Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CWRS Y BYD. CYF. XII. HYDREF, 1901. Rhif 10. ARLYWYDD AMERICA YN EI FEDD. Bu farw'r Arlywydd, trydariwyd y byd, Dynoliaeth a Rhtnwedd gydsafant yn fud; Cydwyla Gweriniaeth â Rhyddid ei hun, Waith colli o honynt mor gynar eu dyn. Mae Bwrop yn welw yn crymu ei pfien, Mae'r ergyd fel tryblith yn "duo y nen ; Mae telyn cymdeithas yn Ilöriydd gerllaw, A thafod gwareiddiad yn fud yn ei fraw. O'r Werydd ymrolia y galar yri gŷnt I lanau'r Tawelfor na chwaon y gwynt; Ond dyma sy'n gysur—er marw y llyw, Fod Llywydd Ilywyddion y ddaear yn fyw. Ar edyn y fellten cydw/la y llu A'r genedl sydd heddyw yn fud yn ei du ; Dymuna dyngarwyr y ddaear i gyd Nawdd Duw i'r Weriniaeth hyd ddiwedd y byd. Ond ni chá Gweriniàeth drwy'r ddaear i gyd Fwy pur cydymdeimlad na chan Gwrs y Byd ; Ow I Lincoln a Garfleld, McKinley nid yw, A ninau gollasom Llewelyn ein Llyw. 'Nol ymladd o honynt yn ddewr yn y gad, Eu bywyd gymerwyd gan erchyll law brad; A mwy ar eu b^ddau cydgrymwn ein pen, Ond peidiwn a grwgnach, mae Duw yn y nen.