Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWR8 Y BYD. Cyf I. Rhif 2. CHWEFROR 1891. Pris Dwy Geiniog anfànteision Y Rhwystrau sydd YMNEILLDUAETH, NEU ar ffordd Ymneillduaeth Nghymru. yn Papyr a ddarllenwyd gan y Parch. M. Davies, Abergele, yn Nghyfarfod Chwarterol Dinbych a Fflint, a gynhaliwyd yn Mostyn, Medi 17eg, 1890. Pabhad.— Mae y ddyled drom sydd ar addoldai ym- neillduwyr yn sicr o fod yn anfantais fawr iddynt, ond prin y caniateir i ni son am arian, am rwystrau dyled, nad yw y bobl yn myned yn anonydd ac anfoddog, ac yn barod i gwyno, " arian, arian yw'ch cân chwi o hyd," ond gellir gyda llawer o briodoldeb gymhwyso geiriau Iesu ar fater arall at y cyfry w, " os dywedais i chwi bethau daearol ac nid ydych yn deall, neu yn credu, pa fodd os dywedaf i chwi bethau nefol y deallweh." Ai posibl fod yr eglwys hono nad yw yn credu mewn bod allan o ddyled yn credu mewn myned i'r nefoedd. Arwydd ddymunol o fywyd eglwys yw fod son am gasgliad ì dalu y ddylecl mor dderbyniol a haner awr o bregeth ar rad ras. Mae'n wir fod ym- neillduaeth yn cynal ei hun, ond y mae mewn llawer aragylchiad yn symud mor drwstan ac afrosgo gyda llyfetheiriau o ddyled am ei thraed nes ei gwneud yn wrthrych tosturi i'r neb a sylwo arni. Ond wrth ystyried fod y gwahanol enwadau wedi adeiladu cynifer o addoldai yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, prin y gellid disgwyl pethau i fod yn well yr adeg hon ; hon yw awr profedigaeth — dyledion yr eglwysi ymneillduol, ond gellir ar yr un pryd ddywedyd am lawer eglwys yn y cyfeiriad hwn, " Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth." Un o ddiffygion mawrion ymneillduaetb yw na byddai ganddi drysorfa i gynorthwyo eglwysi, mae gan rai enwadau drysorfa o'r natur hyn, ond nid ydynt amgen pethau anhymig, dylai fod eu cortynau yn cyrhaedd i bob lle y byddo galwad am addoldy, a hawdd fyddai i bob enwad gael un, ond cael cydweithrediad yn ein plith ein hunain. Byddai yr Iuddewon yn arfer taflu un ran o ddeg o'u henillion at wasanaeth crefydd, a phe gwnai ymneillduwyr yr un peth buan y diddymid dyledion addoldai y wlad. Pe sefydlai pob enwad drysorfa felly, neu bob Cyfundeb yn mhob enwad, tybed nad oes yn ein plith gyfoethogion ddeuai allan i'n cynorthwyo fel tywysogion i gysegru yr allor a phiolau arian, a llwyau aur, a byddai genym yn fuan ddigon at wasanaeth y Tabernacl. Mae y dyledion trymion hyn yn sicr o fod yn rhwystr mawr ar ffordd llwyddiant ymneillduaeth drwy y wlad, Prynodd Iesu ei eglwys a'i waed ; ai tybed ei fod yn ormod i ninau ei chadw o ddyled ? Mae yn amlwg fod Mr. Dayies yn fwy cydnab- yddus ag anfanteision "dyled capel," nag ag anfanteision talu degwm, mae ganddo brofiad o'r naill ond dini o'r llall, ac nid oes ddysg fel profiad. Mae yn resyn fel y bydd eglwysi yn myned i ddyled i gael capel newydd ac wedi ei gael y baich yn rhy drwm iddi allu cadw y peirianwaith mewnol i fyned yn deilwng o'r allanol. Lle y byddo eglwys yn talu llog ar £500, am 20 mlynedd yn ol £5 y cant, bydd y ddyled mewn ystyr wedi myned yn £1,000, canys y mae arian yn ol pum' punt y cant yn dyblu mewn ugain mlynedd, dyna'r holl arian wedi eu talu heb fod neb o'r cyfranwyr mewn ystyr arianol ddim yn well. Ni ddylai cynulleidfa anturio adeiladu capel heb yn gyntaf gasglu haner yr arian a bod rhywrai yn y gynulleidfa yn barod i roddi benthyg y gweddillyn ddilog. Byddai cael trysorfa yn dda ond iddi gael ei rheoli yn ddoeth, a diau y rhoddai ein cyfoethogion fenthyg symiau o ariau i'n cynorthwyo, arian sydd yn awr yn y banciau Ue na cheir am danynt oud ychydig neu ddim Uog, ie, pe ceid benthyg £20,000, ar y llog & geir yn gyffredin yn y banc, byddai y fantais