn nacaol, ac nad oedd arno eisieu eu gweled byth. Felly hefyd am Budha : wedi chwilio i mewn i'w hanes, cawn ei fod yn un o ddynion goreu ei oes, a bod yn y system grefyddol a sefydlodd lawer o ragoriaethau y byddai yn werth i lawer o Gristionogion eu hactio. Rhoddwn yma ychydig o hanes Budha, a braslun o'r athrawiaethau a ddysgai Ganwyd ef yn Oude, lle yr oedd Sudahonda yn teyrnasu, i'r hwn, pan oedd oddeutu priodi, yr ymddangosodd angel neu angylion, a dywedasant wrtho fod ei ddarparwraig Maya, brenhìnes y nefoedd, yr hon oedd forwyn bur, yn feichiog, ac y byddai yr hyn a enid o honi yn athraw galluog i'w genedl, a boddlonodd y brenin i'r drefn. Cymerodd y cenhedliad le yn wyrthiol, a'r frenhines a ddywedodd wrth ei gwr: " Mae un cryf, gwynach na'r eira, dysglaeriach na'r arian, a mwy llachar na goleuni haul na lloer, wedi ei genhedlu yn fy nghroth. Clyw, mi a welais y tair Ymerodraeth o dan belydr goleuni claet, a myrddiwn o angylion yn yr awyr yn canu fy nghlod." Wedi i'r cenhedliad gymeryd lle, ymddangosodd llu o angylion i Sudahonda, a chanasant emyn yn debyg i hyn : " Yn hardd mewn iawnder a thynerwch pur, O'r nef i'r ddaear lawr daeth Budha ; Ac ar ei daith fe ga'dd addoliad gwir, Am dd'od i groth y wyryf Maya."